Colli swyddi 'yn bosib' yn sgil costau uwch cynghorau

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaethau

Mae awdurdodau lleol Cymru yn wynebu £200m o gostau ychwanegol yn y flwyddyn ariannol nesaf, oherwydd cynnydd ym mhrisiau ynni a chostau eraill, yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Maen nhw'n rhybuddio bod dim modd diystyru colli swyddi mewn cynghorau na thoriadau i wasanaethau.

"Does dim modd gorbwysleisio maint yr her sy'n wynebu cynghorau", meddai'r gymdeithas.

Mae cynllun i gefnogi y sector cyhoeddus a busnesau wedi ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU, a dywedodd llefarydd: "Mi fyddwn yn cyhoeddi adolygiad i'r ffordd mae'r cynllun yn gweithio mewn tri mis i wneud penderfyniadau am gefnogaeth bellach ar ôl mis Mawrth 2023."

Pan fu Cyngor Sir Penfro yn wynebu pwysau ar eu cyllideb wyth mlynedd yn ôl, cafodd y pwll nofio yn Arberth ei drosglwyddo i'r gymuned leol.

Ers hynny maen nhw wedi mynd o nerth i nerth, gyda channoedd o bobl yn gwneud defnydd ohono bob wythnos.

Ond yn ôl Martin James, un o ymddiriedolwyr y pwll, mae cynnydd mewn costau yn golygu eu bod nhw bellach yn poeni am y dyfodol.

"Mae'r costau ynni wedi saethu i fyny'n ddiweddar, mae costau clorin wedi codi," meddai.

"Mae'n anodd iawn, felly rydyn ni'n eithaf pryderus am ddyfodol y pwll ac a fyddwn ni'n gallu aros ar agor ai peidio."

Nid gwasanaethau sy'n eiddo i'r gymuned yn unig sy'n wynebu heriau. Yn ôl y cyngor, ysgolion a chanolfannau hamdden sy'n defnyddio y mwyaf o ynni.

Mae gan Sir Benfro, fel nifer o gynghorau, gytundeb ynni sefydlog tan fis Ebrill y flwyddyn nesaf, felly y gwir bryder yw beth sy'n digwydd ar ôl hynny. Maen nhw'n dweud y gallai biliau ddyblu pan fydd cytundebau'n cael eu hadnewyddu.

Pwysau ar ysgolion

Yn Ysgol Gymunedol Aberdaugleddau, mae'r pennaeth dros dro, Nick Dyer, yn paratoi am gyfnod anodd.

"Rwy'n credu ein bod yn paratoi ein hunain ar gyfer storm ar y gorwel, efallai nad yw'n bwrw glaw eto ond rydym yn disgwyl iddi wneud," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Nick Dyer ydy Pennaeth Dros Dro Ysgol Gymunedol Aberdaugleddau

Dywedodd fod cyllidebau ysgolion eleni wedi ystyried y cynnydd mewn costau ynni, ond y gallai'r cynnydd mewn biliau y flwyddyn nesaf effeithio ar adnoddau a swyddi.

"Beth ydyn ni ddim yn gwybod yw beth fydd yn digwydd ar ôl Ebrill 2023, ond yn barod ry'n ni'n edrych arno ac yn meddwl y gallai fod yna gynnydd o 100% neu fwy mewn costau.

"Os nad yw ysgolion yn cael eu hariannu ar gyfer hynny fe fyddwn ni wir yn ei chael hi'n anodd... a chi'n dechrau siarad wedyn am gyflogau ac adnoddau i blant."

Mae tua thri chwarter y plant yn ysgol Mr Dyer yn byw mewn tlodi ac felly maen nhw eisioes yn cadw llygad barcud ar ddarparu cefnogaeth lles ychwanegol i'r teuluoedd hynny sy'n ei chael hi'n anodd.

Y pwysau ar gyllideb cartrefi fydd yn cael yr effaith fwyaf ar yr hyn mae'r ysgol yn ei ddarparu, meddai: "Beth ni'n gwybod yw pan mae costau yn mynd lan mae straen yn mynd lan i deuluoedd, a phan mae straen yn mynd lan mewn teuluoedd mae'r angen i ysgolion roi cefnogaeth."

Mae hynny yn golygu y byddan nhw angen mwy o staff i gysylltu â gwasanaethau cymdeithasol. Ond fe allai pwysau ar eu cyllideb olygu y bydd yn rhaid iddyn nhw wneud mwy gyda llai o arian y flwyddyn nesaf."

Colli swyddi

Mae'r un peth yn wir am yr awdurdod lleol yn ei gyfanrwydd.

"Pan mae amseroedd yn mynd yn anoddach mae'r galw yn codi", meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Paul Miller.

Mae gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau digartrefedd, gwasanaethau teuluol ac ysgolion i gyd yn gweld cynnydd yn y galw mewn hinsawdd economaidd anodd.

"Mae'n eithaf difrifol. Rydyn ni'n siarad am bwysau o £5m eleni. A'r flwyddyn nesaf ni'n amcangyfri ein bod ni'n edrych ar tua £18.5m o ddiffyg."

Disgrifiad o’r llun,

Y Cynghorydd Paul Miller yw Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Penfro

Mae'n ofyniad statudol ar awdurdodau lleol i gydbwyso eu llyfrau, ac felly mae diffygion yn anochel yn golygu toriadau i wasanaethau.

Yn ôl y Cynghorydd Millar, allan nhw ddim diystyru colli swyddi: "Costau staff yw cyfran sylweddol o'n costau ac felly dydyn ni ddim mewn sefyllfa lle gallwn ddiystyru [colli swyddi]."

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru'n dweud nad Sir Benfro yn unig sydd â phryderon fel hyn ac mae cynghorau Cymru'n wynebu diffyg o £200m yn eu cyllidebau y flwyddyn nesaf.

'Deall y pwysau'

Yr wythnos hon, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU gynllun fyddai'n torri biliau ynni i gynghorau a busnesau am chwe mis.

Ond "ni ellir gorbwysleisio maint yr her" wrth i awdurdodau lleol wynebu cynnydd o hyd at 285% mewn costau ynni, meddai'r Cynghorydd Anthony Hunt o Dorfaen, llefarydd cyllid Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

"Mae gwasanaethau lleol yn wynebu cynnydd o hyd at 285% mewn costau ynni, sy'n golygu y bydd angen llawer mwy o gefnogaeth gan Lywodraeth y DU i ateb y pwysau eithriadol."

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Rydym yn deall y pwysau mae busnesau, elusennau a'r sector cyhoeddus yn wynebu gyda'u biliau ynni a dyna pam mae Llywodraeth y DU wedi gweithredu ar unwaith i sicrhau bod cwsmeriaid wedi eu hamddiffyn dros gyfnod y gaeaf.

"Mi fyddwn yn cyhoeddi adolygiad i'r ffordd mae'r cynllun yn gweithio mewn tri mis i helpu wneud penderfyniadau am gefnogaeth bellach ar ôl Mawrth 2023."

Pynciau cysylltiedig