10 ffordd arall o gyfarch ar ddiwrnod Shwmae Su'mae
- Cyhoeddwyd
Shwdi! Mae 15 Hydref yn Ddiwrnod Shwmae Su'mae.
Bwriad y diwrnod yw annog pobl i ddechrau sgwrs bob dydd yn Gymraeg wrth ddweud shwmae, su'mae, neu shwdi, waeth faint o Gymraeg mae rhywun yn ei ddeall.
Ond beth am y ffyrdd eraill o gyfarch yn Gymraeg? Mae llond gwlad ohonyn nhw.
Cymru Fyw sydd wedi paratoi rhestr o ddeg ffordd arall o gyfarch yn Gymraeg.
1. Henffych!
Mae "Henffych" yn mynd yn ôl i'r 10fed ganrif. Yr ystyr yw 'bydd' felly ers talwm byddai pobl yn defnyddio rhywbeth ar ei ôl fel "Henffych well!" sy'n golygu "Bydd well!"
Bellach, mae "Henffych" yn cael ei ddefnyddio ar ei ben ei hun os yw rhywun eisiau cyfarch yn fawreddog, gyda thafod yn y boch neu er mewn atgyfodi gair da!
Un sydd wedi ei atgyfodi dros y blynyddoedd diweddar yw'r cyflwynydd Derek Brockway wrth gyfarch gwylwyr tywydd BBC Wales.
2. Iawn?
Yn syml, "Iawn?" a'i ddweud gan ddefnyddio'r llais fel eich bod yn hanner gofyn cwestiwn. Mae hyn i'w glywed yn aml iawn yn Arfon.
Mae un gair unsill gyda'r grym i ddweud "Helô" a gofyn sut mae rhywun ar yr un pryd, heb unrhyw ddisgwyliad bod rhaid ateb! Da 'de!
3. Shwt mai'n ceibo?
Mae "Shwt mai'n ceibo?" yn gyfarwydd yng Ngheredigion i gyfarch ac awgrymu sut mae pethau'n mynd. Mae ceibo yn dod o'r gair caib am gloddio'r tir â chaib.
Roedd "Shwt mai'n c'ibo" hefyd yn rhan o iaith y glowyr oedd yn ceibio'r glo. Os oeddent wedi cael haenen dda o lo roedd y ceibio bach yn haws na phan oedd yn rhaid torri drwy'r garreg galed i gyrraedd yr wythïen lo.
4. Hawddamor
Dydi "Hawddamor" ddim mor hen â "Henffych" ac mae'n golygu rhywbeth tebyg i "Iechyd da".
Yn yr hen amser fe fyddai enwau yn cael eu treiglo wrth eu cyfarch hefyd, er enghraifft, "Hawddamor i ti, Ddafydd!"
Un sy'n cyfarch gyda "Hawddamor!" ar adegau yw'r cyflwynydd Gerallt Pennant.
Eglurodd ar raglen Aled Hughes, Radio Cymru rai blynyddoedd yn ôl: "Mae'n golygu hawddfyd, boed llewyrch i dy lwybr, beth bynnag - rhyw groeso cynnas, ac anwesol. Mae o'n well na "Helô" dydi!
"Faswn i ddim yn ei ddweud o bob dydd a mae'n dibynnu ar y cwmni. Mae'n ffordd o gael bach o hwyl a chael campau geiriol."
5. Ffor' wyt ti?
"Ffor' wyt ti?" nid "Sut wyt ti?" mae pobl ardal Machynlleth yn dueddol o ddweud.
6. Iawn gei?
Mewn ardaloedd yn Sir Fôn gan gynnwys Gwalchmai a Llangefni mae "Iawn gei?" neu "Iawn gai?" yn cael eu defnyddio.
Mae rhai'n amau bod "gei" a "gai" wedi dod o'r gair guy yn Saesneg.
Un sy'n cyfarch gyda "Iawn gei?" yw'r artist Lisa Eurgain Taylor o Rosmeirch ger Llangefni.
7. Pa hwyl?
Ffordd fonheddig o gyfarch sy'n cael ei ddefnyddio mewn sawl ardal yn y gogledd.
Er bod y cyfarchiad yn gofyn cwestiwn does dim rhaid ei ateb, mae nodio pen yn ddigon!
8. Shwdi poni!
Fe wnaeth DJ Bry anfarwoli "Shwdi poni!" ar blatfform Hansh, S4C. Mae'n cael ei ddefnyddio yng Ngheredigion, gogledd Sir Benfro ac yn ychydig o bobman bellach... diolch i DJ Bry!
9. Sut mae'n gyrru?
Mae "Sut mae'n gyrru?" i'w glywed yn Llanrwst a Dyffryn Conwy.
Mae'n gyfarchiad tebyg i "Sut mae'n mynd?" a "Sut mae'n hongian?".
10. Ti'n o lew?
Unwaith eto, mae pobl Cymru yn hoff o allu cyfarch a gofyn sut mae rhywun yr un pryd. Mae "go lew" yn ymadrodd sy'n gyffredin mewn sawl ardal yng Nghymru.
Cyfarchiad: "Ti'n o lew?"
Ateb: "Lew iawn!" / "O, dwi'n o lew 'de."
Yn aml bydd goslef y llais wrth ateb gyda "Dwi'n o lew" yn awgrymu os yw rhywun yn 'o lew o hapus' neu'n 'o lew o drist'.
Hefyd o ddiddordeb: