Pedwaredd wythnos o gynnydd mewn achosion o Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
swabFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae lefelau Covid-19 yng Nghymru wedi cynyddu am y bedwaredd wythnos yn olynol, yn ôl arolwg diweddara'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Yn yr wythnos hyd at 29 Medi roedd yna amcangyfrif bod 74,900 o bobl wedi cael eu heintio yng Nghymru - y nifer wythnosol uchaf ers diwedd mis Gorffennaf.

Mae hynny'n 1 o bob 40 o bobl, neu 2.47% o'r boblogaeth.

Er mai dyma'r bedwaredd wythnos o gynnydd, roedd y patrwm yn ansicr yn yr wythnos ddiweddara.

Mae'r amcangyfrifon dyddiol diweddaraf yn dangos bod achosion yn uwch mewn pobl hŷn yng Nghymru, gan gynyddu i 3.47% ymhlith y rhai dros 85 oed.

Mae'r amcangyfrif wythnosol diweddaraf ar gyfer Gogledd Iwerddon hefyd yn 1 o bob 40 o bobl, 1 o bob 50 yn Yr Alban lle mae'r patrwm yn aneglur, ac 1 o bob 45 yn Lloegr.

Mae nifer y cleifion ysbyty sydd â Covid-19 hefyd ar gynnydd, ac ar hyn o bryd mae'n uwch na'r modelu ar gyfer y gaeaf, ond dim ond 5% o'r cleifion sy'n cael eu trin yn bennaf am y feirws.

Roedd nifer y cleifion oedd yn profi'n bositif am Covid-19 mewn ysbytai yn 533 y dydd ar gyfartaledd yn yr wythnos hyd at 11 Hydref - cynnydd o 29% o'i gymharu â'r wythnos flaenorol.

Pynciau cysylltiedig