Ofnau y bydd hi'n aeaf caled yn sgil ffliw a Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Covid booster jabFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd oddeutu 13,500 o frechlynnau atgyfnerthu eu rhoi bob dydd yng Nghymru yn ystod yr wythnos ddiwethaf

Ar ei waethaf y gaeaf hwn, gallai dros chwarter gwelyau ysbytai Cymru fod wedi eu cymryd gan gleifion â Covid, ffliw neu salwch anadlol eraill, yn ôl y rhagolygon diweddaraf.

Mae'r "sefyllfa waethaf" yn awgrymu y gallai 2,750 o welyau fod yn llawn ar frig ton salwch y gaeaf.

Wrth gyhoeddi ei chynllun ar gyfer y gaeaf, dywedodd y gweinidog iechyd "nad oedd hi fyth yn rhy hwyr i gael brechiad".

Y gaeaf diwethaf, fe wnaeth y DU osgoi'r tymor ffliw arferol, a hynny oherwydd bod cymaint o bobl yn gwisgo mygydau.

Ond mae modelu gan wyddonwyr Llywodraeth Cymru yn awgrymu y gallai cleifion Covid, ffliw neu salwch anadlol eraill lenwi 28% o welyau ysbytai Cymru "ar ei waethaf".

Y sefyllfa "mwyaf tebygol" yw y bydd tua 14% - neu 1,400 o welyau ysbytai Cymru - wedi eu cymryd.

Mae disgwyl i'r nifer uchaf o dderbyniadau ysbyty yn sgil Covid fod o gwmpas tua 100 o gleifion ym mis Rhagfyr, yn ôl yr adroddiad gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth.

"Mae'n bosib y gallen ni weld gaeaf cymharol dawel yn nhermau pwysau oherwydd ffliw, Covid a salwch anadlol eraill, fodd bynnag, dyw 'gobeithio' ddim yn strategaeth gynllunio dda," yn ôl awduron yr adroddiad.

'Gaeaf caled o'n blaen'

Yn ôl Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, mae nifer yr achosion yn codi eisoes.

"Mae'n anodd rhagweld ond mae'n ymddangos wrth i ni gyrraedd mis Tachwedd y bydd y niferoedd llawer iawn yn uwch," meddai.

"Does gennym ddim mo'r imiwnedd a oedd gennym yn y ddwy flynedd ddiwethaf gan bod cymaint o fesurau yr adeg hynny yn ein hatal rhag cael feirysau anadlol," meddai.

"Felly ry'n yn hynod bryderus bod gaeaf caled o'n blaen."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Dai Samuel bod mwy a mwy o gleifion angen triniaeth am Covid hir

Mae staff y Gwasanaeth Iechyd "ar eu gliniau" yn barod, yn ôl meddyg blaenllaw.

Dywedodd Dr Dai Samuel, sy'n ymgynghorydd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, fod wardiau'r ysbyty yn llenwi yn barod.

"'Da ni yn becso ac yn pryderu'n fawr am be' sydd o'n flaen ni yn yr hydref a gaeaf," dywedodd ar raglen Dros Ginio ar Radio Cymru.

"Mae nifer fawr o bobl jyst yn cerdded i ffwrdd o'r NHS nawr a'r gwasanaethau gofal achos maen nhw jyst 'di cael digon."

Ychwanegodd Dr Samuel fod cael y brechlyn yn erbyn Covid-19 a'r ffliw yn hollbwysig y flwyddyn hon er mwyn sicrhau fod y Gwasanaeth Iechyd yn gallu ymdopi.

"Os 'da chi yn gallu cael brechiad y ffliw a'r brechlyn Covid, ceisiwch cael 'ny."

Mae ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod 66% o'r rhai sydd mewn cartrefi gofal wedi cael brechlyn atgyfnerthu'r hydref, er bod y nifer yn ymddangos cyn ised â 17.5% yn Sir Benfro.

Y nod yw brechu'r rhai sy'n gymwys erbyn diwedd Tachwedd - roedd 363,023 wedi cael pigiad erbyn 5 Hydref.

Mae meddygon yn poeni y bydd achosion o ffliw a Covid yn ychwanegu at y pwysau sydd eisoes ar y gwasanaeth iechyd - gan gynnwys pobl sydd eisoes ar restrau aros ac sy'n dweud bod eu cyflyrau yn gwaethygu.

Dywed Dr Phil White, sy'n arwain y gwaith o frechu ar bwyllgor meddygon Cymreig y BMA, y gallai'r achosion o'r ffliw fod "yn sylweddol uwch" o gymharu â'r ddwy flynedd ddiwethaf - dyna sydd wedi digwydd yn Awstralia a gwledydd eraill hemisffer y de.

Fel arfer, mae'r hyn sy'n digwydd yn y DU yn debyg i batrwm y gwledydd hynny.

"Ym misoedd Rhagfyr ac Ionawr, mae'n bosib bydd y sefyllfa yn epidemig os nad ydyn yn sicrhau bod y sawl sydd angen brechlyn rhag y ffliw a Covid yn cael un," meddai.

Yn ychwanegol, y nod yw bod y sawl sy'n gymwys i gael brechlyn y ffliw yn cael un erbyn diwedd Rhagfyr.

Ymhlith y rhai a gafodd frechlyn ddydd Llun roedd Katie sy'n gweithio yn adran geneteg feddygol Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

"Ry'n yn gweld lot o gleifion sydd ag imiwnedd gwan yn cael cemotherapi," meddai.

"Wrth amddiffyn fy hun rwyf hefyd yn amddiffyn nhw a phobl eraill o fewn yr adran, er mwyn sicrhau bod ein cleifion yn cael y canlyniadau angenrheidiol ar gyfer gwella.

Dywed Janet Ferguson, o Gaerdydd, ei bod yn teimlo ei bod yn bwysig iawn ei bod yn cael y pedwerydd pigiad.

"Hynny oherwydd fy oedran a hefyd rwy'n gweld llawer o henoed, ac felly mae'n amddiffyn nhw hefyd," meddai.