Seiclwraig wedi marw mewn gwrthdrawiad gyda char
- Cyhoeddwyd

Mae seiclwraig 35 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad gyda char.
Dywedodd Heddlu De Cymru ei fod wedi digwydd ar yr A48 yn sir Pen-y-bont ar Ogwr ger y gylchfan yn Nhrelales am 09:10 fore Sul.
Derbyniodd y ddynes, o Ben-y-bont ar Ogwr, driniaeth yn y fan a'r lle gan aelodau o'r cyhoedd a'r gwasanaethau brys ond bu farw'n ddiweddarach yn yr ysbyty.
Gofynnir i unrhyw un a welodd y digwyddiad i gysylltu â'r heddlu.