Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
A483 rhwng cyffordd 6 a 7

Mae dyn oedd yn cerdded ger ffordd yn Wrecsam wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad.

Cafodd yr heddlu eu galw am 22:40 nos Sadwrn 15 Hydref i ran o ffordd yr A483 yn ardal Gresffordd.

Roedd y dyn yn cerdded tua'r de rhwng cyffordd 7 a 6.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, dywedodd yr heddlu fod y dyn wedi marw yn y fan a'r lle.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth.

"Mae ein meddyliau gyda theulu'r dyn fu farw," meddai Sarjant Jason Diamond o'r Uned Plismona Ffyrdd.

"Hoffwn ddiolch i bawb sydd eisoes wedi cysylltu â ni, ond ry'n ni'n ymbil ar unrhyw un oedd yn teithio ar hyd yr A483 ar adeg y gwrthdrawiad i gysylltu â ni'n syth."

Pynciau cysylltiedig