'Ofn cael bath wedi llosgiadau potel ddŵr poeth'
- Cyhoeddwyd
Mae yna rybudd i bobl fod yn ofalus os am ddefnyddio potel ddŵr poeth i'w cynhesu yn ystod yr argyfwng biliau ynni wedi i fenyw o Sir Gâr ddioddef llosgiadau "erchyll".
Fe gafodd Helen Cowell, sy'n 45 oed ac o Frynaman, anafiadau difrifol i'w choesau a'i phen ôl wedi i'r botel roedd yn ei defnyddio, i liniaru poen cefn cronig, falu gan ollwng dŵr berwedig drosti.
Bu'n rhaid ei rhuthro i Ysbyty Treforys fis Ebrill diwethaf ac mae hi'n dal yn dod i delerau ag effeithiau corfforol a meddylion yr anaf.
Mae staff Canolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru yr ysbyty'n ofni y bydd yna gynnydd mewn achosion o'r fath wrth i bobl ymatal rhoi'r gwres ymlaen dros y misoedd nesaf mewn ymgais i osgoi biliau mawr.
Rhybudd: Fe allai'r cynnwys isod beri gofid i rai
'Sgrechian yr holl ffordd'
Roedd Helen yn gorwedd ar soffa gyda'r botel ar ochr ei choes pan arllwysodd ddŵr berw drosti.
Mae'r boen, meddai, yn amhosib i'w disgrifio ond fe fydd yn ei gofio "am weddill fy oes".
Doedd dim amser i feddwl am aros am ambiwlans felly fe gafodd ei chludo i'r ysbyty "yng nghefn car fy merch, wyneb i lawr yn sgrechian yr holl ffordd i Dreforys".
"Es i'n syth i mewn. Dwi jyst yn cofio bod mewn ystafell yn yr uned gofal dwys a dydw i ddim yn cofio llawer arall - dim ond y boen," meddai.
"Doeddwn i ddim yn gallu cerdded yn iawn am ychydig, oherwydd y niwed i'r nerfau yn fy nghoesau, a bu'n rhaid i mi ddefnyddio ffrâm Zimmer."
Mae'n bosib, medd Helen, y bydd ganddi greithiau am byth, ac mae hynny'n ei gofidio am eu bod yn "weladwy" os ydy hi'n gwisgo siorts ond mae'r creithiau meddyliol wedi ei llorio.
"Fedra' i ddim cael bath, mae gormod o ofn arna' i," meddai. "Rhaid i mi gael cawod lugoer.
"Os ydw i'n berwi tatws neu lysiau fedra'i ddim eu draenio. Rhaid i fy merch wneud hynny i gyd. Wna'i ddim arllwys tegell.
"Dydy pobl ddim yn meddwl am y pethau yma. Ofni tegell sy'n berwi - doeddwn i ddim yn gallu yfed coffi na phaned am bron i dri mis oherwydd yr ofn."
'Dyw e ddim werth e'
Dywed Helen nad yw byth am ddefnyddio potel ddŵr poeth eto.
Pan welodd fenyw oedrannus yn prynu un mewn archfarchnad yn ddiweddar, aeth ati a'i chynghori: "'Peidiwch â phrynu hwnna - os ydych am eu defnyddio, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio dŵr cynnes ac nid dŵr poeth.' Yna dangosais fy nghreithiau iddi.
"Yn drist, dywedodd hithau, 'Mae'n rhaid i mi eu prynu oherwydd galla'i ddim fforddio fy ngwres.'"
Dywed Helen mai rhyw chwe mis oed oedd ei photel ddŵr hi, ac mae hi'n poeni bod pobl yn eu cadw am flynyddoedd nes bod risg iddyn nhw galedu, cracio a gollwng dŵr.
"Mae'n anodd. Rwy'n deall pam eu bod yn eu defnyddio oherwydd mae'n ddrud i roi'r gwres ymlaen ar hyn o bryd. Ond byddai'n well gen i wisgo dressing gown, blanced, haenau ychwanegol o ddillad. Dyna fydda i'n ei wneud o hyn ymlaen. Dyw e ddim werth e."
Mae staff y ganolfan llosgiadau a llawfeddygaeth blastig yn Nhreforys yn pwysleisio pwysigrwydd defnyddio'r poteli'n ddiogel, os oed rhaid gwneud.
Mae hynny'n cynnwys eu llenwi â dŵr cynnes ac asesu eu cyflwr rhag iddyn nhw ollwng dŵr neu ffrwydro wrth ddirywio.
"Rydyn ni'n cael cleifion sy'n cael llosg dŵr berwedig i'w llaw," meddai'r uwch ymarferydd therapydd galwedigaethol, Janine Evans. "Maen nhw'n methu'r botel ac yn arllwys y dŵr poeth dros eu llaw."
Ychwanegodd bod angen i bobl â chyflyrau sy'n effeithio ar y nerfau a'r synnwyr o ymdeimlo fod yn arbennig o ofalus.
"Mae pobl â diabetes, er enghraifft, yn aml yn defnyddio poteli dŵr poeth i gynhesu eu traed.
"Oherwydd eu bod yn teimlo llai, dydyn nhw ddim bob amser yn sylwi bod yr hylif poeth yn gollwng. Mae cyfnod y cysylltiad felly yn hirach ac maen nhw'n dioddef anafiadau mwy sylweddol."
Mae'r ganolfan yn trin rhwng 20 a 30 o gleifion at losgiadau potel ddŵr poeth bob blwyddyn, medd y staff-nyrs John Davies.
"Mae hyd yn oed llosgiadau arwynebol, fel sgaldiadau, yn boenus iawn, iawn oherwydd bod y terfynau nerfau yn dal yn agored," dywedodd.
"Po ddyfnaf yw'r llosg, y lleiaf yw'r boen, ond y mwyaf tebygol y bydd angen impio'r croen sy'n gadael craith barhaol.
"Yn ystod yr argyfwng tanwydd rwy'n meddwl y bydd pobl yn defnyddio poteli dŵr poeth i gadw'n gynnes yn hytrach na rhoi'r gwres canolog ymlaen.
"Maen nhw'n ddiogel i'w defnyddio os ydych chi'n gofalu amdanyn nhw ac yn dysgu sut i'w llenwi a'u storio'n gywir."