Cwpan FA: Wrecsam 3-2 Blyth Spartans

  • Cyhoeddwyd
Ollie PalmerFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Wrcesam wedi sicrhau lle yn rownd gyntaf Cwpan FA wedi llwyddiant ar y Cae Ras nos Fawrth yn erbyn Blyth Spartans.

Fe lwyddodd Ollie Palmer, Paul Mullin a Jordan Davies gyda thair gôl o fewn y 37 munud cyntaf.

Ond fe darodd y gwrthwynebwyr yn ôl gyda goliau i JJ O'Donnell a Michael Richardson.

Dal ati wnaeth y tîm cartref a sicrhau'r fuddugoliaeth.