Pryd mae gemau Cwpan y Byd Cymru?

  • Cyhoeddwyd
CymruFfynhonnell y llun, BBC / Getty

Ar 20 Tachwedd bydd sylw cefnogwyr pêl-droed ar draws y byd yn troi at wlad fechan yn y dwyrain canol.

Am y tro cyntaf ers 1958, bydd Cymru yn cystadlu yng nhystadleuaeth Cwpan y Byd, gyda thim Robert Page yn sicrhau ei lle yn Qatar yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Wcráin yn y gemau ail gyfle fis Mehefin.

Mae Cymru wedi'u gosod yng ngrŵp B, gyda Iran, UDA a Lloegr. Os yn llwyddianus yn y gemau grwpiau, yna bydd y cochion yn camu ymlaen i'r rownd 16 olaf.

Dyma'r dyddiadau angenrheidiol i chi gefnogwyr Cymru, gyda gwybodaeth am ble, pryd ac am faint o'r gloch y bydd Cymru yn chwarae yn ystod cystadlaeaeth Cwpan y Byd eleni.

9 Tachwedd - Enwi Carfan

Dyma'r dyddiad y bydd Rob Page yn enwi ei garfan o 26 chwaraewr fydd yn teithio i Qatar.

Yn wahanol i'r arfer, mae FIFA wedi newid o'r 23 enw traddodiadol sydd fel arfer mewn carfan, a nawr, yn caniatau i wledydd enwi tri chwaraewr ychwanegol yn eu carfan lawn.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Robert Page, rheolwr Cymru

21 Tachwedd - UDA v Cymru - 19:00 - Stadiwm Ahmad bin Ali

Dyma gêm gyntaf y ddwy wlad yn y gystadleuaeth. Y tro diwethaf i Gymru wynebu'r UDA oedd mewn gêm gyfeillgar ddi-sgor yn Stadiwm Swansea.com ym mis Tachwedd 2020.

Bryd hynny roedd Rob Page yn gweithio fel is-reolwr a dyma oedd ymddangosiad cyntaf Brennan Johnson dros Gymru.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Gêm gyfeillgar rhwng Cymru a'r UDA yn Abertawe yn 2020

25 Tachwedd - Cymru v Iran - 10:00 - Stadiwm Ahmad bin Ali

Mae cic gyntaf y gêm hon ychydig oriau ar ôl i ni yma yng Nghymru orffen bwyta ein brecwast.

Dyma'r ail dro i Gymru chwarae yn erbyn Iran yn eu hanes. Cafodd y gêm gyntaf ei chynnal nôl yn Ebrill 1978, gyda Phil Dwyer yn sgorio'r unig gol buddugol i Gymru yn Tehran.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Phil Dwyer sgoriodd yr unig gôl y tro diwethaf i Gymru herio Iran a hynny mewn gêm gyfeillgar yn Tehran yn 1978

29 Tachwedd - Cymru v Lloegr - 19:00 - Stadiwm Ahmed bin Ali

Dyma fydd gêm olaf y ddwy wlad yn y grŵp. Bydd Cymru a Lloegr yn gobeithio y bydden nhw eisoes wedi sicrhau digon o bwyntiau i gamu ymlaen i'r rowndiau nesaf cyn y gêm hon.

Ond, fe allai fod yn gêm allweddol i obeithion y ddwy wlad o gyrraedd yr 16 olaf.

Ar wahân i'r gêm gyfeillgar ym Wembley yn 2020, y tro diwethaf i Gymru chwarae Lloegr mewn gêm gystadleuol oedd yn Euro 2016 yn Ffrainc.

Er mai Lloegr enillodd y diwrnod hwnnw yn Lille o 2-1. Cymru gafodd y gair olaf o safbwynt y grŵp, gan orffen ar y brig a Lloegr yn ail.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dathliadau yn Lille ar wedi cic rydd Gareth Bale yn erbyn Lloegr

Hefyd o ddiddordeb: