Robert Page: Cytundeb pedair blynedd i reolwr Cymru

  • Cyhoeddwyd
Robert PageFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Robert Page yn parhau wrth lyw y tîm cenedlaethol tan 2026

Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Robert Page wedi arwyddo cytundeb newydd fydd yn ei gadw yn y rôl am bedair blynedd arall.

Camodd i'r swydd dros dro yn Nhachwedd 2020 i gymryd lle Ryan Giggs, gan lwyddo i arwain Cymru i rownd 16 olaf cystadleuaeth Euro 2020.

Ar ôl arwain Cymru i Gwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, roedd ei gytundeb gwreiddiol yn dod i ben ar ddiwedd y gystadleuaeth yn Qatar.

Ond mae'r cytundeb newydd yn golygu fod cyn-reolwr Northampton a Port Vale yn parhau wrth y llyw hyd at ddiwedd ymgyrch Cwpan y Byd 2026.

Yn ystod ei gyfnod wrth y llyw fe lwyddodd hefyd i sicrhau lle Cymru ymysg y prif ddetholion yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA.

'Braint fwyaf fy mywyd'

Mewn datganiad dwyieithog drwy CBDC, dywedodd Page: "Mae'n anrhydedd enfawr i reoli fy ngwlad, y fraint fwyaf o fy mywyd.

"Rwy'n edrych ymlaen at yr her sydd i'w ddod dros y pedair blynedd nesaf, gan ddechrau efo ein Cwpan y Byd gyntaf ers 64 mlynedd.

"Rwy'n gobeithio gallwn ni roi gwên ar wynebau ein cefnogwyr fis Tachwedd ac adeiladu ar y llwyddiant trwy gyrraedd mwy o bencampwriaethau EURO a Chwpan y Byd yn y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Robert Page i arwain Cymru i Gwpan y Byd am y tro cyntaf mewn 64 mlynedd

Ychwanegodd Llywydd CBDC, Steve Williams: "Rwyf wrth fy modd bod Rob a CBDC wedi cytuno ar gytundeb pedair blynedd i fynd â Thîm Cenedlaethol Dynion Cymru i'r cam nesaf.

"Cwpan y Byd FIFA yw'r cyfle perffaith i ddangos Cymru ar lwyfan y byd, ac rwy'n bendant mai Rob yw'r person gorau ar gyfer y rôl, yn Qatar a thu hwnt."

Cyn cymryd yr awenau gyda'r tîm cenedlaethol, roedd Page yn rheolwr ar dîm dan-21 Cymru, lle'r oedd yn gyfrifol am ddatblygu rhai o sêr Cymru gan gynnwys Dan James, Joe Rodon, Joe Morrell a Chris Mepham.

Fel chwaraewr fe enillodd 41 gap dros ei wlad fel amddiffynnwr canol, gan hefyd gynrychioli clybiau fel Watford, Sheffield United a Coventry.