AS yn galw am ymchwiliad wedi 'bwlio' yn San Steffan

  • Cyhoeddwyd
Chris Bryant
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r AS Llafur y Rhondda, Chris Bryant, wedi galw am ymchwiliad i'r hyn a welodd yn Senedd San Steffan.

Mae aelod seneddol Llafur o Gymru wedi galw am ymchwiliad ar ôl "yr hyn oedd yn ymddangos fel bwlio" yn Senedd San Steffan nos Fercher.

Roedd Chris Bryant AS yn siarad yn Nhŷ'r Cyffredin ar ôl i Lafur golli pleidlais ar wahardd ffracio yn Lloegr.

Mae sawl Aelod Seneddol wedi sôn am "anhrefn" gan ddweud bod ASau Ceidwadol wedi cael eu "bwlio" i gefnogi Liz Truss yn y bleidlais.

Mae gweinidogion wedi gwadu honiadau bod grym corfforol wedi ei ddefnyddio i berswadio cydweithwyr i bleidleisio gyda'r llywodraeth.

Dywedodd Dirprwy Lefarydd Tŷ'r Cyffredin y byddai'n ymchwilio i unrhyw dystiolaeth.

Fe rannodd Mr Bryant, Aelod Seneddol y Rhondda, lun o "anhrefn" tu allan i lobi yn Senedd San Steffan wedi'r bleidlais.

Y Llywodraeth enillodd gyda 326 o bleidleisiau i 230 - mwyafrif o 96.

Ffynhonnell y llun, @RhonddaBryant
Disgrifiad o’r llun,

Fe rannodd Chris Bryant AS lun o'r "anhrefn" ar ei gyfrif Twitter

Yn ôl rhai ASau fe wnaeth chwipiau'r Blaid Geidwadol fynnu bod eu haelodau yn pleidleisio yn erbyn cynnig Llafur, gan awgrymu ei fod yn brawf o'u hyder yn y prif weinidog.

Ond cafodd yr awgrym hynny ei wrthod gan y Gweinidog Hinsawdd, Grahan Stuart, a ddywedodd nad oedd yn bleidlais o hyder.

Dywedodd Mr Bryant y dylai ASau fedru pleidleisio "heb ofn na ffafriaeth".

Ychwanegodd yn Nhŷ'r Cyffredin: "Ry'n ni eisiau sefyll yn erbyn bwlio."

Pan ofynnwyd i'r Ysgrifennydd Busnes Jacob Rees-Mogg am yr honiadau, dywedodd wrth Sky News fod "ei bortreadu fel bwlio yn gamgymeriad."

'Dagrau'

Fe ddywedodd AS Llafur arall o Gymru, Anna McMorrin, ei bod wedi gweld un AS Ceidwadol "mewn dagrau" yn dilyn y bleidlais.

Ffynhonnell y llun, Tŷ'r Cyffredin
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Anna McMorrin AS, fe welodd un AS Ceidwadol yn ei ddagrau

Rhannodd neges ar Twitter yn dweud: "Pethau hynod yn digwydd fan hyn yn ystod y bleidlais ar ffracio sydd, yn ôl y sôn, 'ddim yn bleidlais o hyder'.

"Dw i newydd weld un aelod Torïaidd mewn dagrau yn cael ei dynnu [manhandled] i'r lobi i bleidleisio yn erbyn ein cynnig i barhau â'r gwaharddiad ar ffracio."

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Iau, dywedodd Hywel Williams AS Plaid Cymru fod un aelod Ceidwadol wedi cael ei "sgubo i bleidleisio gyda'r llywodraeth" fel "sgarmes mewn gêm o rygbi".

Roedd Alex Stafford AS wedi codi amheuon am y bleidlais ynghylch ffracio yn gynharach yn y dydd.

Dywedodd Hywel Williams AS fod "pobl amlwg" fel Jacob Rees-Mogg a Thérèse Coffey, yr Ysgrifennyd Iechyd, yn sefyll o gwmpas Alex Stafford AS.

"O'dd 'na griw mawr o bobl yn sefyll a rhyw dwrw'n mynd ymlaen," dywedodd.

"Fel arfer pan fo hynny'n digwydd fydd y chwipiaid yn gweiddi 'clear the lobbies'... ond o'n i'm yn gweld neb yn 'neud hynny.

"O'n i'm yn gallu gweld yn union beth oedd yn digwydd, pennau o'n i'n gweld rhan fwya', ond yn amlwg o'dd y dyn ma'n anhapus iawn a chael ei sgubo i fewn i bleidleisio efo'r llywodraeth."

'Sgwrs agored a chadarn'

Ond fe ddywedodd Alexander Stafford AS mai dim ond "sgwrs agored a chadarn" gafodd y tu allan i'r lobïau pleidleisio yn "cadarnhau fy ngwrthwynebiad i ffracio".

"Does neb yn fy ngwthio i o gwmpas," ychwanegodd mewn neges ar Twitter.

Roedd y bleidlais yn brawf o gynlluniau'r llywodraeth ar ffracio, a gyda mwyafrif Ceidwadol, dydy'r polisi ddim yn debygol o gael ei wrthdroi.