'Dechrau ofnadwy' i Truss wrth i Braverman ymddiswyddo
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Liz Truss wedi cael "dechrau ofnadwy i'w chyfnod yn y swydd" yn ôl cyn-Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb.
Daeth ei sylwadau cyn i'r Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman ymddiswyddo brynhawn Mercher.
Fe fydd yr "wythnosau nesaf yn hollbwysig" i'r prif weinidog, medd Mr Crabb, sy'n galw am "arweinyddiaeth glir, bwrpasol".
Wrth siarad â BBC Cymru, ni wnaeth AS Preseli Penfro adleisio sylwadau gan AS Ceidwadol Pen-y-bont, Jamie Wallis yn galw ar Liz Truss i ymddiswyddo.
Dywedodd nad oedd wedi ysgrifennu at Syr Graham Brady yn gofyn i arweinydd y Torïaid roi'r gorau iddi.
Dywedodd Mr Crabb: "Rwy'n credu bod angen rhoi rhywfaint o le i'r prif weinidog i geisio arwain ei llywodraeth ar hyn o bryd.
"Mae wedi bod yn ddechrau eithaf ofnadwy i'w chyfnod yn y swydd."
'Ansefydlogrwydd'
O ystyried lle mae'r marchnadoedd, meddai, dywedod na fyddai "ychwanegu ansefydlogrwydd gwleidyddol pellach ar hyn o bryd yn helpu hynny o gwbl".
"Mae angen iddi allu dangos ei bod hi'n gallu arwain y llywodraeth mewn ffordd glir a phwrpasol iawn," meddai.
"Nid fel yr hyn rydyn ni wedi'i weld yn ystod yr wythnosau diwethaf lle mae polisïau i'w gweld yn yr awyr ac yn newid o ddydd i ddydd.
Ychwanegodd y bydd yr "wythnosau nesaf yn hollbwysig".
Pan ofynnwyd iddo a allai ei gweld fel yr arweinydd sy'n mynd â'r Ceidwadwyr i mewn i etholiad cyffredinol, ychwanegodd: "Does gen i ddim syniad.
"Os yw hi'n dweud ei bod hi eisiau ein harwain ni i mewn i'r etholiad nesaf, wel, gadewch i ni weld sut mae'r wythnosau nesaf yn mynd. "
Ymddiswyddodd Suella Braverman fel Ysgrifennydd Cartref ar ôl dweud ei bod wedi anfon dogfen swyddogol at gydweithiwr seneddol gan ddefnyddio e-bost personol.
Cyfaddefodd Ms Braverman fod hwn yn "doriad technegol" o reolau.
Mewn sylwadau mae rhai eisoes wedi eu dehongli fel beirniadaeth o'r prif weinidog, dywedodd Ms Braverman y dylai pobl dderbyn cyfrifoldeb am gamgymeriadau.
"Nid yw esgus nad ydyn ni wedi gwneud camgymeriadau... yn wleidyddiaeth ddifrifol," ychwanegodd.
Defnyddiodd ei llythyr ymddiswyddiad i ymosod ar bolisïau Liz Truss hefyd.
"Mae gen i bryderon am gyfeiriad y llywodraeth hon," meddai.
"Nid yn unig ydyn ni wedi torri addewidion allweddol i'n etholwyr, ond rwyf wedi cael pryderon difrifol am ymrwymiad y lywodraeth hon i anrhydeddu ymrwymiadau maniffesto, megis lleihau niferoedd mudo cyffredinol ac atal mudo anghyfreithlon, yn enwedig y teithiau peryglus gan gychod bach."
Roedd Ms Braverman yn ei swydd am 43 diwrnod yn unig. Mae Grant Shapps wedi'i benodi'n Ysgrifennydd Cartref yn ei lle.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2022