Gwaharddiad ffracio i barhau yng Nghymru er newid Lloegr
- Cyhoeddwyd
Bydd y gwaharddiad ar ffracio yn parhau yng Nghymru er gwaethaf y penderfyniad i ddod â moratoriwm i ben yn Lloegr.
Mae gweinidogion Cymru, sydd â phwerau trwyddedu ar y tir ers 2018, wedi gwrthwynebu unrhyw echdynnu olew a nwy ers blynyddoedd.
Yn ôl Llywodraeth y DU, roedd angen dod â'r gwaharddiad i ben oherwydd effaith rhyfel Wcráin ar gyflenwadau ynni.
Ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod cronfeydd nwy ar draws y DU yn rhy fach i gael "gwir effaith" ar brisiau.
Ac mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru hefyd wedi cefnogi parhau gyda'r moratoriwm ar ffracio yng Nghymru, er penderfyniad y llywodraeth Geidwadol yn San Steffan.
Beth yw ffracio?
Mae ffracio yn ffordd o gloddio am nwy ac olew o graig siâl gan ddefnyddio cymysgedd pwysedd uchel o ddŵr a thywod.
Mae hynny'n ddadleuol gan fod y pwysedd uchel yn gallu achosi cryndod neu symudiad bach ar wyneb y ddaear.
Yn ogystal, mae'r broses yn gofyn am gyflenwadau sylweddol o ddŵr.
Ond mae'r llywodraeth yn San Steffan wedi penderfynu codi'r gwaharddiad dros dro fel rhan o ymgais i geisio taclo prisiau ynni.
'Nid y ffordd i ddatrys yr argyfwng ynni'
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid ydym yn cefnogi safbwynt llywodraeth y DU ar yr ehangu o chwilio am olew a nwy.
"Ry'n ni'n gwbl ymrwymedig i gefnogi ein haddewidion sero net a ni fyddwn yn cefnogi ceisiadau ar gyfer hollti hydrolig nac yn cyhoeddi trwyddedau petrolewm newydd yng Nghymru."
Ddydd Mawrth, dywedodd y prif weinidog Mark Drakeford yn y Senedd "na fyddwn yn datrys yr argyfwng ynni trwy ddychwelyd at ffyrdd o gyflenwi ynni sydd wedi gwneud cymaint o niwed i'n planed".
Mewn datganiad brynhawn Iau, dywedodd llefarydd ynni y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Janet Finch-Saunders, y bydd ei grŵp "yn parhau i gefnogi'r moratoriwm ar ffracio yng Nghymru".
"Byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf i lywio polisi yng Nghymru," meddai.
Mewn anerchiad yn Nhŷ'r Cyffredin, cyfeiriodd yr AS Plaid Cymru Hywel Williams at y ffaith bod hi'n union 88 mlynedd ers trychineb glofa Gresffordd a laddodd 266 o ddynion a bechgyn, a bod Gresffordd wedi ei awgrymu fel safle posib ar gyfer ffracio.
"Yng Nghymru, rydym yn gwybod beth yw echdynnu tanwydd ffosiledig peryglus fel bod eraill yn gallu elwa o bell," meddai.
Gofynnodd i'r Ysgrifennydd Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Jacob Rees-Mogg a oedd ganddo unrhyw fwriad o ddychwelyd pwerau mewn cysylltiad ag olew a nwy o Gymru i San Steffan.
Atebodd yntau: "Nid wyf yn ceisio dymchweI y setliad datganoli."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd3 Medi 2018
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2021