Camdriniaeth plant yn 'epidemig' medd adroddiad
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad terfynol yr ymchwiliad annibynnol i gamdriniaeth plant yng Nghymru a Lloegr yn disgrifio'r sefyllfa fel "epidemig sy'n gadael degau o filoedd o bobl yn dioddef".
Ar ddiwedd saith mlynedd o ymchwilio i ffaeleddau sefydliadol yng Nghymru a Lloegr, mae'r ymchwiliad yn galw am newidiadau i'r gyfraith i orfodi pobl sydd mewn swyddi sy'n gyfrifol am ymddiriedaeth plant i adrodd 'nôl am amheuon o gamdriniaeth.
Mae'n nodi hefyd y "posibilrwydd o ddryswch a thyllau" yn neddfwriaeth Cymru, ac yn galw am sefydlu cynllun iawndal i ddioddefwyr.
Mae'r ymchwiliad yn gwneud cyfanswm o 107 o argymhellion - yn eu plith 20 prif argymhelliad sy'n cynnwys sefydlu awdurdod amddiffyn plant yng Nghymru a Lloegr.
Mae 'na alw hefyd ar i Lywodraeth y Deyrnas Unedig greu gweinidog â chyfrifoldeb am blant ac ar i Lywodraeth Cymru sicrhau bod yna gyfrifoldeb ar lefel cabinet am blant.
Dywed Llywodraeth Cymru bod hwn yn adroddiad "pwysig iawn" a'u bod eisoes wedi cryfhau ein gwaith i atal camdriniaeth yng Nghymru.
'Camdriniaeth yn cael ei anwybyddu'
Mae'r adroddiad yn creu darlun erchyll, torcalonnus o ddioddefaint plant - o fabanod i oedolion ifanc - ac mae'n galw am roi blaenoriaeth llawer uwch i amddiffyn plant.
Mae'r casgliadau'n benllanw dros 300 o ddiwrnodau o wrandawiadau a thystiolaeth gan 6,200 o ddioddefwyr, ar gost o £186m.
Yn ôl y cadeirydd, yr Athro Alexis Jay, mae "camdriniaeth plant yn epidemig sy'n gadael miloedd o ddioddefwyr, gan gynnwys nifer fydd fyth yn gwella".
"Dro ar ôl tro mae'r ymchwiliad wedi clywed honiadau bod camdriniaeth wedi cael ei anwybyddu, a bod sefydliadau wedi rhoi blaenoriaeth i'w henw da dros amddiffyn plant.
"Nid yw hwn yn perthyn i'r gorffennol," rhybuddiodd. "Mae'n broblem gynyddol sy'n mynd o ddrwg i waeth oherwydd bygythiad y rhyngrwyd."
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at gasineb a chamdriniaeth ddiderfyn y troseddwyr.
"Roedd sefydliadau wedi amddiffyn eu henw da ac enw da eu swyddogion dros y rheiny yr oedd ganddyn nhw gyfrifoldeb amdanyn nhw," meddai.
"Roedden nhw'n beio'r dioddefwyr fel pe bai nhw'n annheilwng o'u hamddiffyn."
'Bylchau' yn system Cymru
Fe ddewisodd rhai sefydliadau i beidio ymateb i geisiadau'r ymchwiliad, tra bod eraill yn "cynnig ymddiheuriadau oedd ddim yn ddiffuant a threfniadau cefnogi a chwnsela oedd yn annigonol".
Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y "posibilrwydd o ddryswch" yng nghyfraith Cymru, gan nodi bod "model Cymru'n gadael nifer o fylchau ynglŷn â phwy sydd â chyfrifoldeb i adrodd 'nôl".
Mae'r ymchwiliad yn nodi casgliadau ymchwiliadau mewnol yr Eglwys yng Nghymru, ond yn galw am fwy o waith i gael ei wneud ym meysydd cadw cofnodion a chyfrifoldebau swyddogion rhanbarthol.
Wrth gloi, ynghyd â'r 20 prif argymhelliad, mae'r ymchwiliad yn galw am roi llawer mwy o flaenoriaeth i amddiffyn plant mewn bywyd cyhoeddus.
Mae'r ymchwiliad yn galw hefyd am "weithredu ar fyrder".
Mae'r casgliadau'n debyg o gael croeso eang gan ymgyrchwyr yn y maes, sydd o'r farn y bydd yn allweddol i rwystro sefydliadau rhag cuddio'r gwir er mwyn amddiffyn eu henw da.
Ond mae eraill yn tynnu sylw at gost sylweddol gweithredu'r holl argymhellion, gan gynnwys mewn cynghorau ac ysgolion.
Wrth alw am un cynllun i ddigolledu dioddefwyr, dywedodd yr ymchwiliad y byddai iawndal yn galluogi dioddefwyr i gael cymorth a therapi, sydd yn angenrheidiol.
Wfftiwyd yr awgrymiadau "sarhaus" y byddai dioddefwyr yn "dweud celwydd am arian".
Effaith 'ddramatig' y rhyngrwyd
Mae'r ymchwiliad hefyd yn tanlinellu sgil effaith y rhyngrwyd ar gamdriniaeth plant.
Mae "graddau cam-drin a hwylusir ar-lein wedi cynyddu'n ddramatig," meddai'r adroddiad. "Mae'n argyfwng cenedlaethol a byd eang, na welwyd o'r blaen."
Mae'n galw ar y llywodraeth i orfodi cwmnïau'r rhyngrwyd i sgrinio deunydd am gamdriniaeth plant cyn iddo gael ei uwchlwytho, ac i wella'r dulliau o sicrhau oedran plant.
Yn ôl y swyddfa ystadegau mae 3.1 miliwn o bobl wedi dioddef camdriniaeth rhywiol pan yn blant yng Nghymru a Lloegr - 7.5% o'r boblogaeth sydd rhwng 18 a 75 oed.
Wrth ymateb dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Mae hwn yn adroddiad pwysig iawn a bydd yr argymhellion nawr yn cael eu hystyried yn briodol ac yn llawn.
"Byddaf yn gwneud datganiad pellach am y camau nesaf pan fyddwn ni wedi cael cyfle i'w hystyried yn llawn.
"Er ein bod wedi cefnogi gwaith yr ymchwiliad, a chymryd rhan ynddo, rydym hefyd wedi cryfhau ein gwaith i atal camdriniaeth yng Nghymru.
"Yn 2019, cyhoeddwyd y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol. Byddwn yn rhoi diweddariad ynglŷn â chynnydd fis nesaf."
'Gwyddom i ni fethu mewn nifer o feysydd'
Ar ran yr Eglwys yng Nghymru dywedodd llefarydd: "Mae'r adroddiad yn ddogfen sylweddol fydd yn awr yn cymryd amser i'w dirnad a'i hystyried.
"Byddwn yn parhau i gymryd unrhyw argymhellion pellach... gan ein bod yn ymroddedig i ddatblygu'r safonau gorau posibl mewn diogelu.
"Ein blaenoriaeth yw bod yn Eglwys lle mae pawb yn ddiogel ac yn cael eu croesawu, ac yn teimlo hynny, a lle caiff diogelu ei ddeall i fod yn gyfrifoldeb pawb.
"Rydym yn parhau i fuddsoddi'n sylweddol yn ein pobl, ein prosesau a'n hyfforddiant i gyflawni hyn.
"Gwyddom i ni fethu mewn nifer o feysydd... ac unwaith eto ymddiheurwn yn ddiamod i bawb yr effeithiwyd arnynt fel canlyniad.
"Rydym yn cadw yn ein gweddïau bawb a oroesodd gamdriniaeth ac rydym yn barod i gefnogi unrhyw un a ddaw ymlaen gydag unrhyw gonsyrn."
Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, fod yn rhaid i waith yr ymchwiliad "arwain at newidiadau parhaol yn ein cymdeithas i ddiogelu plant rhag camdriniaeth".
"Mae'r ymchwiliad wedi gwrando; fel cymdeithas mae'n rhaid nawr ein bod ni'n ymateb trwy sicrhau bod gweithdrefnau yn cryfhau i gadw plant yn ddiogel rhag camdriniaeth ac ecsbloetiaeth.
"Mewn ymateb i'r adroddiad, rydw i eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn cydlynu a chyhoeddi cynllun gweithredu, sy'n dangos sut bydden nhw a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru yn gweithredu ar yr argymhellion.
"Bydda i'n parhau i ddod â chyrff cyhoeddus perthnasol at ei gilydd er mwyn monitro cynnydd, ac i helpu hwyluso rhannu gwybodaeth ac arfer da."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2022