Y ras i Rif 10: 'Peidiwch anghofio'r mwyaf bregus'
- Cyhoeddwyd
Mae arweinwyr crefyddol wedi galw ar Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw wrth i'r ras i Rif 10 boethi.
Yn dilyn ymddiswyddiad Liz Truss wedi 45 diwrnod wrth y llyw, mae'r Blaid Geidwadol yn wynebu dewis arweinydd newydd a Phrif Weinidog y DU am yr eildro o fewn deufis.
Penny Mordaunt yw'r unig ymgeisydd i gyhoeddi bwriad i sefyll hyd yma, ond mae cefnogwyr hefyd yn pwyso ar Rishi Sunak a Boris Johnson i ymuno â'r ras.
Bydd unrhyw ymgeisydd angen 100 Aelod Seneddol i'w cefnogi erbyn dydd Llun er mwyn cael eu hystyried.
Pwy bynnag fydd yn ennill y ras i Rif 10, byddant yn wynebu talcen caled economaidd gyda'r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod benthyca'r llywodraeth - sef y gwahaniaeth rhwng gwariant ac incwm treth - yn £20bn fis diwethaf.
Roedd hyn i fyny £2.2bn o'r flwyddyn flaenorol, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a'r ail uchaf ar gyfer benthyca ym mis Medi ers i gofnodion misol ddechrau yn 1993.
Ond tra bod y dyfalu'n parhau am bwy fydd yn sefyll, mae esgobion yr Eglwys yng Nghymru wedi galw ar arweinwyr gwleidyddol i gofio am y mwyaf bregus o fewn cymdeithas.
'Effaith ddinistriol'
Gyda disgwyl i'r dyfalu gwleidyddol hawlio'r penawdau dros y dyddiau i ddod neges yr Eglwys yng Nghymru yw na ddylid gadael i'r rhai mwyaf bregus "gael eu gwthio i'r cyrion a'u hanghofio".
Dywedodd Archesgob Cymru a'r esgobion mewn datganiad: "Credwn mai blaenoriaeth y Prif Weinidog nesaf yw amddiffyn y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.
"Rydym yn eu hannog i ymateb yn feiddgar i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw sydd, fel y mae ein heglwysi eisoes yn dyst iddo, yn cael effaith ddinistriol ar ein cymunedau.
"Mae llawer o bobl yn cael profiad eithafol o galed ac yn gorfod troi at fanciau bwyd a rhoddion elusennol er mwyn cael digon o fwyd i'w roi ar eu byrddau."
Ychwanegon nhw: "Rydym hefyd yn pryderu bod anghenion y rheini mewn gwledydd eraill, gan gynnwys ffoaduriaid, yn cael eu gwthio i'r cyrion a'u hanghofio.
"Rydym yn galw am arweiniad gwleidyddol sy'n dangos tosturi, uniondeb a chymhwysedd ac a all ein huno ni i gyd i weithio er lles pawb."
'Twll enfawr'
Fore Gwener daeth cadarnhad y bydd hystings yn cael eu cynnal i Aelodau Seneddol Ceidwadol cyn iddyn nhw ddechrau pleidleisio yn yr ornest arweinyddiaeth ddydd Llun.
Cadarnhaodd cadeirydd Pwyllgor 1922, Syr Graham Brady, y bydd y bleidlais gyntaf ymysg ASau yn cael ei chynnal brynhawn Llun. Os yw tri ymgeisydd wedi cael y nifer gofynnol o bleidleisiau bydd yr un sydd â'r lleiaf o bleidleisiau yn cael ei hepgor o'r ras.
Yn ôl yr hanesydd a'r sylwebydd, Hywel Williams, mae'r ffaith fod y DU yn chwilio am y trydydd Prif Weinidog o fewn cyfnod mor fyr, yn ei gwneud yn stori fyd-eang.
"Gwlad â oedd erioed yn ddiarhebol, yn bragmataidd a chymhedrol a gwrthun tuag at ideolegau yn cwympo fewn i dwll enfawr a'r Blaid Geidwadol ei hun fel petai yn colli ei phen.
"Gwleidyddiaeth Brexit sydd wedi arwain y Blaid Geidwadol, a rhai elfennau eraill o bleidiau ein gwlad ni, i'r sefyllfa hon.
"Mae'n broblem sydd wedi ei chreu gan y Blaid Geidwadol ei hun."
Ychwanegodd: "Mae'n anodd iawn gweld Boris Johnson yn cael 100 o Aelodau Seneddol i'w enwebu i'r ornest arbennig hon, mae 'na dueddiad i greu rhyw fath o oes aur pan mae'r presennol yn annioddefol.
"Ond drwy ffoi at Boris, ffoi at rhyw fath o afreolaeth hollol eithriadol fyddai hynny.
"Mae'r Blaid Geidwadol yn tueddu i adlewyrchu'r cyflwr cenedlaethol fel petai, dyna pam mae wedi bod yn blaid genedlaethol mor lwyddiannus am ganrif a hanner bellach.
"Ond yn y sefyllfa arbennig hon, mae'n bwysig iawn fod hi yn dewis rhywun sy'n gallu cyfathrebu'n well na Liz Truss yn sicr."
'Tebygol o uno'r blaid'
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru, fore Gwener dywedodd is-weinidog yn Swyddfa Cymru fod angen i'r Blaid Geidwadol uno tu ôl i bwy bynnag fydd y Prif Weinidog newydd.
Er hynny, cadarnhaodd David TC Davies ei fod yn ffafrio Rishi Sunak ar gyfer y swydd honno, wedi iddo ddod yn ail i Liz Truss yn yr etholiad mewnol a gynhaliwyd lai na deufis yn ôl.
"Dwi'n mynd i gefnogi Rishi Sunak. Wedi dweud hynny, dwi'n meddwl bod hi'n bwysig iawn cefnogi pwy bynnag sy'n ennill.
"Dwi ddim eisiau dweud unrhyw beth negyddol am unrhyw un arall. Dwi'n credu fod Rishi Sunak yn fwy tebygol o uno'r blaid nag unrhyw un arall.
"Mae ganddo fo brofiad o reoli'r trysorlys. Mae gennym ni argyfwng economaidd ar hyn o bryd ac felly mae Rishi, yn fy marn i, gyda'r profiad i ddelio gyda'r sefyllfa."
Mae cyn-Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, hefyd wedi cyhoeddi ei fod yn cefnogi Rishi Sunak ar gyfer y swydd.
Hefyd wedi datgan eu cefnogaeth gyhoeddus i Sunak mae AS Brycheiniog a Maesyfed, Fay Jones, ac aelod Maldwyn, Craig Williams.
Etholiad Cyffredinol
Mae hefyd galwadau cynyddol am etholiad cyffredinol, gyda'r Ceidwadwyr yn bwriadu ethol eu trydydd arweinydd ers cynnal yr etholiad diwethaf yn Rhagfyr 2019.
Ond gyda dim rheidrwydd i gynnal etholiad cyffredinol tan o leiaf 2024, mae'n annhebygol o ddigwydd cyn hynny heb gefnogaeth y Prif Weinidog newydd.
Dywedodd cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fod y Blaid Geidwadol "wedi ei rhwygo yn gyfan gwbl", gan ategu barn y Blaid Lafur - a gwrthbleidiau eraill - y dylai'r cyhoedd gael dweud eu dweud.
"Dydw i ddim yn credu bod yna unrhyw un yn gallu uno nhw ac felly mae pethau, dwi'n credu, yn mynd i fynd yn waeth ac yn waeth," dywedodd ar Dros Frecwast.
"Mae dwy flynedd gennym ni nawr o lywodraeth yn cloffi mwy neu lai mewn i etholiad.
"Y peth gorau i'r wlad fyddwn i'n ddweud yw cael etholiad a gadael y bobl leisio eu barn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2022