Liz Truss yn ymddiswyddo wedi llai na deufis fel Prif Weinidog

  • Cyhoeddwyd
Truss
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y datganiad tu allan i 10 Downing Street am 13:30 ddydd Iau

Mae Liz Truss wedi ymddiswyddo fel Prif Weinidog ac arweinydd y Ceidwadwyr ar ôl llai na deufis wrth y llyw.

Roedd Ms Truss wedi dod dan bwysau sylweddol gan aelodau ei phlaid ei hun yn dilyn tro pedol ar ran helaeth o'i chynlluniau treth.

Yn hwyr brynhawn Iau cyhoeddodd y Ceidwadwyr y byddan nhw'n dewis arweinydd a phrif weinidog newydd erbyn diwedd yr wythnos nesaf.

Roedd Ms Truss yn Brif Weinidog am 45 diwrnod, ond wrth gyhoeddi ei hymddiswyddiad, dywedodd nad oedd hi'n gallu cyflawni'r hyn yr oedd hi wedi ei addo i aelodau.

Dywedodd Ms Truss ei bod wedi dod i'r swydd mewn cyfnod o "ansicrwydd mawr yn economaidd ac yn rhyngwladol".

Ychwanegodd fod ganddi uchelgais o "economi treth isel a thwf uchel", ond ei bod yn "cydnabod... o ystyried y sefyllfa, na allaf gwblhau'r mandad a gefais gan y Blaid Geidwadol".

Ms Truss yw'r Prif Weinidog sydd wedi bod yn y swydd am y cyfnod byrraf erioed, ond bydd hi'n parhau yn y swydd nes bod y ras i benodi olynydd wedi dod i derfyn.

Bydd ymgeiswyr i'w holynu angen 100 o gefnogwyr erbyn dydd Llun er mwyn cael eu hystyried.

Fe wnaeth y gwrthbleidiau ymateb i'r cyhoeddiad gan alw am etholiad cyffredinol mor fuan â phosib.

Galw am etholiad

Yng Nghymru, mae'r prif weinidog Cymru Mark Drakeford wedi galw am etholiad cyffredinol fel "yr unig ffordd ymlaen i'r wlad".

"Mae hyn wedi bod yn fethiant llywodraethu llwyr gyda phawb bellach yn gorfod talu'r pris. Mae'r rhaniadau dwfn o fewn y Llywodraeth y DU yn golygu bydd unrhyw olynydd yn wynebu'r un heriau."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS ac arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan Liz Saville Roberts AS: "Mae'r syrcas anhrefnus hon yn brawf unwaith ac am byth na fydd San Steffan byth yn gweithio i Gymru."

Disgrifiodd AS arall Plaid Cymru, Hywel Williams, y sefyllfa fel "llanast llwyr", sy'n "adlewyrchu ar y Blaid Geidwadol yn gyffredinol hefyd".

"Yn gyntaf bod nhw wedi ei hethol hi ond hefyd bod nhw wedi ei chefnogi hi drwy'r holl amseroedd yma tan rwan pan mae'n amlwg bod rhaid iddi fynd."

Mae arweinydd Llafur y DU Keir Starmer, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol y DU Ed Davey, a Phrif Weinidog Yr Alban Nicola Sturgeon i gyd hefyd wedi galw am etholiad cyffredinol ar unwaith.

GRaham Brady
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd cadeirydd Pwyllgor 1922, Graham Brady, y bydd canlyniad ras yr arweinydd yn gyhoeddus erbyn 28 Hydref

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Mae'r prif weinidog wedi gwneud y peth iawn ac wedi ymddiswyddo.

"Mae pobl ble bynnag maen nhw'n byw yn y Deyrnas Unedig yn gwbl bryderus am yr argyfwng costau byw.

"Rhaid i'r prif weinidog newydd fynd i'r afael â'r sefyllfa hon yn gyflym, a rhoi arweiniad, hyder a gobaith i bobl ar draws ein cenedl."

'Dim opsiwn'

Doedd "dim opsiwn o gwbl" ar gael i Ms Truss, meddai cadeirydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru, Glyn Davies.

Ar y Post Prynhawn, dywedodd mai'r peth pwysig yw "symud ymlaen yn gyflym" a chael Prif Weinidog newydd "mor gyflym â phosib", erbyn diwedd yr wythnos nesaf.

"Dydy'r wlad ddim yn gallu aros mwy na hynny," meddai.

Jeremy HuntFfynhonnell y llun, Inpho
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Canghellor Jeremy Hunt eisoes wedi dweud na fydd yn ymgeisio i fod yn arweinydd

Mae sylw yr aelodau seneddol Cediwadol nawr yn troi at bwy fydd yr arweinydd newydd.

Dywedodd cyn-Ysgrifennydd Cymru, y Ceidwadwr Stephen Crabb fod Ms Truss "wedi gwneud y penderfyniad cywir dros y wlad".

"Fyswn i yn cytuno bod y blaid mewn tipyn o lanast nawr," meddai.

"Nid opera sebon yw hwn - mae'n effeithio ar y byd go iawn.

"Mae'n rhaid i fy nghydweithwyr yn y llywodraeth, ar y meinciau cefn, pob un ohonom, feddwl: Ydyn ni eisiau parhau i lywodraethu?

"Ydyn ni eisiau dod at ein gilydd a chynnig llywodraeth da, ymarferol i'r wlad yng nghanol argyfwng costau byw?"

Mae cyn-Ysgrifennydd Cymru arall, Simon Hart, eiseos wedi lleisio ei gefnogaeth dros Rishi Sunak fel yr arweinydd nesaf

Linebreak

Barn rhai o bobl Rhuthun

Bernadette O'Malley
Disgrifiad o’r llun,

Bernadette O'Malley: 'Bron fel Airbnb yn Downing Street.'

Doedd yna ddim llawer o gydymdeimlad â Liz Truss ar strydoedd tref Rhuthun yn etholaeth Geidwadol Gorllewin Clwyd.

Dywedodd Bernadette O'Malley, 38, sy'n rhedeg Ruthin Artisan Market: "Dwi'n credu mae'n hen bryd i ni gael etholiad cyffredinol a mynd nôl i'r bobl.

"Mae bron fel Airbnb yn Downing Street."

Wedi pleidleisio dros y Ceidwadwyr gydol ei oes, mae Tony Vine, 77 oed, yn ystyried peidio pleidleisio o gwbl y tro nesaf.

"Fe waeth Liz Truss etifeddu sefyllfa wael iawn," meddai.

"O ganlyniad mae'r blaid gyfan mewn anhrefn. Maen nhw'n ymladd rhyngddynt eu hunain."

Vine
Disgrifiad o’r llun,

Cred Tony Vine fod y Blaid Geidwadol mewn anhrefn llwyr

Mae Jenny Turner, 40, yn gweithio mewn ysgol breifat, ac yn poeni am bolisïau'r Blaid Lafur tuag at y sector.

"Ond dyw'r llywodraeth bresennol heb gynnig sefydlogrwydd," meddai.

"Dwi'm yn gwybod os ydw i'n meddwl y byddai plaid arall yn well.

"Dwi'n meddwl, gadewch i ni fwrw ymlaen, gadewch i ni gael rhywun arall i mewn."

Linebreak

Dadansoddiad James Williams, gohebydd gwleidyddol

Erbyn amser hyn yr wythnos diwethaf o'dd sawl AS Ceidwadol o Gymru yn dweud bod nhw'n teimlo y bydde'n rhaid i Liz Truss fynd.

Ond go brin bydde nhw wedi rhagweld y bydde hi'n gadael mor sydyn â hyn.

Yn amlwg ers wythnosau bellach mi oedd hi wedi colli hyder ASau Ceidwadol, nifer ohonynt wedi cefnogi Rishi Sunak i fod yn Brif Weinidog.

A'r wythnosau diwethaf wedi cadarnhau iddyn nhw nad oedd hi'n gallu parhau yn y swydd.

Roedd pethau wedi dod i'r fath raddau neithiwr bod nhw'n teimlo bod rhaid symud.

Linebreak

Pam bod Liz Truss yn ymddiswyddo?

Liz TrussFfynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd Ms Truss ei hethol yn arweinydd y Blaid Geidwadol yn dilyn ymddiswyddiad Boris Johnson, gan dderbyn 57.4% o bleidleisiau'r aelodaeth a churo Rishi Sunak.

Cyhoeddodd gymorth i daclo'r argyfwng costau byw ar unwaith, gan gyflwyno cap ar brisiau - Gwarant Pris Ynni'r llywodraeth - am ddwy flynedd.

Yna, daeth y gyllideb fechan gan ei Changhellor Kwasi Kwarteng - oedd yn cynnwys torri trethi ar gyfer y rhai ar gyflogau dros £150,000 y flwyddyn ac yn torri'r gyfradd sylfaenol o 20% i 19%.

Er gwaetha'r bwriad i hybu twf, cwympo'n sylweddol wnaeth y marchnadoedd yn dilyn y cyhoeddiad, gydag ansicrwydd dros ragor o fenthyca i dalu am y toriadau treth.

Cwympo wnaeth barn etholwyr o Ms Truss hefyd, gyda'r arolygon barn yn awgrymu anfodlonrwydd dwfn gyda'i pholisïau.

Kwarteng a Truss
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kwasi Kwarteng ei ddiswyddo gan Liz Truss yr wythnos ddiwethaf

Er iddi geisio amddiffyn y toriadau treth yn wreiddiol, daeth tro pedol ar 14 Hydref wrth i Ms Truss ddiswyddo Mr Kwarteng 38 diwrnod ar ôl ei benodi.

Cafodd Jeremy Hunt ei benodi fel Canghellor, ac erbyn 17 Hydref roedd bron pob un o addewidion treth y gyllideb fechan wedi eu gwyrdroi, a'r cynllun cymorth biliau wedi ei chwtogi'n sylweddol.

Cynyddodd y pwysau ar ôl i'r Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman ymddiswyddo ar ôl anfon dogfen swyddogol at gydweithiwr seneddol gan ddefnyddio e-bost personol - defnyddiodd hi ei llythyr ymddiswyddiad i ymosod ar "addewidion wedi eu torri" y llywodraeth.

Yn ddiweddarach yr un diwrnod, cafwyd pleidlais anhrefnus ar ffracio, gyda chynddaredd a dryswch ymhlith ASau Torïaidd ar ôl i'r llywodraeth wneud tro pedol ynghylch a oedd yn gyfystyr â phleidlais o hyder yn y prif weinidog.