Abertawe: Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Idris Terrace
Disgrifiad o’r llun,

Mae heddweision yn parhau i fod yn yr ardal tra fo'r ymchwiliad yn mynd yn ei flaen yn ardal Plasmarl, Abertawe

Mae dyn 35 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dynes 45 oed.

Cafodd yr heddlu eu galw i Idris Terrace yn ardal Plasmarl, Abertawe, am 06:00 fore Sadwrn.

Cadarnhaodd Heddlu De Cymru bod heddweision yn parhau i fod yn yr ardal tra fo'r ymchwiliad yn mynd yn ei flaen.

Ychwanegodd y llu nad oedden nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â marwolaeth y ddynes.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Darren George: "Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth y gymuned leol wrth i ni barhau â'r ymchwiliad hwn, a hoffwn eu sicrhau, ar hyn o bryd, nad ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r farwolaeth hon."

Pynciau cysylltiedig