Tonypandy: Anafiadau difrifol i fachgen, 16, wedi gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Heol Brithweunydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae dau wedi cael eu harestio yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng fan VW glas a cherddwr 16 oed yn Nhrealaw, Tonypandy

Mae bachgen 16 oed o Donypandy wedi ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau allai newid ei fywyd, yn ôl yr heddlu.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Brithweunydd, Trealaw, Rhondda Cynon Taf, tua 23:40 nos Sadwrn ar ôl i fan VW glas daro cerddwr.

Cafodd y bachgen ei gludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe.

Mae dyn 22 oed, oedd yn gyrru'r fan, a bachgen 15 oed oedd yn teithio yn y fan, wedi eu harestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol trwy yrru'n beryglus.

Dywedodd PC Jason Beaumont o Heddlu De Cymru eu bod yn apelio am wybodaeth.

Pynciau cysylltiedig