Rhif 10 yn 'trywanu bywyd economaidd pobl gyffredin'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd yr Arglwydd John Morris ei fod yn gofidio'n fawr am "bobl gyffredin" a'i fod yn "falch nad ydw i'n Aelod Seneddol".

Mae'r sefyllfa yn San Steffan yn "trywanu bywyd economaidd pobl gyffredin" yn ôl cyn-Dwrnai Cyffredinol a chyn-AS y Blaid Lafur.

Dywedodd yr Arglwydd John Morris wrth raglen Dros Frecwast fod Liz Truss wedi bod yn "anghyfrifol" wrth "wario beth nad oedd yn ei phoced hi".

Ddydd Iau fe wnaeth Ms Truss ymddiswyddo fel arweinydd y Blaid Geidwadol, a bydd yn gadael fel prif weinidog pan fydd olynydd wedi'i ddewis.

Erbyn brynhawn Llun, bydd yr ASau Ceidwadol sy'n dymuno ei holynu yn cael eu hystyried yn swyddogol os oes 100 neu fwy o aelodau'r blaid yn eu cefnogi.

Penny Mordaunt a Rishi Sunak yw'r unig rai i gyhoeddi eu bod yn bwriadu ymgeisio.

Er i sawl aelod ddweud y bydden nhw'n cefnogi Boris Johnson, fe gyhoeddodd yn hwyr nos Sul na fyddai'n ymuno yn y ras.

Dywedodd mai "nid nawr fyddai'r amser cywir" i wneud hynny.

Rishi Sunak yw'r ffefryn amlwg i fod yn brif weinidog felly, gyda 193 o ASau Ceidwadol yn ei gefnogi, tra mai cefnogaeth dim ond 26 sydd gan Penny Mordaunt.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Liz Truss gyhoeddi y byddai'n ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr ddydd Iau

Daeth ymddiswyddiad Liz Truss lai na deufis wedi iddi ddod yn brif weinidog.

Roedd wedi dod dan bwysau sylweddol gan aelodau ei phlaid ei hun yn dilyn tro pedol ar ran helaeth o'i chynlluniau treth.

Er gwaethaf ei bwriad i hybu twf, cwympo'n sylweddol wnaeth y marchnadoedd ariannol.

'Gwario beth nad oedd yn ei phoced'

Mewn cyfweliad â Dros Frecwast, dywedodd yr Arglwydd John Morris mai'r "broblem fawr yw bod pobl gyffredin yn goddef".

"Ry'n ni yn nwylo'r farchnad ac mae'r prif weinidog sydd newydd adael wedi gwneud drwg - mae hi wedi bod yn anghyfrifol," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kwasi Kwarteng ei ddiswyddo gan Liz Truss wythnosau wedi cyhoeddiad eu cyllideb fechan

"Doedd ganddi ddim syniad o gwbl beth fyddai adwaith y farchnad.

"Pan oeddech chi'n gweld y farchnad, pris benthyg yn codi mor ddifrifol, chwyddiant yn codi'r un ffordd - dros 10% - doedd hi ddim wedi meddwl beth fyddai'n dilyn o'i phenderfyniadau hi.

"Mae'r farchnad yn penderfynu faint o wariant allwn ni wneud, a'i cham gwag hi oedd gwario beth nad oedd yn ei phoced hi.

Ychwanegodd yr Arglwydd Morris y bydd pobl gyffredin yn dioddef "llawer mwy y gaeaf hwn".

"Mae graddfa hwn nawr yn trywanu bywyd economaidd pobl gyffredin.

"Dwi'n gofidio'n fawr ac yn falch ofnadwy bo' fi ddim yn aelod seneddol."

Yn siarad ar Dros Frecwast fore Llun dywedodd cadeirydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Glyn Davies - sy'n cefnogi Rishi Sunak - mai gorau po gyntaf y bydd y ras arweinyddiaeth ddiweddaraf yn dod i ben.

"Be' dwi eisiau yn fwy na dim byd arall yw i ddelio â hwn yn gyflym ac i'r blaid ddod at ei gilydd," meddai.

"Mae 'na bosibilrwydd y bydd 'na brif weinidog newydd heddiw, ac os fydd hynny'n digwydd, mi fyddai'n newyddion da.

"Dwi'n meddwl bod hi'n fwy pwysig ar hyn o bryd i gael llywodraeth sy'n dechrau delio gyda'r problemau sydd o'n blaen fel gwlad.

"Mae'n bwysig i ni symud ymlaen... a'r ffordd orau i wneud hynny yw setlo pethau heddiw."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Blaid Geidwadol yn wynebu dewis arweinydd newydd - a phrif weinidog nesaf y DU - am yr eildro o fewn deufis

Erbyn brynhawn Llun bydd yn rhaid i'r ASau sy'n dymuno olynu Liz Truss ennyn digon o gefnogaeth er mwyn cael eu hystyried.

Mae angen 100 o aelodau seneddol Ceidwadol i'w cefnogi.

Yn ôl cyfrifon y BBC, Rishi Sunak yw'r unig ymgeisydd sydd wedi cyrraedd y trothwy hwnnw'n barod, o ystyried nifer yr ASau Ceidwadol sydd wedi datgan eu cefnogaeth yn gyhoeddus.

Mae mwyafrif yr ASau Ceidwadol o Gymru wedi dweud yn gyhoeddus eu bod yn cefnogi Mr Sunak.

Pwy o Gymru sy'n cefnogi Sunak?

  • Simon Baynes, De Clwyd

  • Alun Cairns, Bro Morgannwg

  • Stephen Crabb, Preseli Penfro

  • David TC Davies, Mynwy

  • Simon Hart, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

  • Fay Jones, Brycheiniog a Sir Faesyfed

  • Jamie Wallis, Pen-y-bont ar Ogwr

  • Craig Williams, Sir Drefaldwyn

  • Virginia Crosbie, Ynys Môn

Pwy o Gymru sy'n cefnogi Penny Mordaunt?

  • James Davies, Dyffryn Clwyd

Dywedodd Sarah Atherton, AS Wrecsam, y byddai'n cefnogi Boris Johnson, ond roedd hynny cyn iddo ddatgan na fyddai'n ymuno â'r ras.

Dydy'r aelodau Ceidwadol Cymreig eraill heb ddatgan pwy fyddan nhw'n cefnogi.

Er nad yw'n AS ar etholaeth yng Nghymru, mae Ysgrifennydd Cymru, Robert Buckland, wedi dweud ei fod yn cefnogi Mr Sunak hefyd.

Mae disgwyl i'r prif weinidog newydd fod yn y rôl erbyn dydd Gwener, fan bellaf.

Mae'r canghellor newydd, Jeremy Hunt, yn dal yn bwriadu gwneud datganiad ariannol ddydd Llun nesaf.