Agor hwb gwefru ceir trydan mwyaf Cymru yn Y Rhyl
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Ddinbych ar fin agor hwb gwefru ceir trydan yn Y Rhyl - y mwyaf yng Nghymru.
Efo'r gallu i wefru 36 o gerbydau ar y tro, hwn fydd yr ail fwyaf yng ngwledydd Prydain.
Fe allai fod o ddefnydd mawr i bobl leol a thwristiaid ac yn gam pwysig yn y frwydr i leihau ôl troed carbon, meddai'r cyngor.
Maen nhw'n gobeithio y bydd yr hwb - ger maes parcio gorllewin Stryd Kinmel yn Y Rhyl - yn denu mwy o dwristiaid i'r dref glan môr.
Y gobaith ydy y bydd yr hwb gwefru yn agor ym mis Tachwedd.
Mae Richard Wyn Huws, perchennog Gwinllan Pant Du yn Nyffryn Nantlle, Gwynedd, wedi bod yn gyrru car trydan ers blynyddoedd.
Mae ganddo baneli solar ar do un o'r adeiladau yno, sy'n golygu ei fod yn gallu gwefru ei gar ei hun a chwsmeriaid.
"Mae 'nghar i yn saith mlwydd oed mis yma, a dwi wedi mwynhau bob munud o'i ddreifio fo," meddai.
"Doedd 'na ddim llawer o gwmpas saith mlynedd yn ôl… dwi'n dal i gael yr un wefr o ddreifio'r car rŵan hyn ag ers saith mlynedd yn ôl."
'Diwallu'r galw'
Mae'r Cynghorydd Emrys Wynne yn llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych.
"De ni'n sefydlu hwb gwefru ceir trydan yma'n Y Rhyl... er mwyn diwallu'r galw sy'n bod ar hyn o bryd ac a fydd yn cynyddu dros y blynyddoedd nesa 'ma," meddai.
"Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyhoeddi datganiad o argyfwng hinsawdd nôl yn 2019 ac mae o'n rhan o'r ymateb i'r galw hwnnw am leihau carbon i lefel sero erbyn 2030.
"Fydd o'n gyfle i'r rhai hynny sy'n teithio yma, wefru eu ceir tra ma' nhw'n aros yn y dref… cyfle iddyn nhw ddod yma a defnyddio'r adnoddau fydd gennym ni yma ac wedyn gwybod fedran nhw gyrraedd yn ddiogel am adref pan ddaw hi'n amser iddyn nhw droi tua thre."
Ond faint o ddyfodol sydd 'na i geir trydan efo costau ynni mor ddrud?
Ceir trydan wedi 'chwythu plwc'
Mae Gari Wyn, perchennog Ceir Cymru ym Methel ger Caernarfon, yn amau eu bod nhw wedi chwythu eu plwc ac mai ceir hydrogen ydy'r ffordd ymlaen.
"Y gwir amdani, allan o 100 o geir genno' ni yma ar hyn o bryd, rhyw ddau gar trydan sy' 'ma.
"'Da ni wedi torri lawr yn arw arnyn nhw yn enwedig yn wyneb yr argyfwng ynni ar hyn o bryd.
"Achos os weithiwch chi allan… er enghraifft, y car yma.... Hyundai Kona, basa chi'n prynu'r car yma mewn trydan nid £16,500 fydda fo ond £22,000… tasa chi'n edrych ar y costau rhedeg cyfartalog dros flwyddyn 'sa'n costio £12,000 i chi redeg hwn… 'sa'n costio ella £900 i redeg car trydan.
"Rŵan sut ydach chi'n arbed y £6,000 'na 'da chi byth yn mynd i'w gael o'n ôl oni bai bod ganddoch chi solar panels sydd wedi costio rhyw £5,000 ar eich tŷ a bo' chi mewn ffordd yn berson cefnog efo drive.
"Y gwir amdani ydy yng ngogledd Cymru, cyfran fechan iawn iawn o'n prynwyr ni sy'n mynd i allu mynd i mewn i'r farchnad yma am hir iawn i ddod eto.
"Fy marn bersonol i ydy mai'r unig ffordd ymlaen ydy ceir hydrogen ac mae angen i wleidyddion sylweddoli bod yn rhaid iddyn nhw wneud yr ymchwil a rhoi'r buddsoddiad i mewn i'r sector yma."
Ond yn Y Rhyl mae'r Cynghorydd Emrys Wynne yn credu bod 'na ddyfodol i'r hwb gwefru trydan yno.
"De ni'n sôn yma am ynni adnewyddol a'r gobaith ydy y bydd y math yma o ddarpariaeth yn galluogi pobl i ddefnyddio ynni adnewyddol fydd yn cael ei gynhyrchu gobeithio maes o law drwy system solar er mwyn gwefru batris ac ati.
"Wrth wneud hynny byddwn ni'n gallu cadw'r prisiau i lawr i lefel fydd yn fwy derbyniol gobeithio i'r lleol na gorfod cysylltu â'r grid cenedlaethol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2016