Ceir cynaliadwy: Beth yw'r dyfodol?

  • Cyhoeddwyd
Dyluniad o garFfynhonnell y llun, Pei Junior Chan
Disgrifiad o’r llun,

Dyluniad o gar Range Rover y dyfodol. "Cynaliadwyedd yw'r moethusrwydd newydd"

Pan nad oedd Pei Junior Chan o Fethesda yn helpu ym mwyty tecawe Tsieineaidd ei deulu yng Nghyffordd Llandudno, roedd ganddo bensil yn ei law a syniad am gar newydd sbon yn ei ben.

Ar ôl iddo fynd yn agos i roi'r bensil honno i lawr ar ôl methu â ffeindio gwaith fel dylunydd yn dilyn gradd yn y Royal College of Art yn Llundain, mae bellach wedi gwireddu breuddwyd a chael swydd gyda chwmni Tangerine.

Ymhlith cleientiaid Tangerine mae Apple, Toyota, LG, British Airways, Sky, Huawei a Samsung ac mae ganddyn nhw swyddfeydd yn Llundain, Seoul a Brasil.

Fel Dylunydd Iau yn Llundain sy'n ymddiddori yn nyfodol y car bydd Pei Chan yn creu syniadau a dyluniadau arloesol ym myd dylunio ceir gan edrych yn benodol ar deithio cynaliadwy.

Cymru Fyw sydd wedi holi Pei am beth allwn ni ei ddisgwyl o geir cynaliadwy'r dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Pei Junior Chan
Disgrifiad o’r llun,

Y dylunydd Pei Junior Chan. Graddiodd Pei mewn Dylunio Modurol ym Mhrifysgol Abertawe cyn gwneud cwrs Meistr mewn Cludiant Cynaliadwy

'Be fedrwn ei wneud i wella bywydau pobl?'

I Pei, estheteg y car sydd yn ei ddiddori fwyaf, yn ogystal â sut gall datblygiadau newydd wella bywydau pobl a'r blaned.

"Fel dylunydd be sy'n diddori fi ydi sut mae o'n ffitio mewn i fywydau pobl. Pan ti'n dylunio rwbath mae'n rhaid i chdi ofyn i chdi dy hun, what purpose does it serve?"

Wrth edrych ar y byd dylunio ceir mae Pei yn gweld llawer iawn o gynnyrch yn cael eu creu sydd ddim yn fuddiol neu'n addas i bobl a'r amgylchedd.

Mae hyn oherwydd blaenoriaethau cwmnïau am arian cyflym a'r byd prynwriaethol (consumerist) rydyn ni'n byw ynddo.

"Cwestiwn fi ydi... Be fedrwn wneud i wella bywydau pobl, gwneud pobl i deimlo yn well a helpu'r blaned?"

Ffynhonnell y llun, Pei Junior Chan
Disgrifiad o’r llun,

Space-X. "Moethusrwydd cynaliadwy"

Dyfodol y car

Taniodd diddordeb Pei mewn ceir o oedran cynnar pan wyliodd ei frawd mawr yn modelu ei gar ac yn chwarae o gwmpas gyda'r darnau gwahanol er mwyn ei wneud yn ddarn mwy personol.

Er bod llawer iawn o bobl yn dal i fwynhau'r elfen yna ym myd ceir ac yn ymddiddori mewn moduron vintage, mae'n perthyn i'r hen oes erbyn hyn yn ôl Pei.

Meddai: "Wrth gymharu ceir heddiw gyda 10-15 mlynedd yn ôl mae lot wedi newid.

Ffynhonnell y llun, Pei Junior Chan
Disgrifiad o’r llun,

Cysyniad dyfodolaidd o gar Range Rover

"Dwyt ti ddim yn gweld pobl ifanc y dyddiau yma yn chwarae o gwmpas gyda cheir gymaint. Mae o i gyd i wneud gyda softwares a computers erbyn hyn - felly mae ceir yn dod yn anoddach i'w personoli.

"O'r blaen roedd o i gyd ynglŷn â pha gar sydd yn gallu cyrraedd 0-60 y cyflymaf, neu be ydi'r break horsepower, neu sŵn y car... Ond roedd hwnna yn genhedlaeth arall.

"Mae Gen Z yn edrych ar geir yn wahanol."

Seilwaith

Y dyddiau hyn mae'n gallu cymryd dwy neu dair blynedd yn unig i greu car o ddim byd yn Tsieina o'i gymharu â hyd at wyth i ddeng mlynedd rai blynyddoedd yn ôl sy'n dangos pa mor gyflym mae pethau yn newid.

Rydyn ni wedi dechrau clywed sôn am geir autonomous sy'n gyrru ei hunain sydd wedi dechrau cael eu defnyddio yn Tsieina. Mae ceir trydan bellach yn fforddiadwy ac mae sôn fod ceir hydrogen ar y ffordd.

Ffynhonnell y llun, Pei Junior Chan
Disgrifiad o’r llun,

'The Hive Community'. "Uned parcio llongau gofod dyfodolgar wedi ei ysbrydoli gan wenyn."

Ond i bethau newid yn iawn ar draws y byd mae angen i'r seilwaith fod yno i wneud pethau'n bosib, yn ôl Pei.

"Bydd pobl yn gallu gwneud gwaith tra mae'r car yn dreifio... bydd y space sydd gan geir yn esblygu yn llwyr a bydd pethau yn symud mor gyflym ac mor fawr," meddai.

"Ond fydd o yn dibynnu ar wleidyddiaeth, rheoliadau ac infrastructure dinasoedd. Os ydi ceir autonomous yn dilyn drwodd, fel mae o i'w weld yn Tsieina yn barod ar lonydd cyhoeddus, mi fydd yr ochr mobility ac architecture yn newid yn gyfan gwbl."

Ffynhonnell y llun, Pei Junior Chan
Disgrifiad o’r llun,

Celf cysyniadol wed'i ysbrydoli gan longau gofod sy'n cael eu rheoli gan ddeallusrwydd artiffisial

Mae targed Llywodraeth y DU o roi diwedd ar ddefnydd petrol a diesel erbyn 2030 yn uchelgeisiol iawn meddai Pei.

"Mae o reit bizarre eu bod nhw wedi gosod 2030 fel y flwyddyn i orffen petrol - mae'n cymryd lot o amser.

"Mae 'na lot o bethau angen newid. Mae o i gyd yn dibynnu ar be ydi'r lleoliad yn ddaearyddol ac mae llefydd gwahanol yn defnyddio ceir mewn ffyrdd gwahanol."

Ffynhonnell y llun, Pei Junior Chan
Disgrifiad o’r llun,

Dyluniad ar gyfer Range Rover

Ym mis Medi 2021 aeth Prydain mewn i greisus llwyr wrth i orsafoedd redeg allan o petrol a diesel.

Ers hynny mae pris tanwydd wedi bod ar ei uchaf erioed. Mae galw ers amser hefyd i roi'r gorau i danwydd er mwyn ein planed.

"Mae'n crazy edrych ar y broblem yna - mae'n dangos sut mae pobl yn dibynnu ar mobility. Os oes 'na broblemau, roedd pobl yn ymddwyn yn wirion," meddai Pei Chan.

Ffynhonnell y llun, Pei Junior Chan
Disgrifiad o’r llun,

Dyluniad o awyren yn cael ei bweru gan gell hydrogen gydag allyriadau net zero.

Felly be amdani? Trydan neu hydro?

"Mae'r hydrogen fuel cell yn well ar gyfer yr amgylchedd. Mae'r tyllu am batris lithium ar gyfer ceir trydanol yn broblem gan ei fod yn wael i'r blaned.

"Hydrogen ydi'r ateb ond ar y funud dydi'r dechnoleg ddim yn rhad.

"Mae'n dibynnu os gall automakers weithio gyda'i gilydd i weld os ydi'r infrastructure yn compatible gyda'r modelau maen nhw yn cynhyrchu.

"Ond mae hwnna yn broblem o fewn ei hun... Byddai'n golygu bod ceir angen fod yn debyg i'w gilydd a byddai blaenoriaethau cwmnïau - sef proffit, yn gorfod newid."