Cwmni cyhoeddus ynni gwyrdd 'i ddechrau gyda ffermydd gwynt'

  • Cyhoeddwyd
fferm wyntFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd Cymru'n sefydlu cwmni cyhoeddus er mwyn datblygu prosiectau ynni gwyrdd ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai dyma oedd y cynllun cynta' o'i fath yn y DU, a byddai'n helpu taclo'r argyfwng costau byw yn ogystal â newid hinsawdd.

Drwy gael cwmni cyhoeddus yn arwain ar brosiectau ynni glan mae'r elw'n medru cael ei ail fuddsoddi yn lleol, medd gweinidogion.

Mynnu mae'r gwrthbleidiau bod angen gweithredu ar frys i gynyddu faint o ynni glan sy'n cael ei gynhyrchu.

'Buddsoddiad hirdymor'

I ddechrau, fe fydd y cwmni newydd - sydd heb enw eto - yn canolbwyntio ar ddatblygu ffermydd gwynt ar goetiroedd Llywodraeth Cymru.

Y bwriad yw efelychu llwyddiant cwmnïau sy'n gweithredu yng Nghymru sy'n eiddo i wladwriaethau eraill.

Er enghraifft, mae'r fferm wynt fwyaf ar dir yng Nghymru a Lloegr - Pen y Cymoedd yng Nghastell-nedd Port Talbot - yn cael ei redeg gan gwmni Vattenfall sy'n gysylltiedig â llywodraeth Sweden.

Tra bod cynlluniau fel hyn yn darparu tâl rhent, a chronfeydd er budd cymunedau lleol, mae'r elw'n cael ei anfon dramor yn y pendraw yn hytrach na chael ei wario yng Nghymru.

Wrth annerch y Senedd, dywedodd y gweinidog newid hinsawdd Julie James ei bod yn awyddus i sicrhau bod elw o brosiectau ynni yng Nghymru yn darparu "mwy o fudd" i bobl leol.

Ffynhonnell y llun, Vattenfall
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd fferm wynt Pen y Cymoedd ei hagor yn swyddogol yn 2017

Dywedodd y gallai'r arian gael ei ailfuddsoddi mewn cynlluniau i insiwleiddio tai mewn cymunedau sy'n byw'n agos at y ffermydd gwynt newydd, er enghraifft.

"O edrych ar wledydd eraill fe ddylen ni ddisgwyl cryn elw o'n buddsoddiad," meddai, gan ddisgrifio'r cynllun fel "moment wirioneddol hanesyddol i Gymru".

"Ni yw'r cyntaf yn y DU i sefydlu datblygwr ynni adnewyddadwy sydd dan berchnogaeth y cyhoedd.

"Mae hwn yn fuddsoddiad cynaliadwy hirdymor sy'n rhoi'r targed sero-net a chymunedau Cymru wrth galon y trawsnewid sydd ei angen arnom."

Ynni mewn dwylo lleol

Y gobaith yw y gallai'r cwmni newydd gael ei sefydlu erbyn Ebrill 2024, gyda'r prosiectau cyntaf yn derbyn caniatâd cynllunio tua diwedd y ddegawd.

Dywedodd Ms James y byddai'r corff hefyd yn gweithio â phrosiectau cymunedol a datblygwyr masnachol ar ddatblygiadau ar y cyd.

Yn y cyfamser mae corff arall yn cael ei sefydlu gan y llywodraeth fel rhan o'i chytundeb gweithredu â Phlaid Cymru, er mwyn hwyluso datblygiad prosiectau ynni cymunedol.

Mae stad coedtir Llywodraeth Cymru yn gorchuddio 6% o Gymru ac yn cynnwys safleoedd mynyddig, gwyntog.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad cychwynnol yw i ddatblygu ffermydd gwynt ar goetiroedd Llywodraeth Cymru

Mae cwmniau ynni adnewyddadwy wedi cael eu hannog i ddatblygu yma ers 2005, gyda phedwar prosiect gwerth 441MW o ynni gwynt wedi'u sefydlu hyd yma, a gwerth 134MW dan ystyriaeth.

Mae'r llywodraeth yn dweud y bydd y datblygwr ynni newydd yn helpu i gyflawni eu hamcan i gael dros 1GW o gynhyrchiant mewn dwylo lleol erbyn 2030, fyddai'n ddigon i gyflenwi oddeutu 750,000 o gartrefi.

Mae'r cynlluniau'n debyg i'r rhai a gyhoeddwyd gan arweinydd Llafur Syr Keir Stamer fis diwethaf ar gyfer 'Great British Energy', ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod eu polisi nhw wedi bod dan ystyriaeth ers rhai blynyddoedd.

Ond gofynnodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar newid hinsawdd, Janet Finch Saunders MS, a allai'r corff newydd ddechrau ar eu gwaith yn gynt nag Ebrill 2024.

Ychwanegodd llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell MS yn ychwanegu bod angen gweithredu "ar frys" er mwyn i gynlluniau ynni gwyrdd newydd ddechrau dwyn ffrwyth.