Pryder am ddiffyg dŵr i daclo tanau yn ardal Gŵyr
- Cyhoeddwyd
Mae tân a ddinistriodd lleoliad priodas oherwydd nad oedd modd cael digon o ddŵr o'r prif gyflenwad wedi arwain at alwadau am uwchraddio pibellau.
Fe geisiodd criwiau ddiffodd y tân ar safle Ocean View yn Llanrhidian, Gŵyr, ond doedd dim dŵr ar gael o ganlyniad i nam yn y pibellau.
Yn ôl cynghorydd lleol, mae'r sefyllfa'n bygwth bywydau ac adeiladau eraill.
Dywedodd Dŵr Cymru nad oedden nhw'n poeni am lefelau dŵr ar gyfer diffodd tanau yn yr ardal.
'Digwydd yn aml'
Fe ddywedodd Lynne a Vivian Pearce, perchnogion Ocean View, bod y tân wedi dinistrio 12 blynedd o waith.
Fe wnaethon nhw ganmol y criwiau am gyrraedd ar frys a gwneud eu gorau i ddiffodd y tân ym mis Mehefin.
Ond ar ôl iddyn nhw ddefnyddio'r holl ddŵr o'r injan dân, daeth i'r amlwg nad oedd unrhyw ddŵr yn dod o'r cyflenwad canolog gan fod nam mewn un o'r pibellau.
Yn ôl Lynne Pearce, sy'n gyn-ddiffoddwr tân, mae hyn yn digwydd yn aml gan fod system ddŵr Gŵyr yn hen.
"Fe wnaeth y diffoddwyr hyd yn oed geisio codi a chicio dŵr o'r llawr," meddai.
"Roedd angen aros cyn i dancer ddŵr gyrraedd o'r Tymbl, ac erbyn hynny roedd y gwynt wedi gyrru'r tân drwy'r adeilad cyfan."
Maen nhw'n bwriadu adeiladu'r safle o'r newydd - ond maen nhw'n ofni y gallai'r un peth ddigwydd eto.
Mae'r tân yn dangos y perygl sy'n wynebu sawl cartref a busnes yn ardal Gŵyr, yn ôl cynghorydd sydd wedi bod yn helpu Mr a Mrs Pearce.
Mae gan yr ardal hen system bwysedd isel, medd y Cynghorydd Richard Lewis.
Mae'n galw am wella'r system ddŵr - ond gan y gallai hynny gymryd blynyddoedd, dywedodd y dylai'r gwasanaeth tân osod tancer dŵr yn Gŵyr.
'Effeithio ar Gŵyr i gyd'
Dywedodd iddo gwrdd â chynrychiolwyr Dŵr Cymru a'r gwasanaeth tân, ond nad oedd yn hapus â'u hymateb i'r sefyllfa.
"Dwi'n ymwybodol o o leiaf un tân sylweddol arall yn ddiweddar lle'r oedd y diffyg dŵr yn golygu nad oedd hi'n bosib rheoli tân bach, ac fe wnaeth tân mawr achosi difrod sylweddol," meddai'r Cynghorydd Lewis.
"Os nad ydyn nhw am adnewyddu'r system ddŵr - ac fe fyddai hynny'n cymryd 20 blynedd - fe allai'r gwasanaeth tân ddod â thancer dŵr i orsaf dân Reynoldston.
"Mae'n iawn cael un yn y Tymbl, ond erbyn iddo gyrraedd fan hyn mae'r lle wedi llosgi lawr yn llwyr.
"Mae'r sefyllfa yn effeithio ar Gŵyr i gyd. Mae 3,000 o dai yn Gŵyr ac fe allai unrhyw un o'r rheiny - gan gynnwys fy un i - fynd ar dân unrhyw eiliad. Rwy'n grac iawn."
'Wedi colli'r cyfan'
"Petai dŵr ganddyn nhw, dwi'n credu y bydden nhw wedi gallu rheoli'r tân cyn iddo ledaenu trwy weddill yr adeilad," meddai Lynne Pearce.
"Doedd dim fflamau o gwbl tan doedd 'na ddim dŵr. Roedd gan y gwasanaeth tân reolaeth ar y sefyllfa tan i'r injan redeg mas o ddŵr. O fewn 10 munud, roedd cefn yr adeilad i gyd ar dân."
"Petai cyflenwad dŵr safonol gyda ni, fe fyddai tân wedi bod ond nid fel yr hyn welon ni. Nawr, rydyn ni wedi colli'r cyfan."
Ychwanegodd: "Gallwn ni ddim fod yn sicr na fyddwn ni yn yr un sefyllfa eto. Ac nid ni yw'r unig rai sy'n poeni."
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod yr ymateb i'r tân ar safle Ocean View wedi bod yn gyflym ac yn effeithiol.
Ond fe ddywedon nhw fod delio â thanau mewn ardaloedd gwledig yn gallu golygu nad ydy cyflenwadau dŵr canolog digonol bob tro yn hawdd i'w cyrraedd.
Yn yr achos hwn, medden nhw, roedd angen mwy o ddŵr ac fe gafodd tancer ei gyflenwi.
Dywedodd Dŵr Cymru eu bod wedi cwrdd â'r gwasanaeth tân yn sgil pryderon pobl leol, o nad ydyn nhw'n poeni am lefelau dŵr ar gyfer diffodd tanau yn yr ardal.