Gwaharddiad pibellau dŵr yn y de-orllewin yn dod i ben
- Cyhoeddwyd
Mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau fod y gwaharddiad ar ddefnyddio pibellau dyfrio yn y de-orllewin wedi dod i ben, dros ddeufis ar ôl iddo ddod i rym.
Fe ddaeth y gwaharddiad ar y defnydd o bibellau dŵr i rym yn Sir Benfro a rhannau o Sir Gaerfyrddin ar 19 Awst.
Daeth hynny yn dilyn cyfnod hir o dywydd sych, a olygodd fod lefelau Cronfa Ddŵr Llys-y-frân ger Hwlffordd wedi disgyn yn llawer is na'r arfer.
Dyma oedd y gwaharddiad cyntaf o'r fath yng Nghymru ers dros 30 mlynedd, ac roedd pobl yn wynebu dirwy o £1,000 am dorri'r rheolau.
'Pwysig parhau i osgoi gwastraffu'
Ond mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi fore Mawrth fod y gwaharddiad wedi'i godi, ac y bydd hynny'n digwydd ar unwaith.
Er yn codi'r gwaharddiad, mae Dŵr Cymru yn dweud ei bod yn bwysig parhau i osgoi gwastraffu dŵr er mwyn i gronfeydd ledled Cymru ail-lenwi dros y gaeaf.
"Er bod glaw'n disgyn nawr, ac yn helpu rhai cronfeydd fel Llys-y-frân, nid yw'r glaw'n ddigon trwm nac yn para'n ddigon hir i gael effaith sylweddol ar lefelau'r holl gronfeydd," meddai'r cwmni.
"Mae hyn yn arbennig o wir am y cronfeydd yn y de-ddwyrain, lle mae'r lefelau mewn rhai cronfeydd yn parhau i ddisgyn.
"Heb unrhyw law o bwys yn y rhagolygon, mae angen ychydig bach o gymorth ychwanegol ar y cronfeydd i sicrhau eu bod yn llenwi'n ddigonol ar gyfer yr haf nesaf."
Ychwanegodd Dŵr Cymru ei fod yn diolch i'w cwsmeriaid yn y de-orllewin am "sicrhau bod modd cadw'r dŵr yn llifo i'n cwsmeriaid yno trwy gydol yr haf".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Awst 2022
- Cyhoeddwyd5 Awst 2022
- Cyhoeddwyd8 Medi 2022