Llanelli 9-3 Seland Newydd: "Rwy'n siŵr i fi weld deigryn ar foch Dad"
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n 50 mlynedd ers un o'r diwrnodau enwocaf yn hanes chwaraeon Cymru; buddugoliaeth Llanelli dros y Crysau Duon, 9-3.
Rhywun oedd yno y diwrnod hwnnw yn 11 mlwydd oed oedd Keith Davies, sydd wedi bod yn gefnogwr brwd o'r clwb, ac yna'r rhanbarth y Scarlets, ar hyd ei fywyd.
Dyma atgofion Keith o'r diwrnod arbennig hwnnw ar Barc y Strade.
Bydd dydd Mawrth Hydref y 31ain, 1972, yn aros yn fy nghôf i am byth fel un o ddyddiau mwyaf cyffrous fy chwedeg un mlynedd ar y ddaear. Diwrnod mwll a thywll oedd hi wrth i nhad a fi yrru yn ei gar A40 llwyd o Rydaman i Lanelli.
Teithio i weld arwyr tîm rygbi Llanelli oedde' ni, yn croesawu y Crysau Duon tîm rygbi gore'r byd i Barc y Strade, a hynny ym mlwyddyn canmlwyddiant clwb y Scarlets.
Wrth gerdded trwy'r dre tuag at y stadiwm roedd yr awyrgylch yn drydanol - y canu, y bloeddio a'r trafod tawel, a phawb fel morgrug yn cerdded i'r un cyfeiriad i gyfeiliant Sosban Fach.
Tref ddiwydiannol ddosbarth gweithiol oedd Llanelli ar y pryd a nifer o'r chwaraewyr yn gweithio yn y gweithfeydd metel neu'r pyllau glo. Roedd y pymtheg oedd ar y cae y diwrnod hwnnw yn Gymry, a'r rhan fwyaf o'r ardal leol. Nhw oedd yn gorfod ysgwyddo'r baich hynod drwm o optimistiaeth a gobaith tref gyfan.
'Breuddwyd fawr Carwyn'
Ond sut yn y byd oedd y cefnogwyr yn gallu bod mor obeithiol, wedi'r cyfan Y Crysau Duon oedd y gwrthwynebwyr?!...
Un o'r rhesymau oedd hyfforddwr y Scarlets, Carwyn James a wnaeth y flwyddyn gynt arwain Y Llewod at fuddugoliaeth annisgwyl yn erbyn y Crysau Duon a hyn yn Seland Newydd, y tîm cyntaf erioed i wneud hynny. Breuddwyd fawr Carwyn oedd ail adrodd y llwyddiant gyda'i dim lleol - breuddwyd y Crysau Duon oedd cael dial ar Carwyn!
Carwyn oedd wedi cael y ddau docyn i ni. Roedd Dad yn ei nabod e'n dda - Dad oedd ei asiant pan ddewiswyd Carwyn i ymladd sedd Llanelli ar ran Plaid Cymru.
Academydd tawel, meddylgar oedd flynyddoedd o flaen ei amser yn hyfforddi rygbi. Os mai'r Crysau Duon oedd tîm rygbi gorau'r byd, Carwyn James oedd hyfforddwr gorau'r byd. Roedd y crwt 11 oed hwn yn edrych mlaen at frwydr ffyrnig.
Roedd Parc y Strade yn llenwi oriau cyn y gic gyntaf, a'r disgwylgarwch yn cynyddu. Ond byddai'r ugain mil a mwy ddim wedi gweld na chlywed y chwaraewyr.
Delme Thomas, y capten yn dweud ei fod e wedi bod yn ffodus iawn i chware dros ei wlad a thros y Llewod, ond y bydde fe'n fodlon rhoi popeth, pob anrhydedd jest i weld ei annwyl Llanelli yn curo'r Crysau Duon
Neu Grav a Gareth Jenkins yn dadlau pa un ohonyn nhw ill dau oedd aelod ifanca'r tîm (Grav o ddiwrnod gyda llaw).
Na chlywed geiriau anfarwol Carwyn, bod yn rhaid bod yn glinigol, a meddwl, meddwl, "It's a thinking game" a dweud yn ddidwyll y galle nhw ennill.
Cais i Lanelli!
Tri o'r gloch a'r gic gyntaf. Erbyn dwy funud wedi tri roedd cic gosb i Lanelli. Cic roedd y dorf yn digwyl i Phil Bennett ei chicio. Phil yn camu at y bêl, ei chico... bloedd anferth wrth i'r cefnogwyr weld y bel yn hedan am y pyst... ond ar yr eiliad ôla' fe drawodd y bêl y trawst ac adlamu i ddwylo mewnwr y Crysau Duon. Hwnnw'n ceisio ei chicio'n glir, ond Roy Bergiers y canolwr yn taro'r bêl i lawr dros llinell gais y Crysau Duon... ras am y bêl... a Roy gyrhaeddodd gyntaf - cais!
Roedd Llanelli wedi sgorio cais yn erbyn tîm gorau'r byd.
Wedi trosiad Phil Bennett, roedd y Scarlets ar y blaen o 6-0, ac roedd rhai yn mynnu bod cic Benny wedi taro'r postyn yn fwriadol!
Fe gafodd y Crysau Duon gic gosb i'w gwneud hi'n 6-3, ond wrth i'r gêm fynd ymlaen roedden nhw sylweddoli na fydde nhw yn ei chael hawdd y diwrnod hwnnw. Wrth i'r gêm fyn yn ei blaen roedden nhw yn mynd yn fwy a mwy rhwystredig, ac ambell un yn fwy na'i gilydd!
Troseddodd Keith Murdoch prop y Crysau Duon yn giaidd o filain fwy nag unwaith. Fe oedd yr un gafodd ei anfon adre'n gynnar o'r daith ar ôl digwyddiad anffodus yn Ngwesty'r Angel Caerdydd yn ddiweddarach.
Yn ôl y sôn fe roddwyd e ar yr awyren, a phan stopiodd honno yn Awstralia ar ei ffordd i Seland Newydd fe ddaeth e oddi ar yr awyren a chamu i ddiffeithwch Awstralia. Chlywodd neb ganddo am flynyddoedd lawer ond stori arall yw honno.
Nôl at y gêm... cic gosb i Lanelli o'r ystlys yn agos i'r llinell hanner. Andy Hill yr asgellwr yn cicio'r bêl yn syth drwy'r pyst, gan wneud y sgôr yn 9-3 gobaith y dorf yn troi yn gred! Fe daflodd y Crysau Duon bopeth at Lanelli ym munudau ola'r gêm a finne fel pawb arall yn ysu i glywed y chwiban olaf.
"Ni yw tîm gore'r byd nawrte?"
Roedd amddiffyn y Scarlets yn ddim byd llai nag arwol, ac yna dyna hi!! Chwiban Titcombe y dyfarnwr. Roedd Llanelli wedi curo'r Crysau Duon! A 'nghwestiwn i Dad oedd; "Ni yw tîm gore'r byd nawrte?"... "Am heddi 'falle".
Fel bron i bawb arall fe rhuthrais i ar y cae a chael fy moddi gan y dorf, wrth i Barry Llywelyn a Derek Quinell gario Delme yn fuddugoliaethus ar eu hysgwyddau trwy'r dorf tuag at y stafell newid! Taith a gymrodd rhyw ddeugain munud a'r dorf yn canu ac yn bloeddio am hydoedd "Delme... Delme... Delme,"
Y noson honno fe yfwyd y dref gyfan yn sych, a hynny cofiwch mewn tref oedd â dau fragdy a dros 160 o dafarndai!
Roedd y pymtheg arwr fu'n brwydro yn haeddu dathlu hefyd, ac efallai mai'r stori sy'n crynhoi'r hyn oedd y fuddugoliaeth yn golygu i bawb yn nhre'r Sosban, yw sut aeth Roy "Shanto" Thomas adre.
Tua 4 o'r gloch y bore fe aeth Shanto at ei gar, dim ond i heddwas ddod ato a dweud ei fod wedi yfed gormod i yrru. Fe waeth yr heddwas drefnu bod heddlu Sîr Gaerfyrddin yn rhoi police escort iddo fe i bont y Llwchwr - un car o'i flaen ac un arall y tu ôl iddo. Wedi cyrraedd Pont y Llwchwr roedd Heddlu Morgannwg yn cymryd drosodd a hebrwng Shanto adref i Benclawdd!
A finne? Anghofia i fyth y diwrnod hwnnw! Diwrnod y 9-3. Ar y ffordd nôl i Rydaman, rwy'n siŵr i fi weld deigryn ar foch Dad, jest cyn i fi gwmpo i gysgu yn yr hen A40, a breuddwydio am gael chwarae i'r Scarlets un dydd.
Hefyd o ddiddordeb: