20 mlynedd ers curo’r Eidal 2-1

  • Cyhoeddwyd
cymruFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae 16 Hydref yn nodi 20 mlynedd ers un o ganlyniadau mwyaf cofiadwy yn hanes pêl-droed Cymru. Roedd y gêm yn erbyn yr Eidal yn rhan o'r ymgyrch ar gyfer Pencampwriaethau Euro 2004 ym Mhortiwgal.

Ar y noson honno yn 2002, fe gurodd tîm Mark Hughes Yr Eidal 2-1 yn Stadiwm y Mileniwm. Roedd tîm yr Azzurri yn cynnwys nifer o fawrion y gêm aeth 'mlaen i ennill Cwpan y Byd yn 2006.

Ffigwr allweddol yn llwyddiant Cymru oedd yr ymosodwr John Hartson, a roddodd y bas i Craig Bellamy i sgorio'r gôl fuddugol.

Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda 'Big John' i hel atgofion o'r achlysur.

'Roedd tîm da gyda ni'

"O'n i yn yr ymosod gyda Giggs a Bellamy, ac roedden ni'n gryf yn y cefn hefyd gyda Melville, Gabbidon, Delaney a Speed - roedd tîm llawn profiad 'da ni.

"Roedden ni'n hyderus ac yn edrych 'mlaen i'r Eidalwyr ddod i Gaerdydd - roedd teimlad bod e am fod yn gêm gystadleuol."

hughesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mark Hughes; rheolwr y tîm cendlaethol rhwng 1999 a 2004

Yr Eidal oedd ail wrthwynebwyr Cymru yn y grŵp, gyda'r ymgyrch yn dechrau gyda buddugoliaeth 0-2 yn erbyn Y Ffindir yn Helsinki.

"Ie dwi'n cofio wynebu Sami Hyypiä yn y gêm gyntaf 'na - roedd e'n chwaraewr da iawn ac yn arbennig o gryf. Roedd e'n berfformiad da iawn i ni i fynd i'r Ffindir ac ennill heb ildio gôl."

Felly roedd yr hyder yn uchel ymysg y Cymry ar gyfer ymweliad yr Eidalwyr bum wythnos ar ôl curo'r Ffindir.

"Roedd gan Yr Eidal chwaraewyr fel Del Piero a Cannavaro - a lot o chwaraewyrworld class eraill. Roedd gennyn ni lot o barch at rhain ond roedden ni hefyd yn gwybod bod gennyn ni'r chwaraewyr i wneud rhywbeth ar y noson a chreu upset yn erbyn nhw."

Cannavaro a Nesta

Roedd John Hartson yn gwybod y byddai'n mynd ben-ben gyda dau amddiffynnwr a oedd yn cael eu hystyried ymysg y gorau yn hanes y gêm - Fabio Cannavaro oedd gyda Inter Milan ar y pryd, ac Alessandro Nesta o AC Milan.

john hartsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

John Hartson yn brwydro am y bêl gyda Fabio Cannavaro

"I ddweud y gwir doeddwn i heb feddwl amdanyn nhw," meddai John. "Roedd e jest yn gêm normal i fi. O'n i'n gwybod oedd rhaid imi ddal y bêl i fyny, ennill y bêl yn yr awyr a bod yn focal point i gael y tîm lan y cae a tynnu pwysau oddi ar chwaraewyr eraill. O'n i'n gwybod bod gan ni Simon Davies a Craig Bellamy ar yr esgyll oedd wastad yn strecho'r amddiffyn.

"O'n i wedi arfer chwarae yn erbyn Tony Adams, Martin Keown, Razor Ruddock, Steve Bruce, Colin Hendry, Gareth Southgate, Jamie Carragher... o'n i lan yn erbyn chwaraewyr fel rhain oedd yn ardderchog bob wythnos yn Uwch Gynghrair Lloegr felly roedd e jest fyny i fi mynd mas 'na a gwneud fy ngore."

simon daviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Simon Davies yn chwarae dros Tottenham Hotspur yn 2002 ac fe enillodd 58 o gapiau rhyngwladol yn ystod ei yrfa

Hanner amser

Fe roddodd Simon Davies Cymru ar y blaen wedi 11 munud o chwarae yn dilyn gwaith ymosod gwych ar yr asgell dde gan yntau a Craig Bellamy.

Ond fe unionodd Alessandro Del Piero ychydig funudau cyn yr egwyl. Felly beth oedd y teimlad yn ystafell newid Cymru hanner amser?

"Roedden ni'n siomedig iawn, achos fe sgoriodd Del Piero gyda chic rydd a gafodd deflection mawr cyn mynd i'r rhwyd. Roedden ni'n anffodus i fynd fewn yn gyfartal achos fe 'nathon ni ddechrau'r gêm yn berffaith, roedd y tactegau'n mynd yn dda, roedd Mark Hughes yn hapus ac yn dweud wrthyn ni i gario 'mlaen."

Gôl Craig Bellamy

"Dydi Craig Bellamy erioed wedi dweud diolch i fi am y pas 'na! Daeth y bêl i fi gan Danny Gabbidon, ac o'n i'n hoffi'r pas achos roedd 'na lot o bŵer arno ac roedd e'n hawsach imi reoli'r bêl wrth fy nhraed - well gen i hynny na chael pêl araf.

"Nes i droi a gweld Bellamy'n mynd a meddwl 'reit os allai basio'r bêl 'ma o flaen e dwi'n gwybod 'neith e sgorio'. Odd e mor gyflym o'n i'n gwybod bydde fe'n gorffen yn y symudiad gyda gôl, ac roedd ei rediad e'n berffaith a'r bas yn y lle iawn. 'Nath e wneud y cyfan edrych mor hawdd."

bellamy
Disgrifiad o’r llun,

Craig Bellamy'n sgorio'r gôl â roddodd Cymru ar y blaen

"Roedd y sŵn wedi'r gôl yn anhygoel. Ie falle roedd 'chydig bach o lwc i ni ddal 'mlaen i'r gôl o fantais, ond roedd hi'n sbeshial - mae 'na reswm pam ni'n dal yn siarad amdano fe nawr."

Fe sgoriodd Bellamy yn y 70fed munud ac felly roedd rhaid i Gymru wrthsefyll ugain munud o ymosodiad ar ôl ymosodiad gan yr Eidalwyr, gyda Alessandro Del Piero ac Andrea Pirlo yn llywio'r chwarae.

"Chi'n gwybod yn erbyn timau sydd gyda chwaraewyr o Juventus, Barcelona a Real Madrid, os chi am gael canlyniad mae'n rhaid cael 'chydig bach o lwc. Weithiau chi'n gwybod bod chi right up against it felly mae rhaid cael bach o lwc. Mae'n rhaid cael bach o lwc mewn bywyd, heb sôn am chwaraeon.

"Roedden ni'n prowd iawn i ddal 'mlaen yn y diwedd, ac o'n i mor hapus dros Mark Hughes hefyd achos roedden ni gyd yn hoffi Sparky a'r ffordd odd e wedi adeiladu'r garfan 'ma.

"20 mlynedd yn ôl o'n i'n 27 oed, yn chwarae i Celtic yn y Champions League ac yn gwisgo'r crys rhif 9 i Gymru. Roedd lot ohonyn ni yn ein gore ar y pryd - Gary Speed, Craig Bellamy, Robbie Savage, ac odden ni'n barod am y sialens y noson honno."

del pieroFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Alessandro Del Piero'n dathlu ei gôl o gic rydd gafodd wyriad oddi ar y wal amddiffynol

Oedd yna ddathliadau gwyllt wedi'r gêm?

"Aethon ni 'nôl i westy'r Vale, ac roedd fy rhieni i yno - cafon ni un neu ddau o beints a sôn am y gêm. Roedd rhieni Gary (Speed) yno, a tad Craig Bellamy - dwi'n credu a'th un neu ddau o'r chwaraewyr ifanc allan i Gaerdydd. 'Nes i aros yn gwesty achos o'n i wedi blino yn ofnadwy ac yn llawn briwiau.

"Roedd e bach yn wahanol adeg hynny achos roedd y rheolwyr yn fodlon i chi gael un neu ddau o beints. Pan o'n i'n is-reolwr i Chris Coleman roedd e'n dry camp - dim yfed o gwbl, sydd ddim yn beth gwael, ma'n benderfyniad personol. Ond 20 mlynedd yn ôl doedd e ddim fel'na - jest bo chi ddim yn mynd wyllt a gwneud pethe twp, roedd Mark Hughes yn iawn i gael cwpl o beints ac ymlacio gyda ein teuluoedd ar ôl y gêm."

Siom yr ymgyrch

"Dwi'n meddwl am rai o'r enwau yn nhîm yr Eidal; Buffon, Cannavaro, Nesta, Del Piero, Pirlo - mae rhai o'r enwau 'ma di ennill y Champions Legaue tair neu bedair gwaith. 'Nathon ni ennill gêm enfawr o flaen 72,500 o gefnogwyr, a dwi'n cofio bod John Charles yno, Bryn Terfel, a'r Manics Street Preachers yn chwarae ar y noson."

john charlesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd John Charles yn y stadiwm i weld y fuddugoliaeth; cawr yn hanes pêl-droed yng Nghymru ac yn Yr Eidal

"Dwi'n meddwl am y tîm Cymru y noson 'na - roedd e'n ffantasig, yr agwedd ar ysbryd yn arbennig yn y grŵp 'na, a dylse ni wedi gwneud yn well. Ni gyd yn flin ac chi methu troi'r cloc yn ôl, ond dyle ni wedi gwneud yn well a chyrraedd Euro 2004 - roedd y chwaraewyr gyda ni i wneud hynny."

Ym Medi 2003 roedd Cymru'n teithio i Milan i wynebu'r Eidal am yr ail waith yn yr ymgyrch. Roedd yr Eidalwyr eisiau dial yn erbyn y Cymry, ac fe wnaethant hynny gan ennill 4-0. Yn ystod y gêm roedd adeg pan aeth John Hartson dalcen wrth dalcen gyda'r golwr Gianluigi Buffon. Mae'r llun o'r ddau gyda'i gilydd yn un trawiadol.

"Roedd e'n pigo ar Craig Bellamy felly o'dd rhaid i fi ddweud wrtho fe 'piga ar rywun yr un maint a ti' - o'n i methu gadael iddo fe bigo ar little Craig!" meddai John.

wales italyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gianluigi Buffon a John Hartson yn cael trafodaeth ym Milan

Siomedigaeth oedd i ddiwedd yr ymgyrch i gyrraedd Euro 2004 gan i Gymru golli i Rwsia 1-0 dros ddau gymal yn y gemau ail-gyfle.

Ond er gwaetha'r siom a'r ymdeimlad y dylai'r garfan yma wedi gwneud yn well, mae'r fuddugoliaeth yn erbyn yr Eidal yn 2002 yn parhau i fod yn un o uchafbwyntiau hanes pêl-droed Cymru.

Hefyd o ddiddordeb: