Llety dros dro: 'Ro'n i'n byw mewn gwesty am bedwar mis'
- Cyhoeddwyd
Mae'r argyfwng prinder tai yng Nghymru yn golygu bod miloedd yn cael eu rhoi mewn llety dros dro gan awdurdodau lleol, sy'n cynnwys gwestai heb le i goginio na golchi dillad.
Yn ôl un ddynes o Wynedd wnaeth gofrestru'n ddigartref, fe dreuliodd gyfnod o bedwar mis mewn gwesty yn y sir gyda'i babi newydd-anedig oherwydd nad oedd tŷ cymdeithasol ar gael.
Mae ymchwil gan BBC Cymru yn dangos y bu cynnydd o bron i 5,000 yn nifer y bobl sy'n cael eu rhoi mewn llety dros dro gan awdurdodau lleol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae cynghorau'n disgrifio'r ffigyrau fel her aruthrol, ac elusen Shelter Cymru yn disgrifio'r sefyllfa fel pryder enfawr.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod "wedi ymrwymo i ddileu digartrefedd", a'i bod yn cydnabod yr angen i symud pobl yn gynt o lety dros dro.
Mae llety dros dro yn cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol i unigolion sy'n cyflwyno eu hunain yn ddigartref pan nad oes opsiwn arall.
Mae BBC Cymru wedi clywed profiad un ddynes o Wynedd sy'n dweud iddi gael ei chartrefu mewn gwesty yng Ngwynedd heb le i goginio bwyd i'w babi am gyfnod o bedwar mis wrth aros am dŷ.
Mae Ceri bellach wedi cael ei symud o'r gwesty i dŷ dros dro newydd mewn ardal wledig o'r sir, sydd 20 milltir o lle mae ei theulu a'i ffrindiau'n byw.
'Dim ffordd o goginio bwyd'
Doedd Ceri ddim yn dymuno cael ei hadnabod, felly rydym yn defnyddio ei henw cyntaf yn unig.
Mae hi'n dal i aros am ei chartref cymdeithasol parhaol ond, yn dweud nad ydy hi'n ffyddiog y bydd hynny'n digwydd yn fuan.
"Dwi just eisiau tŷ mewn ardal lle dwi wedi dewis, lle alla i neidio ar y bỳs am 10 munud i weld ffrindiau, teulu a rhywle alla i alw'n gartref," meddai.
Fe gofrestrodd Ceri yn ddigartref 'nôl ym mis Ionawr yn fuan ar ôl cael babi.
Heb unman arall i fynd fe ddarparodd Cyngor Gwynedd lety dros dro iddi mewn gwesty, ond roedd hi'n dal yno bedwar mis yn ddiweddarach.
"Oeddan ni yn y broses o weanio, ond doedd dim ffordd o goginio bwyd - oll oedd yna oedd tegell yn yr ystafell," meddai Ceri.
"Roedd yn rhaid mynd allan i fwyta am dri phryd y diwrnod a hynny'n costio - teithio i dai teulu a ffrindiau i gwcio te i'r babi... ac yna trafferth ei setlo hefyd. Oedd o just yn really, really anodd."
Yn ôl Ceri, roedd rhai sefyllfaoedd hefyd wedi codi lle doedd neb wedi archebu'r ystafell ar eu cyfer, gan olygu bod yn rhaid symud i westy arall 25 milltir i ffwrdd am gyfnodau byr.
"Doeddan ni methu golchi dillad yna. Mi oedd o'n straen financial massive," meddai.
Mae Ceri bellach wedi ei symud i dŷ dros dro mewn rhan wledig o'r sir, ac er yn ddiolchgar o hynny mae hi'n dweud bod yr ansefydlogrwydd yn parhau i wneud bywyd yn anodd.
"Dwi really eisiau mynd 'nôl mewn i gwaith ond dwi'm isio commitio i gal job rownd fan'ma oherwydd fe alla i gael phonecall 'fory i ddweud bod 'na dŷ i mi mewn ardal lle dwi 'di dewis, ac mae'r ardal yna yn bell o lle dwi rŵan."
Tra nad ydy Ceri yn gweld bai ar yr awdurdod lleol, gan gydnabod y pwysau sy'n eu hwynebu, mae'n ymddangos fod ei phrofiad yn un sy'n cynyddu ar draws Cymru.
Ym mis Awst 2020 roedd 3,577 o bobl ar draws Cymru yn byw mewn llety dros dro.
Erbyn Awst eleni fe neidiodd y nifer yna i 8,545, gyda 2,515 o'r rheiny'n blant.
Yng Ngwynedd mae 247 o bobl yn byw mewn sefyllfa debyg i Ceri, ac yn ôl yr aelod cabinet dros dai, Craig ab Iago, mae 'na bryder y bydd y sefyllfa'n gwaethygu oherwydd yr argyfwng costau byw, diffyg tai a sefyllfa "fregus ffoaduriaid Wcráin".
"Dydy hyn ddim yn iawn - mae'n anfoesol. Ni 'di'r chweched wlad gyfoethocaf yn y byd," meddai.
"Da' ni'n sôn am wario £6m y flwyddyn yn cartrefu pobl dros dro mewn gwely a brecwast. Ma'n anfoesol - dyma fywydau pobl."
Awdurdodau lleol sy'n ysgwyddo'r cyfrifoldeb i gartrefu'r digartref, ac mae'r Cynghorydd ap Iago yn dweud fod pwysau ariannol yn golygu bod cynghorau ar draws Cymru yn wynebu heriau cyllidebol enfawr, a bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru arwain y ffordd wrth adeiladu mwy o dai.
Wrth ymateb i sefyllfa Ceri dywedodd y Cynghorydd ab Iago fod ei stori yn "dorcalonnus".
Yn ôl cadeirydd pwyllgor trawsbleidiol llywodraeth leol a thai yn y Senedd, mae'r sefyllfa tu hwnt i argyfwng.
"Mae'n rhaid i ni weld buddsoddiad sydyn a sylweddol," meddai Mabon ap Gwynfor AS.
"Mae'r term argyfwng yn cael ei ddefnyddio'n aml iawn, mor aml dwi ddim yn meddwl fod o'n cyfiawnhau y sefyllfa.
"Mae o tu hwnt i argyfyngus, ac mae awdurdodau lleol yn tynnu gwallt eu pennau ddim yn gwybod beth i'w wneud bellach.
"Mae'n rhaid canfod datrysiad sydyn neu bydd niferoedd y bobl sy'n ddigartref yn cynyddu'n sylweddol."
Tra bod elusen Shelter Cymru yn cydnabod yr heriau o brinder tai, maen nhw'n dweud fod y cynnydd mewn niferoedd yn bryder enfawr.
"Mae 'na gymaint yn byw mewn llety dros dro am gyfnod hirach - rhai am dros flwyddyn - ac erbyn hyn maen nhw dan ei sang," medd Heddyr Gregory o'r elusen.
"Mae prinder dybryd o lety dros dro erbyn hyn ac mae'r bobl yn gaeth gan fod nunlle iddyn nhw symud ymlaen."
Ychwanegodd bod dros 2,000 o blant bellach yn byw mewn llety dros dro, a bod hynny hefyd yn cael effaith andwyol ar addysg ac iechyd meddwl.
'Cydnabod yr angen i symud pobl yn gynt'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni wedi ymrwymo i ddileu digartrefedd a sicrhau fod unrhyw achosion yn brin, yn fyr ac nad yw'n digwydd eto.
"Ry'n ni'n gwneud hyn trwy sicrhau fod pobl yn cael eu cefnogi i gartref addas a sefydlog, ac eleni ry'n ni wedi rhoi £10m yn ychwanegol i awdurdodau lleol er mwyn helpu gyda'r costau o ddarparu llety dros dro.
"Mae hyn yn rhan o'r £197m ry'n ni'n buddsoddi yn ein gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai.
"Gan gydnabod yr angen i symud pobl yn gynt o lety dros dro, ry'n ni hefyd wedi darparu £65m yn ychwanegol ar gyfer Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro, sydd ar ben y £300m ry'n ni'n buddsoddi mewn tai cymdeithasol y flwyddyn ariannol yma - y ffigwr uchaf erioed."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2022