Targed i adeiladu 20,000 o dai cymdeithasol yn y fantol

  • Cyhoeddwyd
Tai ar werth
Disgrifiad o’r llun,

Mae pris cyfartalog tŷ yng Nghymru wedi codi i dros £245,000 am y tro cyntaf

Mae targed i adeiladu 20,000 o dai cymdeithasol yn y fantol oherwydd cyflwr yr economi, yn ôl gweinidog tai Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Julie James fod yr argyfwng costau byw - y mae hi'n ei feio ar y Ceidwadwyr - a phroblemau yn y diwydiant adeiladu yn cyfrannu at "storm berffaith o drallod".

Ond dywedodd llefarydd tai'r Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders wrthi: "Eich llanast chi yw hyn."

Roedd maniffesto Llafur yn addo adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel fyddai'n cael eu gosod gan gynghorau a chymdeithasau tai.

Dywedodd Mrs Finch-Saunders fod landlordiaid cymdeithasol yn ofni gorfod gwneud toriadau os na allant godi eu rhent yn unol â chwyddiant.

Byddai hynny'n cael effaith fawr ar eu gallu i adeiladu cartrefi, gan adael targed Llafur yn y fantol, meddai.

'Penderfyniad anodd iawn'

Dywedodd Mrs Finch-Saunders fod landlordiaid cymdeithasol yn ofni gorfod gwneud toriadau os na allant godi eu rhent yn unol â chwyddiant.

Byddai hynny'n cael effaith fawr ar eu gallu i adeiladu cartrefi, gan adael targed Llafur yn y fantol, meddai.

Dywedodd Ms James ei bod yn wynebu "penderfyniad anodd iawn" ynghylch a ddylid rhoi cap ar renti tai cymdeithasol.

Roedd landlordiaid cymdeithasol angen yr incwm o rent i gwrdd â'r "galw cynyddol a achosir gan y nifer o bobl nad oedd yn gallu cadw to uwch eu pen oherwydd yr argyfwng costau byw", meddai.

Yn y cyfamser, mae'r diwydiant adeiladu yn wynebu problemau cadwyn gyflenwi byd-eang a phrinder staff.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Mae ein gallu i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel yn y fantol," ychwanegodd y gweinidog.

"Rydyn ni bron yn sicr yn wynebu'r toriadau gwaethaf rydyn ni erioed wedi'u gweld ar draws gwasanaethau cyhoeddus."

Ond dywedodd Ms Finch-Saunders: "Peidiwch ag edrych at Lywodraeth y DU i'w beio. Eich llanast chi yw hyn."

Yn ddiweddarach, dywedodd Ms James fod chwyddiant cynyddol wedi cynyddu costau.

"Felly mae'r arian rydyn ni wedi'i roi o'r neilltu, er ei fod ar lefelau uchaf erioed, yn cael ei erydu wrth gwrs gan chwyddiant sydd wedi mynd yn ffigurau dwbl," meddai.