Angen 'camau chwyldroadol' i gael gweithlu dwyieithog

  • Cyhoeddwyd
Staff iechydFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ol yr adroddiad dim ond 23% o hysbysebion ar gyfer y sector iechyd sy'n cael eu darparu yn y Gymraeg

Mae Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg wedi galw am "gymryd camau chwyldroadol" er mwyn recriwtio gweithlu gwirioneddol ddwyieithog yng Nghymru.

Yn adroddiad blynyddol y comisiynydd, dywed mai "darlun cymysg" sydd o safbwynt y ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg o hyd.

Dywed yr adroddiad fod nifer o gyrff wedi addasu'n llwyddiannus er mwyn cydymffurfio â dyletswyddau iaith wedi'r pandemig, ond fod eraill - yn enwedig yn y sector iechyd - heb "gymryd camau i'r cyfeiriad cywir".

Yn ôl swyddfa'r comisiynydd mae iechyd yn "perfformio'n sylweddol waeth na sectorau eraill" o ran y Gymraeg.

Diffyg Cymraeg mewn hysbysebion swyddi

Mae adroddiad blynyddol y comisiynydd yn asesu'r ffordd mae sefydliadau yn meddwl am y Gymraeg wrth lunio polisïau a chynllunio a darparu gwasanaethau.

Yn ôl Gwenith Price, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, dangoswyd tipyn o oddefgarwch yn ystod y pandemig ond mae angen i'r sefyllfa newid.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Gwenith Price fod "angen cymryd camau chwyldroadol" er mwyn datblygu gweithlu sy'n medru'r Gymraeg

Dywed yr adroddiad fod maes recriwtio yn enwedig yn peri pryder.

Yn ôl yr ymchwil mae "diffyg sylweddol wedi ei nodi mewn prosesau hysbysebu swyddi yn Gymraeg a recriwtio gweithlu dwyieithog".

Mae'n nodi fod y Gymraeg wedi ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg mewn 50% o hysbysebion swyddi, ac mai dim ond 23% o hysbysebion ar gyfer y sector iechyd sy'n cael eu darparu yn y Gymraeg.

Sector iechyd yn 'sylweddol waeth'

"Does dim dwywaith fod cyrff wedi wynebu heriau sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae hynny'n wir yn enwedig yn y sector iechyd," meddai Ms Price.

"Ond mae angen i'r sector hwn yn benodol ystyried sut mae am gwrdd â gofynion y safonau gan fod ein canfyddiadau yn dangos ei fod yn perfformio'n sylweddol waeth na sectorau eraill.

"Mae'n angenrheidiol, os yw'r sefyllfa am wella, bod cydymffurfio gyda safonau'r Gymraeg yn cael lle blaenllaw yn y strategaeth ail godi."

Ffynhonnell y llun, Comisiynydd y Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o brif ganfyddiadau adroddiad Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2021-22

Ymysg y pwyntiau positif yn yr adroddiad mae'r canfyddiad fod 32% o'r siaradwyr Cymraeg a holwyd ar gyfer yr adroddiad yn dweud bod y cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd wedi cynyddu.

Mae 84% o wefannau sefydliadau bellach ar gael yn y Gymraeg, ac mae cynnydd wedi bod yng ngallu sefydliadau i ddarparu gwasanaeth Cymraeg ar gyfryngau cymdeithasol.

Ond mae 10% o'r rheiny a holwyd yn dewis peidio defnyddio'r Gymraeg oherwydd diffyg argaeledd gwasanaethau.

'Siom'

Ychwanegodd y dirprwy gomisiynydd: "Gosododd y Comisiynydd her rai blynyddoedd yn ôl i sefydliadau i wella perfformiad wrth recriwtio gweithlu dwyieithog. Mae'n siom gweld nad yw hynny wedi digwydd.

"Os am ddenu a datblygu gweithlu sy'n medru'r Gymraeg rwyf o'r farn fod angen cymryd camau chwyldroadol.

"Nid rhywbeth negyddol yw safonau iaith - maent yno i ddangos parch tuag at ddewis iaith ac i alluogi siaradwyr ym mhob man i allu byw eu bywydau yn y Gymraeg.

"Mae gan sefydliadau cyhoeddus Cymru rôl flaenllaw i'w chwarae wrth sicrhau fod y Gymraeg yn ffynnu, ac mae'r ffordd y maent yn cydymffurfio gyda dyletswyddau iaith yn allweddol bwysig."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Efa Gruffudd Jones yn dechrau yn ei swydd fel y comisiynydd newydd fis Ionawr

Yr wythnos ddiwethaf cafodd Efa Gruffudd Jones ei phenodi fel Comisiynydd y Gymraeg newydd, gan olynu'r diweddar Aled Roberts.

Bydd yn dechrau ar ei swydd ym mis Ionawr 2023.