'Sir Fynwy wedi mynd am yn ôl' ar bolisi enwi strydoedd

  • Cyhoeddwyd
Cymraeg

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi penderfynu fod Cyngor Sir Fynwy wedi methu â chydymffurfio â Safonau'r Iaith Gymraeg wrth newid eu polisi ar enwi strydoedd.

Dywedodd swyddfa'r Comisiynydd eu bod wedi derbyn cwynion gan aelodau'r cyhoedd am benderfyniad y cyngor i gefnu ar bolisi oedd yn gweld arwyddion stryd yn cael eu cyfieithu wrth osod rhai newydd.

Yn ôl safonau'r Gymraeg, roedd angen i'r cyngor ystyried pa effeithiau fyddai'r penderfyniad yn ei gael ar y cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg, ac i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Ond dywedodd Comisiynydd y Gymraeg nad oedden nhw wedi ystyried hynny.

Mewn datganiad i Cymru Fyw, dywedodd Cyngor Sir Fynwy eu bod yn derbyn y canfyddiadau a'u bod yn "parhau i ymrwymo i sicrhau bod yr holl enwau strydoedd newydd yn rhai Cymraeg yn unig neu'n gwbl ddwyieithog".

Beth sydd wedi newid?

Ym mholisi gwreiddiol y cyngor roedd enwau uniaith Saesneg ar arwyddion ffordd yn cael eu cyfieithu i'r Gymraeg os oedd angen arwydd newydd neu adnewyddu'r arwydd.

Doedd y cyfieithiad hwnnw ddim yn cael ei wneud yn enw swyddogol ar y stryd, gan fod y cyngor yn nodi y byddai hynny'n "weithdrefn lafurus a chostus iawn".

Fe benderfynon nhw wedyn i ddiwygio'r polisi, a chael gwared ar yr arfer o gyfieithu arwyddion stryd gan fod cael cyfieithiadau Cymraeg "answyddogol" ar arwyddion yn achosi risg i ddiogelwch y cyhoedd gan na fyddai'r enwau yma wedi eu cofrestru gyda'r gwasanaethau brys.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gwenith Price na ddylai cynghorau "gymryd penderfyniadau i wneud llai er lles y Gymraeg"

Yn sgil cwynion gan y cyhoedd am y newid polisi, fe wnaeth swyddfa'r Comisiynydd gynnal ymchwiliad.

Penderfynodd y Comisiynydd nad oes tystiolaeth fod Cyngor Sir Fynwy wedi "gwneud ymdrech gydwybodol i adnabod ac yna ystyried yr effeithiau y byddai ei benderfyniad... yn ei gael ar gyfleoedd i bersonau ddefnyddio'r Gymraeg, ac ar beidio ȃ thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg".

Mae'r Comisiynydd wedi gosod 15 o gamau gorfodi ar y cyngor er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r safonau wrth lunio neu addasu polisi yn y dyfodol.

Enwau Cymraeg ar strydoedd newydd

Dywedodd y cyngor wrth swyddfa'r Comisiynydd eu bod yn diwygio'r polisi i gydymffurfio gyda Chod Ymarfer, sy'n rhoi cyngor ymarferol i sefydliadau ar sut i weithredu'r safonau.

Ond yn ôl Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Gwenith Price, mae hyn yn "anghywir" ac yn mynd yn erbyn ysbryd Mesur y Gymraeg a rôl Comisiynydd y Gymraeg.

Dywedodd Cyngor Sir Fynwy hefyd wrth y Comisiynydd eu bod wedi dewis canolbwyntio ar sicrhau bod enw pob stryd newydd yn uniaith Gymraeg neu'n ddwyieithog.

Dywedodd Ms Price: "Prif nod y Comisiynydd yw i hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg.

"Ni ddylai sefydliadau gymryd penderfyniadau i wneud llai er lles y Gymraeg nag yr oeddent yn ei wneud yn flaenorol, nac i wneud y lleiafswm ble roedd camau mwy blaengar o ran y Gymraeg yn cael eu gwneud yn barod.

"Mae'r awgrym... fod y polisi wedi ei ddiwygio er mwyn 'cydymffurfio' gyda'r Cod Ymarfer yn anghywir, ac mae'n mynd yn erbyn ysbryd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a rôl Comisiynydd y Gymraeg."

'Syrthio'n brin o'r safonau'

Dywedodd y cyngor: "Mae'r Gymraeg yn rhan bwysig o ddiwylliant a threftadaeth ein sir ac mae'r Cyngor Sir wedi ymrwymo i sicrhau bod Sir Fynwy yn chwarae ei rhan ac yn cael effaith gadarnhaol tuag at gyflawni strategaeth uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Yn ôl adroddiad y Comisiynydd, roeddem wedi syrthio'n brin o'r safonau sy'n ymwneud â llunio polisïau yn achos ein polisi enwi strydoedd.

"Rydym wedi derbyn canfyddiadau'r adroddiad ac yn gweithio i sicrhau y cydymffurfir yn llawn â'r safonau hyn yn y dyfodol.

"Rydym yn parhau i ymrwymo i sicrhau bod yr holl enwau strydoedd newydd yn rhai Cymraeg yn unig neu'n gwbl ddwyieithog."