S4C yn 40: Y gorau a'r gwaethaf
- Cyhoeddwyd
Mae'n ben-blwydd S4C yn 40 oed ar Dachwedd 1. Superted oedd y rhaglen gyntaf i gael ei darlledu ar y sianel nôl yn 1982. Yng ngeiriau agoriadol y cartŵn chwedlonol, 'Nid tedi cyffredin mohono!' ac nid sianel gyffredin mohoni chwaith.
Yr adolygwr, cyflwynydd a'r comedïwr, Gary Slaymaker, sydd wedi dewis rhaglenni o bob degawd sydd wedi gwneud iddo "chwerthin, llefen a rhegi" ar sianel y brwydrwyd mor chwyrn amdani.
Torri Gwynt: 'Rhaglen orau'r ddegawd gynta'
1982 -1992
Wy'n cofion'n union ble ro'n i, ar noson lansio S4C - yn eistedd yn stafell gyffredin Neuadd Eryri, Coleg Normal Bangor, gyda chriw o gyd-fyfyrwyr Cymraeg, yn barod am oes newydd i ddarlledu Cymraeg.
Byddai'n onest 'da chi; yr unig beth wy'n cofio o'r noson yna oedd Superted, a Robin Jones yn cyflwyno'r rhaglenni o rhyw gwtsh dan stâr yng Ngerddi Soffia. Ond wedyn, nath 80au'r sianel weld cychwyn ar yrfa un o wir "superstars" teledu Cymru, Dai Jones, Llanilar.
Odd e'n enw lled gyfarwydd yn barod, ond erbyn diwedd y ddegawd, pan welon ni'r glasur Dai ar y Piste, odd ei statws wedi mynd o arwrol i chwedlonol. Ond rhaglen orau'r ddegawd gynta, i fi, odd Torri Gwynt. R'odd hi'n esiampl o "deledu rhaid gweld", a hyd heddiw wy dal yn dyfynnu llinellau gan Ei y ffarmwr, Viv a Mansel, a Ricky Hoyw. Heb sôn am y ffaith mai 66 Chemical Gardens sy' dal yn berchen ar deitl "opera sebon orau S4C".
Bron i ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, ma Dewi Pws dal yn arwr i fi, ond well fyth; erbyn hyn mae e hefyd yn ffrind. Ffrind sy'n ffonio ar yr adegau mwya rhyfedd i bardduo'n enw i; ond oleia mae e yn galw. Diolch Dew.
'Degawd y cwis oedd y 90au i fi'
1992 - 2002
Degawd y cwis odd y 90au, i fi. acpot (JACPOT!! Sori. Ffili help), a'r unigryw Bacha Hi O 'Ma - fel fersiwn fwy creulon o Blind Date. Wel oedd wastod un pwr dab yn cael ei adel ar ben ei hun, ar ôl methu glanio partner. Fues i'n sgrifennu rhai o'r cwestiynau fwy 'awgrymog' i Bacha Hi O 'Ma dros y blynyddoedd, felly ma gyda fi gariad mawr tuag at hon...a r'odd yn rheolwr banc yn teimlo'r un fath.
Y 90au hefyd welodd C'mon Midffild ar ei orau. Wy dal yn barnu mai hon yw'r rhaglen gomedi sefyllfa orau i'r sianel ei darlledu, a wy'n amau os welwn ni ei thebyg byth eto.
Fel dilynwr brŵd y gêm brydferth, r'odd yr adeg yma'n un arbennig iawn os o chi'n gwylio Sgorio ar nos Lun. Bydde'r rhaglen yn dangos uchafbywntiau gemau La Liga, Serie A a'r Bundesliga.
Cyfle i weld rhai o bêl droedwyr gorau'r byd ar yr adeg, cyn i uwch gyngrhair Lloegr lyncu'r talent yn llwyr. Un arall o bleserau'r 90au odd cael bod yn rhan o gampwaith Nadoligaidd y Brodyr Williams, Grito'r Hewl i Fethlehem. Ag eithrio It's a Wonderful Life, hon yw'r cynhyrchiad Nadolig orau yn hanes yr 20fed ganrif.
Ond yn ffefryn i o'r adeg yma oedd Shotolau - saethu colomennod clai gyda thimoedd o arbenigwyr a selebs yn cystadlu. Wy'n cofio'r prifardd Gerallt Lloyd Owen a'r gyflwynwraig Elinor Jones yn saethu bron popeth oedd yn hedfan o'u blaenau nhw. Fydde nhw wedi codi cywilydd a'r snipers o'r SAS. Nes i drio perswado un o fois S4C, nath greu'r sioe, i adel i fi gystadlu. Odd e'n hapus i fi gymryd rhan, ond yn llai parod i gytuno i'n nymuniad o ddefnyddio pump action shotgun.
'Tipit Ffy*it'
2002 - 2012
Dachre'r ganrif newydd, a roedd hi'n dechre mynd yn anoddach i ffindo rhaglenni o werth ar ein sianel gartrefol. Wrth gwrs, odd gyda chi Slaymaker (campwaith, yn amlwg), fel rhan o drindod sanctaidd ar nosweithi Iau. Pam Fi Duw, fi, ac I Dot i ddilyn. Odd honna'n gracyr o noson, whare teg.
Ma' da fi dipyn o hoffter tuag at y gyfres ddrama, Y Pris; oedd yn cael ei disgrigio fel Y Sopranos yng ngorllewin Cymru. Roedd hyd yn oed arwyddgan y gyfres wedi ei chyfansoddi a'i pherfformio gan Rob Love o'r Alabama 3 - yr un boi nath Woke Up This Morning, arwyddgan Y Sopranos.
Ac wrth gwrs pwy all anghofio, Tipit? Duw a wyr, wy 'di trial anghofio, ond mae dal yn nghefn ym mhen fel rhyw fath o "Vietnam flashback" cyfryngol. Warion nhw filiwn o bunoedd ar y set, ar gyfer gêm le i chi'n dyfalu pwy sy'n cwato rhywbeth yn ei law. Grêt i whare, amhosib i wylio.
Wy'n cofio mynd i rhyw bash mawr yng nghanol Caerdydd, ar yr adeg. R'odd y lle'n llawn cyfryngis, gwleidyddion, a mawrion y genedl. Gerddes i mewn yn gwisgo jîns, siaced, a chrys-T gyda'r geiriau, "Tipit Ffy*it" arni. Gês i ddim lot o groeso gan bods S4C y nosweth hynny. Yn 2005, fe ddaeth Iona Jones yn benaeth ar y sianel, a fel nifer o ffrindiau, golles i ngwaith, ac unrhyw ysfa i gefnogi S4C.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Odd hi ddim yn ddechre addawol i'r 2010au. Fferm Ffactor, fforffy**ecs. Weda'i ddim mwy. Ond fe wellodd pethe wedyn wrth i ni gael ein fersiwn ni o ddrama Scandi-Noir, Y Gwyll. Dechreuodd hi'n addawol iawn, ond erbyn y drydded gyfres, odd na fwy o pace yn perthyn i falwoden ar valium.
Ond, o ran dramâu ditectif, roedd Bang yn ardderchog. Roedd hi'n teimlo'n ffres; yn gwbwl ddwyieithog Gymreig ei natur, ac yn cynnig stori dda, a digon o dyndra. Wy'n fawr obeithio fydd na drydedd gyfres rhyw ddydd.
'Sŵn godidog Malcolm Allen yn sgrechen fel nytar'
2012 - 2022
Ond se ni'n dewis un peth i ddathlu'r ddegawd arbennig yma, antur fawr Cymru yn ystod gemau'r Ewros 2016 sy'n mynd i aros yn y cof am flynyddoedd i ddod. Roedd hi'n achlysur arbennig; roedd gyda ni dîm arbennig, a fe ddaeth cenedl gyfan at ei gilydd i ryfeddu, i floeddio, i lefen, ac i ymfalchio yn ein bodolaeth. Wy erioed wedi bod mor hapus fy myd.
A mae sŵn godidog Malcolm Allen yn sgrechen fel nytar pan nath Sam Vokes sgorio'r drydedd gôl yn erbyn Gwlad Belg, ar lŵp cyson yn fy mhen i ers y noson hynny.
Ddwy flynedd i mewn i'r ddegawd yma, a mae eto rheswm dros wylio'r sianel. Mwy o gemau pwysig i dîm pêl-droed Cymru, fydd yn goffen gyda'n ymddangosiad cynta yng Nghwpan y Byd ers 1958 - 'wy ffili aros, bois bach.
Bwyd Epic Chris: 'Ma' hon yn 'next level''!
2022 +
Ac ar ben hynny, ma Sgwrs Dan y Lloer gyda Elin Fflur wedi bod yn eli i'r enaid; a gymaint o westeion difyr. Roedd y bennod gyda Kristoffer Hughes yn wirioneddol ardderchog.
Ac er bod hi bellach wedi ei chanslo, odd y gyfres ddiwetha o Oci Oci Oci yn hilariws. Fel nes i ei disgrfio hi i ffrind, "Dychmyga Bullseye, ond bod y cystadleuwyr i gyd yn feddw gocls".
Ac o ystyried gymaint o gogyddion sydd ar y sgrin fach dyddie hyn, ma' Bwyd Epic Chris wedi bod yn chwa o awyr iach; ac ar ôl trio rhai o'i ryseitau fe, ma'r boi yn athrylith. Fel ma'r dyn ei hun yn gweud, "ma' hon yn next level".
Ma unrhyw sianel sy'n dathlu nifer o flynyddoedd o ddarlledu (Pen-blwydd hapus BBC, gyda llaw) yn mynd i gynnig cymysgedd o'r da, y drwg, a'r îha Sheelagh yn ei hamser.
Wy 'di gweld uchafbwyntiau ac isafbwyntiau S4C dros ddeugain mlynedd, ond wy'n falch bod hi dal gyda ni, wrth gwrs. Wy wedi chwerthin, wedi llefen, wedi rhegi, ac wedi cael gwaith gan ein sianel gartrefol.
Felly diolch S4C, a phen-blwydd hapus. Gyda llaw, 'wy dal yn "available" i weithio, ac yn gymharol rhad i gyflogi.
Hefyd o ddiddordeb: