Cyfaill Cymreig Guto Ffowc
- Cyhoeddwyd
Cofiwch, cofiwch... Ydy, mae pawb yn cofio am Guto Ffowc a'i gynllwyn i ladd Brenin Iago I drwy ffrwydro Tŷ'r Arglwyddi ym mis Tachwedd 1605.
Ond roedd mwy o enwau yn rhan o Gynllwyn y Powdr Gwn na dim ond 'rhen Guto, ac roedd un ohonyn nhw yn Gymro...
Roedd Huw Owen o Blas Du, Eifionydd yn wreiddiol. Roedd yn Babydd pybyr, ac yn teimlo'n gryf o blaid adfer natur Gatholig Prydain, oedd wedi cael ei golli o dan arweinyddiaeth Elisabeth I.
Bu'n rhan fawr o Gynllwyn Ridolfi yn 1571 i lofruddio'r frenhines, a rhoi Mari I ar yr orsedd yn ei lle. Fodd bynnag, methiant fu'r cynllwyn, a thra bod rhai o'i gyd-gynllwynwyr wedi cael eu cosbi a'u dienyddio, llwyddodd Huw i ffoi i Sbaen ac yna i Frwsel.
Treuliodd ei fywyd yn alltud yn Ewrop yn gweithio ag alltudion Catholig eraill, yn ysbïwr dylanwadol i frenin Sbaen, ac hefyd yn swyddog ar faterion Lloegr i Lywodraeth yr Iseldiroedd.
Nid Cynllwyn Ridolfi oedd yr unig gynllwyn i geisio cael gwared ar Elisabeth I, ac roedd Huw wrth galon pob un ohonyn nhw, o ddiogelwch ei gartref dros y dŵr.
'Â'i fys ym mhob brad'
Daeth Iago I i'r orsedd yn 1603, ac aeth pobl ati o ddifrif i gynllwynio sut i gael gwared arno. Roedd Huw Owen ynghanol y cwbl ac yn rhan hanfodol o'r cynlluniau. Ef a gyflwynodd Guto Ffowc i weddill y criw - mae sôn fod Ffowc wedi bod yn was iddo yn ystod ei gyfnod ym Mrwsel.
Wrth gwrs, methiant fu'r cynllwyn, pan gafodd yr awdurdodau eu rhybuddio amdano ychydig ddyddiau ymlaen llaw. Cafodd nifer o'r cynllwynwyr eu dal a'u rhoi o flaen eu gwell, ond roedd Huw Owen yn ddiogel ar y cyfandir.
Cafodd ei enwi yn yr achos llys, a'i ddisgrifio fel 'y dyn oedd â'i fys ym mhob brad yn ystod y blynyddoedd diwethaf'. Roedd Llywodraeth Prydain yn benderfynol o gael gafael ar y bradwr. Ers 1574 bu'r awdurdodau yn ceisio perswadio llywodraethau tramor i'w anfon yn ôl, ond roedd y ceisiadau'n cael eu gwrthod bob tro.
Bu farw Huw Owen yn y Coleg Seisnig yn Rhufain ar 30 Mai 1618. Llwyddodd y Cymro cynllwyngar, oedd wedi bod yn rhan o gymaint o gynlluniau dros y blynyddoedd, i lithro drwy'r rhwyd unwaith ac am byth.
Cafodd yr erthygl yma ei chyhoeddi'n wreiddiol ym mis Tachwedd 2017
Hefyd o ddiddordeb: