Hanner Tymor Tomos Bwlch

  • Cyhoeddwyd
Tomos Lewis neu 'Tomos Bwlch' o DdihewydFfynhonnell y llun, Tomos Bwlch
Disgrifiad o’r llun,

Tomos Lewis neu 'Tomos Bwlch' o Ddihewyd

Mae hi'n wythnos hanner tymor i blant Cymru ond sut maen nhw'n cadw'n brysur?

Cymru Fyw aeth i fusnesu ar sut hanner tymor mae Tomos Lewis o Ddihewyd neu 'Tomos Bwlch' yn ei gael.

Mae Tomos sy'n byw ar fferm yng Ngheredigion yn llais adnabyddus ar raglen Ifan Jones Evans ar Radio Cymru ac mae ei sgyrsiau doniol a gonest yn codi gwên dros Gymru gyfan.

Helo Tomos Bwlch sy' 'ma i siarad am fy hanner tymor. Mae amrywiaeth o waith i'w wneud dros yr wythnos gyda'r tywydd yn gwaethygu bob dydd.

Ffynhonnell y llun, Tomos Bwlch
Disgrifiad o’r llun,

Dewis ŵyn i fynd i'r mart

Rwyf wedi bod yn mart Llanybydder i weld shwt beth oedd prisiau defaid. Hefyd i fart Tregaron gyda fy wncwl i weld prisiau da i'w prynu.

Ffynhonnell y llun, Tomos Bwlch
Disgrifiad o’r llun,

Tomos ym meudy'r gwartheg

Mae'r rhan fwyaf o wartheg wedi dod mewn am y gaeaf nawr bod y tywydd yn gwaethygu.

Ffynhonnell y llun, Tomos Bwlch
Disgrifiad o’r llun,

Gwneud yn siŵr bod y gwartheg yn cadw'n gynnes ac yn gysurus

Dwi hefyd yn dishgwl 'mlaen i fynd i Legoland gyda'r teulu am benwythnos...

Ffynhonnell y llun, Tomos Bwlch
Disgrifiad o’r llun,

Edrych ymlaen at Legoland ac yn gobeithio na fydd neb yn 'whythu casget'!

A wedi gwneud yn siŵr bod fy ngwaith cartre' wedi 'neud. Felly, dyna fy wythnos!

Ffynhonnell y llun, Tomos Bwlch
Disgrifiad o’r llun,

Gwaith cartref wedi ei gwblhau

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig