Angen 'gwelliannau sylweddol' i uned famolaeth ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwelliannau "sylweddol a pharhaus" i wasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful, yn ôl adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.
Yr "adolygiad manwl" i wasanaethau newydd-anedig yr ysbyty yw'r diweddaraf mewn cyfres o ymchwiliadau i bryderon am ofal mamau a babanod yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.
Mae'r adroddiad yn gwneud 43 o argymhellion, sydd wedi cael eu derbyn gan y bwrdd iechyd.
Dywedodd y bwrdd ei fod "eisoes wedi gwneud gwelliannau i fynd i'r afael â nifer o'r pryderon a godwyd gan y panel".
Fe wnaeth yr adolygiad ganfod fod "amrywiaeth o strwythurau llywodraethu a sicrwydd wedi cael eu sefydlu sy'n cyfrannu at ddiogelwch ac effeithiolrwydd, er nad yw'r rhain yn gweithredu yn y ffordd sydd ei hangen arnynt eto".
Ychwanegodd fod y "ffordd mae digwyddiadau difrifol yn cael eu canfod, eu cofnodi, ymchwilio iddynt a dysgu gwersi yn eu sgil yn esblygu ac yn gwella, er bod angen mwy o drylwyredd a mwy o gysondeb o hyd".
Cafodd nifer o faterion eu cydnabod ym mis Awst fel rhai oedd "angen ymyriadau ar unwaith".
Dywedodd y panel adolygu fod gwaith eisoes yn cael ei wneud i fynd i'r afael â'r pryderon hynny a "bod y gwasanaeth presennol mewn sefyllfa dda i ymateb i'r holl feysydd i'w gwella".
Mae pryderon dros lefelau staffio wedi cael eu lleddfu gyda phenodiad dau ymgynghorydd ychwanegol, a newidiadau o ran trefn staffio nyrsys.
Ymysg y gwelliannau a nodwyd gan yr adroddiad roedd meithrin cysylltiadau gwell â theuluoedd, gwella prosesau llywodraethu'r adran, dysgu'n well o ddigwyddiadau a gweithio'n nes gyda rhannau eraill o'r bwrdd iechyd a'r GIG yn ehangach.
Fe wnaeth y panel asesu gofal clinigol 25 o'r babanod mwyaf sâl gafodd eu trin yn yr uned newyddenedigol yn 2020.
Penderfynwyd mewn dau achos y gallai gofal neu driniaeth wahanol fod wedi arwain at ganlyniad gwahanol.
Mewn 17 o'r achosion cafodd problemau eu nodi "a allai fod wedi gwneud gwahaniaeth i'r canlyniad i'r babi".
'Mae'n wir ddrwg gennym'
Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol nyrsio a bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, Greg Dix eu bod yn "derbyn canfyddiadau'r adroddiad" eu bod "eisoes wedi gwneud gwelliannau i fynd i'r afael â nifer o'r pryderon a godwyd gan y panel".
"Ry'n ni'n ymddiheuro i unrhyw deulu a gafodd eu heffeithio gan unrhyw ofal oedd ddim o'r safon uchel ry'n ni'n anelu amdano," meddai.
"Mae'n wir ddrwg gennym, ac ry'n ni'n parhau i anelu at ddarparu'r gofal gorau posib ar gyfer pawb sy'n defnyddio ein gwasanaethau."
Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan fod yr adroddiad yn "adnodd addysgu" i'r bwrdd iechyd a'r gwasanaeth iechyd yn ehangach.
Fe wnaeth y panel awgrymu i Lywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad o wasanaethau newyddenedigol ledled Cymru.
Dywedodd Ms Morgan y byddai argymhellion y panel ar gyfer Cymru gyfan yn cael eu cynnwys mewn rhaglen fydd yn cefnogi gwasanaethau o'r fath.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd7 Medi 2021
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2021