Gwrthod apêl dedfrydau dau ddyn wnaeth lofruddio doctor

  • Cyhoeddwyd
Dr Gary JenkinsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dr Gary Jenkins yn dad i ddwy ferch ac yn seiciatrydd uchel ei barch

Mae apêl dedfrydau dau ddyn gafodd eu carcharu am oes am lofruddio doctor wedi eu gwrthod.

Cafodd y seiciatrydd Dr Gary Jenkins, 54, anafiadau difrifol mewn ymosodiad homoffobig ym Mharc Bute, Caerdydd ar 20 Gorffennaf 2021.

Bu farw ychydig dros bythefnos yn ddiweddarach.

Cafodd Jason Edwards, 25 a Lee William Strickland, 36 - ynghyd â merch sydd bellach yn 17 oed, Dionne Timms-Williams - eu carcharu am isafswm o 32 o flynyddoedd.

Mae'r llys apêl wedi cadarnau'r dedfrydau. Dywedodd y barnwr bod modd eu "cyfiawnhau" ac nad oedden nhw'n ormodol.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jason Edwards, 25, Lee Strickland, 36, a Dionne Timms-Williams, 17, wedi eu cael yn euog fis Chwefror

Ddydd Mercher, cafodd datganiadau o apêl eu cyflwyno ar ran Edwards a Strickland yn Llys y Goron Caerdydd.

Doedden nhw, na'u cynrychiolwyr, ddim yn bresennol.

Roedd y ddau yn honni bod eu hisafswm o flynyddoedd yn y carchar yn "amlwg yn ormodol".

Roedden nhw'n honni nad oedd digon o sylw wedi eu rhoi i ffactorau fel iechyd meddwl, yn achos Strickland, ynghyd â'r gamdriniaeth wnaeth Edwards ddioddef yn ifanc a'i gyflwr ymddygiad, ADHD.

Gwrthod y ddwy apêl wnaeth Mr Justice Martin Griffiths, Mrs Justice Alison Foster a Mr Justice Timothy "heb oedi".

Dywedodd Mr Griffiths fod y ddau ddyn ag alcohol yn eu system ar adeg y drosedd a bod y ddau wedi eu cael yn euog o fwy nag 20 o droseddau yr un yn y gorffennol.

Ychwanegodd fod y barnwr wnaeth ddedfrydu wedi dod i gasgliad "yn yr achos hwn nad oedd anabledd meddyliol yn cyfateb i leihad mewn bai".

Wrth gloi, dywedodd Mr Griffiths: "Dydyn ni ddim yn oedi wrth ddweud bod y ffactorau difrifol a niferus yn cyfiawnhau'r isafswm tymor."