Tri'n euog o lofruddio seiciatrydd mewn ymosodiad homoffobig
- Cyhoeddwyd
*Fe all cynnwys yr adroddiad yma beri gofid i rai
Mae dau ddyn a merch ifanc wedi eu cael yn euog o lofruddiaeth seiciatrydd mewn parc yng Nghaerdydd.
Dyfarnodd y rheithgor yn Llys y Goron Merthyr Tudful bod Jason Edwards, 25, Lee Strickland, 36, a Dionne Timms-Williams, 17, yn euog o gyhuddiad yr oedd y tri wedi gwadu.
Bu farw Dr Gary Jenkins, 54, yn yr ysbyty dros bythefnos ar ôl i'r tri ymosod arno a'i arteithio am bron i chwarter awr ym Mharc Bute yn oriau mân 20 Gorffennaf y llynedd.
Clywodd yr achos mai "homoffobia a hoffter syml o drais" oedd wedi ysgogi'r tri.
Ond mae'r ieithwedd a gafodd ei ddefnyddio yn y llys wedi codi cwestiynau ehangach hefyd.
'Ie, roedd angen hwnna arna i'
Dyma eiriau i oeri'r gwaed, geiriau gafodd eu hyngan gan ferch a oedd yn 16 oed ar y pryd.
Geiriau gafodd eu recordio gan gamera diogelwch caffi Parc Bute yn oriau mân fis Gorffennaf y llynedd, a geiriau glywodd y rheithgor yn y llys.
Am bron i chwarter awr mae pedwar llais i'w clywed yn gyson ar recordiad y camera. Gweiddi ymosodol a rhegi - ac un llais mewn trallod.
Mewn poen, mae Gary Jenkins yn ymbil: "Gadewch fi fod. Stop." A hynny dro ar ôl tro. Yna mae'n glir ei fod yn griddfan mewn poen.
Nes 'mlaen mae'r seiciatrydd yn galw am help - gan unrhyw un sydd gerllaw.
Mae llais merch i'w glywed yn glir yn gweiddi: "Arian!" Yna, "gwna fe, gwna fe". Yna llais dyn yn gweiddi: "Cicia fe'n ei ben - cicia fe eto."
Droeon mae 'na weiddi sy'n aneglur - dro arall sylwadau homoffobig a rhegi.
Clywodd y llys bod Dr Gary Jenkins yn arbenigwr yn ei faes, dyn oedd yn agored ddeurywiol, a dyn a oedd hefyd yn yfed yn drwm ar adegau a'i fod yn crwydro canol Caerdydd yn chwilio am ryw.
Cafodd Dr Gary Jenkins ei lofruddio mewn ymosodiad homoffobig direswm.
Dim ond oriau ynghynt yr oedd y tri diffynnydd wedi cwrdd am y tro cyntaf ar strydoedd y brifddinas a dechrau sgwrsio ac yfed. Edwards yn cymryd ffansi at y ferch ifanc.
Casineb at ddynion hoyw oedd yn uno'r tri.
Fe aethon nhw i Barc Bute yn fwriadol i chwilio am darged mewn ardal sy'n adnabyddus fel cyrchfan i ddynion hoyw.
Am bron i chwarter awr fe fydden nhw'n cicio, dyrnu a phoenydio Dr Jenkins ar lawr ger caffi'r Summerhouse gan ei adael gydag anafiadau difrifol i'w ymennydd.
Bu'r seiciatrydd farw 16 o ddiwrnodau wedyn yn yr ysbyty.
'Dyn mor addfwyn, mor alluog'
Fe ddaeth y gyfreithwraig Fflur Jones i 'nabod Dr Jenkins drwy ei gwaith.
Bu'n dyst arbenigol mewn achos iawndal i un o'i chleientiaid, ac roedd tystiolaeth arbenigol Dr Jenkins yn allweddol i sicrhau achos llwyddiannus.
Cadwodd y ddau mewn cysylltiad, ac fe aeth un o ferched y seiciatrydd ar brofiad gwaith gyda Fflur Jones.
Wrth eistedd gerllaw'r fan lle digwyddodd yr ymosodiad, mae Fflur Jones yn ei chael hi'n anodd dirnad yr hyn ddigwyddodd.
"Mae'n anhygoel meddwl bod dyn mor addfwyn, mor alluog, mor agos i'w deulu, wedi ei ddal yn y ffasiwn sefyllfa," meddai.
"Mae'r straeon am beth sy' wedi digwydd yn codi gwallt eich pen chi tydi a fedra' i ddim ond cydymdeimlo hefo'i ferched o yn arbennig achos alla i ddim dychmygu be' maen nhw'n mynd drwyddo fo."
Mae Fflur Jones o'r farn bod y digwyddiad wedi bwrw cysgod dros Gaerdydd ac yn "destament i'r ffaith" bod yma broblemau cymdeithasol.
Mae'n cydweld â dyfarniad y llys.
"Fedra i ddim gweld sut y byddai'r rheithgor yn dod i unrhyw gasgliad gwahanol ac i'r graddau y mae hynny'n gwneud unrhyw iawn yna dwi'n meddwl bod cyfiawnder wedi ei wneud."
Fe geisiodd dyn arall oedd yn y parc ar y noson dyngedfennol ymyrryd a dod â'r ymosodiad ar Dr Gary Jenkins i ben.
Ond cafodd Louis Williams ei gicio a'i ddyrnu hefyd.
"Pam y'ch chi'n gwneud hyn - am ei fod e'n hoyw?" gofynnodd.
Mynnodd Mr Williams mai'r ferch ifanc, Dionne Timms-Williams - a gafodd ei henwi yn y llys wedi'r rheithfarn, er gwaethaf ei hoedran - oedd yn arwain yr ymosodiad ar Dr Jenkins.
Mae tystiolaeth y camera yng nghaffi'r parc yn rhoi mwy na sain yr ymosodiad. Roedd hefyd yn gosod amserlen bendant i'r digwyddiadau.
Wyth munud ar ôl gadael Dr Jenkins yn gorff ar lawr, roedd un o'r dynion ymosododd arno'n defnyddio cerdyn banc y seiciatrydd i brynu alcohol.
Fe welodd y llys luniau du a gwyn o Lee Strickland yn baglu ei ffordd ar draws garej Esso ar waelod Heol y Gadeirlan i'r siop i brynu chwisgi.
Mae'n gwbl ddi-hid pan mae'r cerdyn cyntaf o ddau yn cael ei wrthod.
Funudau wedyn mae camerâu diogelwch dinas Caerdydd yn recordio Jason Edwards a'r ferch ifanc yn ffarwelio â'i gilydd ger mynedfa orllewinol y parc.
Mae'r ddau'n cofleidio'i gilydd am ychydig eiliadau, ac yna'n mynd i gyfeiriadau gwahanol.
Yn llaw Jason Edwards mae ffôn symudol Dr Jenkins, y sgrin fach yn goleuo drwy gyfnos hir canol haf.
Tua'r un adeg mae dyn arall glywodd yr ymosodiad ciaidd yn cysylltu â'r heddlu.
Mewn dim mae fflachlamp plismon yn dod o hyd i Gary Jenkins yn griddfan yn wan.
Yr ieithwedd sydd wedi ennyn beirniadaeth
Mae'r elusen Stonewall sy'n ymgyrchu dros hawliau cyfartal i'r gymuned LHDTQ+ yn feirniadol o'r modd y cafodd yr achos ei erlyn yn y llys, yn enwedig tôn rhai o'r sylwadau agoriadol.
Yn benodol y frawddeg: "Sadly his sexual predilections were to be his undoing. By engaging in this activity he rendered himself hopelessly vulnerable and was an easy target. By its very nature, the activity was infused with risk."
Mae'r bargyfreithiwr a ddywedodd hyn yn y llys wedi gwadu fod ei sylwadau cyfystyr â chywilyddio dioddefwr.
Pwysleisiodd Dafydd Enoch QC yr wythnos hon nad oedd bai ar Dr Jenkins o gwbl am yr hyn ddigwyddodd.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) wedi ymddiheuro: "Yr unig bobl sy'n gyfrifol am y llofruddiaeth erchyll yma oedd y rhai a gafwyd yn euog gan y rheithgor.
"Roedd yr awgrym bod unrhyw fai ar Dr Jenkins yn gwbl anghywir.
"Rydym yn ymddiheuro am sylwadau amhriodol neu ansensitif a wnaed yn y datganiad agoriadol."
Dywedodd Iestyn Wyn, rheolwr ymgyrchoedd, polisi ac ymchwil Stonewall Cymru: "Pan ma' unrhyw beth fel hyn yn cael ei adrodd, yn amlwg mae'n cael effaith ar unigolion.
"Ond i ganran o'r gymuned sy'n uniaethu fel LGBTQ+ ac sy'n clywed yr ieithwedd a chaeth ei ddefnyddio yn ystod y digwyddiad erchyll yma, mae'n anodd peidio cymryd o 'chydig bach fwy personol ac i'r galon.
"I fi fel unigolyn dwi wedi siarad 'efo ffrindia' sydd wedi dychryn, ond fel elusen yn anffodus 'da ni'n clywed am yr achosion yma sy'n parhau i achosi cryn dipyn o sioc.
"Dim ots faint o ystadegau 'da ni'n clywed am bobl yn cael eu targedu a digwyddiadau erchyll fel hyn ar draws y byd, ma' bob un yn sioc.
"Mae'n rhaid i ni gofio y tu ôl i bob ystadegyn bod unigolion ac yn yr achos hwn, yn anffodus, mae Dr Gary Jenkins."
A yw'r achos felly wedi codi unrhyw gwestiynau penodol am Gaerdydd ac agweddau pobl tuag at y gymuned LHDTQ+?
"Mae'n codi cwestiwn am yr hyn 'da ni'n wynebu yma yng Nghaerdydd a'r Deyrnas Unedig," meddai Iestyn Wyn.
"'Da ni'n ymwybodol fod achosion o drais casineb ar gynnydd ers sawl blwyddyn bellach. Mae'n 'neud i bobl gwestiynu yr hyn sy'n ddiniwed... cwpl yn cerdded i'r gwaith law yn llaw, er enghraifft, ac yn cwestiynu os ydyn nhw'n cael gwneud hynny.
"Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus 'efo ieithwedd pan 'da ni'n ymdrin 'efo achosion mor sensitif ac erchyll â hyn.
"Be' sy' wedi ysgwyd y gymuned a chymdeithas yn ehangach ydy'r ieithwedd yn defnyddio rhyw fath o victim blaming."
Ychwanegodd fod yr elusen wedi clywed gan nifer oedd wedi mynegi "pryderon a siomedigaeth o glywed yr erlyniaeth yn defnyddio ieithwedd oedd yn rhoi'r ffocws ar y dioddefwr... yn hytrach na'r rheiny wnaeth yr ymosodiad erchyll yma".
'Allwn ni ddim derbyn y fath yna o ieithwedd'
Cafodd sylwadau'r elusen eu hategu gan Aelod o Senedd Cymru Jeremy Miles, gwleidydd blaenllaw sy'n agored hoyw.
"Mae'r drosedd yn sefyllfa drasig iawn - bod dyn wedi dioddef gymaint, ymosodiad mor ffyrnig," meddai'r AS dros Gastell-nedd.
"Mae'n syndod ac yn bechod bod hyn yn digwydd yn 21ain ganrif. Y cyd-destun yw mai ei rywioldeb e sydd wedi bod tu cefn i'r cyfan.
"Mae'r ymosodiadau ar bobl LHDTQ+ yn y ddwy flynedd ddiwetha' wedi codi rhyw 20% ac mae'r sefyllfa yn gwbl annerbyniol.
"Gwnaethpwyd awgrym bod rhywioldeb y dioddefwr wedi cyfrannu at y ffaith ei fod wedi colli ei fywyd. Allwn ni ddim derbyn y fath yna o ieithwedd.
"Mae pobl yn colli eu bywydau a'n cael ei ymosod oherwydd penderfyniadau ac agweddau pobl eraill ac nid oherwydd eu hunaniaeth a'u penderfyniadau nhw.
"Mae'n hollbwysig bod ni'n symud tu hwnt i'r math yna o ieithwedd.
"Gallwn ni ddim caniatáu awgrym bod ffordd o fyw a rhywioldeb rhywun yn cyfrannu at [ymosodiadau]. Nid y dioddefwr sydd ar fai ond y bobl sy'n troseddu.
"Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn am y ffordd rydym ni'n sôn am hynny ac yn trin hynny gyda pharch."
Ar ddiwrnod cyntaf yr achos fis diwethaf, fe blediodd y tri diffynnydd yn euog i gyhuddiadau o ddynladdiad a lladrata ac i gyhuddiad o ymosod gan achosi niwed corfforol.
Mae'r tri bellach wedi'u cael yn euog o lofruddiaeth.
Byddan nhw'n cael eu dedfrydu yn ddiweddarach, ond maen nhw'n wynebu dedfryd o oes dan glo.
Bydd Edwards a Strickland mewn carchar, a Dionne Timms-Williams mewn uned arbenigol oherwydd ei hoedran adeg y llofruddiaeth.
Ond bydd gwraig a dwy ferch Dr Gary Jenkins hefyd yn gorfod byw gyda'r hyn ddigwyddodd ym Mharc Bute weddill eu hoes.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2022