Carcharu tri am oes am lofruddio meddyg yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Dr Gary JenkinsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dr Gary Jenkins yn yn seiciatrydd uchel ei barch ac yn dad i ddwy ferch

Mae dau ddyn a merch 17 oed wedi cael eu carcharu am oes am lofruddio seiciatrydd mewn parc yng Nghaerdydd.

Roedd Jason Edwards, 25, Lee Strickland, 36, a Dionne Timms-Williams, 17, wedi eu cael yn euog fis Chwefror o lofruddiaeth.

Bu farw Dr Gary Jenkins, 54, yn yr ysbyty dros bythefnos ar ôl i'r tri ymosod arno a'i arteithio am bron i chwarter awr ym Mharc Bute yn oriau mân 20 Gorffennaf y llynedd.

Clywodd yr achos mai "homoffobia a hoffter syml o drais" oedd wedi ysgogi'r tri.

Bydd yn rhaid i Edwards a Strickland dreulio isafswm o 33 mlynedd dan glo, tra bod Timms-Williams wedi'i dedfrydu i o leiaf 18 mlynedd dan glo.

Cafodd y tri eu dedfrydu hefyd am ymosod a dwyn - 10 mlynedd yr un i Edwards a Strickland a phum mlynedd i Timms-Williams.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jason Edwards, 25, Lee Strickland, 36, a Dionne Timms-Williams, 17, wedi eu cael yn euog fis Chwefror

Clywodd y llys bod Dr Gary Jenkins yn arbenigwr yn ei faes, dyn oedd yn agored ddeurywiol, a dyn a oedd hefyd yn yfed yn drwm ar adegau ac yn crwydro canol Caerdydd yn chwilio am ryw.

Dim ond oriau ynghynt yr oedd y tri diffynnydd wedi cwrdd am y tro cyntaf ar strydoedd y brifddinas a dechrau sgwrsio ac yfed.

Casineb at ddynion hoyw oedd yn uno'r tri.

Fe aethon nhw i Barc Bute yn fwriadol i chwilio am darged mewn ardal sy'n adnabyddus fel cyrchfan i ddynion hoyw.

Am bron i chwarter awr fe fuon nhw'n cicio, dyrnu a phoenydio Dr Jenkins ar lawr ger caffi'r Summerhouse gan ei adael gydag anafiadau difrifol i'w ymennydd.

Bu'r seiciatrydd farw 16 diwrnod yn ddiweddarach yn yr ysbyty.

Ffynhonnell y llun, CPS
Disgrifiad o’r llun,

Dionne Timms-Williams yn cael ei chyfweld gan yr heddlu

Wyth munud ar ôl gadael Dr Jenkins yn gorff ar lawr, roedd un o'r dynion ymosododd arno'n defnyddio cerdyn banc y seiciatrydd i brynu alcohol.

Fe welodd y llys luniau du a gwyn o Strickland yn baglu ei ffordd ar draws garej Esso ar waelod Heol y Gadeirlan i'r siop i brynu chwisgi.

Funudau wedyn roedd camerâu diogelwch dinas Caerdydd yn recordio Jason Edwards a'r ferch ifanc yn ffarwelio â'i gilydd ger mynedfa orllewinol y parc.

Yn llaw Jason Edwards oedd ffôn symudol Dr Jenkins, y sgrin fach yn goleuo drwy gyfnos hir canol haf.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd cannoedd o bobl mewn gwylnos i gofio Dr Jenkins ddyddiau wedi i'r llys gael y tri diffynnydd yn euog o'i lofruddio

Dywedodd y Barnwr Daniel Williams fod Gary Jenkins yn "ddyn caredig, tosturiol" a bod y byd yn "lle llai caredig a lliwgar hebddo".

Wrth ddedfrydu'r tri, dywedodd eu bod wedi mynd i'r parc "yn benodol i chwilio am ddyn hoyw i ddwyn oddi wrtho".

"Roeddech chi'n meddwl y bydden nhw'n llai tebygol o fynd at yr heddlu ac roeddech chi'n cael eich gyrru gan homoffobia," meddai.

"Aeth y tri ohonoch chi ati i ymosod arno gan ei daro a'i gicio gan annog eich gilydd.

"Fe anwybyddoch chi fe'n erfyn arnoch chi i stopio, os unrhyw beth fe aeth eich ymosodiad yn fwy ffyrnig ac fe ddechreuoch chi alw enwau homoffobig arno. Roeddech chi'n mwynhau'r profiad.

"Roeddech chi'n cael hwyl, aethoch chi a'i ffôn a'i gardiau banc yn ogystal â'i eiddo mwyaf gwerthfawr, ei fywyd a'i ddyfodol."

'Ein byd wedi torri'n ddarnau'

Darllenwyd datganiad gan wraig Dr Jenkins yn y llys hefyd, a ddywedodd fod "ein byd wedi torri'n ddarnau" o ganlyniad i'w farwolaeth.

"Roedd Gary'n cael ei garu gan bawb oedd yn ei adnabod. Fel teulu roedden ni wedi'n llethu gan yr hyn ddigwyddodd - roedd yn enaid caredig fyddai fyth yn achosi unrhyw ddrwg i unrhyw un," meddai.

Ychwanegodd fod "cael bywyd preifat Gary yn cael ei arddangos fel hyn ond wedi dwysáu effaith ei farwolaeth" arni hi a dwy ferch y cwpl.

"Allwn ni ddim cael Gary yn ôl - does neb wedi ennill o hyn, collwyr ydyn ni oll. Ond fel teulu rydym yn falch fod cyfiawnder wedi'i wneud."

Pynciau cysylltiedig