Arestio dyn wedi i ddau gael eu trywanu ym Merthyr

  • Cyhoeddwyd
Stryd Brynmorlais, Merthyr Tudful

Mae dyn wedi ei arestio wedi i ddau berson gael eu trywanu ym Merthyr Tudful.

Cafodd yr heddlu a pharafeddygon eu galw i eiddo yn Stryd Brynmorlais am 08:30 fore Sul.

Cafodd dyn a dynes oedd wedi cael eu trywanu eu cludo i Ysbyty Tywysog Siarl y dref. Nid yw eu cyflwr yn hysbys.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod dyn 52 oed o Benydarren, Merthyr Tudful, wedi ei arestio ar amheuaeth o affräe.

Mae ditectifs yn credu bod yr ymosodwr wedi ffoi o'r lleoliad mewn Vauxhall Astra gwyn, gyda'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig