'Arbennig' ail-ryddhau Yma o Hyd ar gyfer Cwpan y Byd

  • Cyhoeddwyd
Dafydd Iwan a chwaraewyr CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gân hefyd yn cynnwys lleisiau'r garfan yn canu ar y cae gyda Dafydd Iwan wedi'r fuddugoliaeth dros Wcráin

Gyda phythefnos i fynd tan gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd, mae fersiwn newydd o'r gân eiconig Yma o Hyd wedi ei rhyddhau.

Cân fwyaf adnabyddus Dafydd Iwan fydd anthem swyddogol Cymru yn y twrnament yn Qatar, gyda lleisiau'r Wal Goch yn rhan ohono.

Cafodd y gân ei recordio yn ystod dwy gêm Cymru yn Stadiwm Dinas Caerydd yn erbyn Wcráin ac Awstria.

"Mae 'na gymaint o deimladau ac emosiynau yn gymysg yn y recordiad 'na erbyn hyn," meddai Dafydd Iwan ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru fore Llun.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Wales 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Wales 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

"Mae clywed y lleisiau 'na efo'i gilydd yn mynd â fi 'nôl, wrth gwrs, i'r stadiwm yng Nghaerdydd ar gyfer gêm Awstria ac yna gêm Wcráin.

"Mae'n brofiad arbennig, a dyna dwi'n meddwl sy'n bwysig i mi erbyn hyn - bod hi'n gân sydd wedi dod â phobl at ei gilydd yn eu niferoedd, yn Gymraeg a di-Gymraeg, yn teimlo bod Cymru'n eu clymu nhw i gyd.

"Allwn ni wahaniaethu ar fanylion polisi neu genedlaetholdeb neu beth bynnag, ond yn y pendraw dwi'n credu bod hyn yn ein caniatáu ni fel Cymry i ddod at ein gilydd, i fwynhau ac i gefnogi'r tîm cenedlaethol.

"Mae'n fendigedig bod hyn rhan o hynna."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tra'n canu gyda Dafydd Iwan cyn gemau Awstria a Wcráin y cafodd lleisiau'r Wal Goch eu recordio ar gyfer y fersiwn newydd

Ychwanegodd mai'r "peth rhyfedda' i mi ynglŷn â'r profiad ydy bod cân dwi 'di bod yn ei chanu ers bron i 40 mlynedd bellach yn cael sôn amdani fel cân newydd".

Fe gafodd Yma o Hyd ei recordio'n wreiddiol gan Dafydd Iwan ac Ar Log yn 1983 - cân brotest sy'n dathlu llwyddiant yr iaith Gymraeg er gwaethaf barn rhai amdani.

Mae cefnogwyr Cymru wedi mabwysiadu'r gân dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae Dafydd Iwan wedi treulio amser gyda charfannau'r dynion a'r merched yn egluro ei phwysigrwydd diwylliannol.

Roedd yn ei pherfformio yn Stadiwm Dinas Caerdydd cyn gemau tyngedfennol ail gyfle Cwpan y Byd yn erbyn Awstria a Wcráin, a thra'n gwneud hynny y cafodd lleisiau'r Wal Goch eu recordio ar gyfer y fersiwn newydd.

Mae'r gân hefyd yn cynnwys lleisiau'r garfan yn canu ar y cae gyda Dafydd Iwan wedi'r fuddugoliaeth dros Wcráin, a seliodd lle Cymru yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

"Y Wal Goch a'r chwaraewyr sy'n gyfrifol am yr holl beth 'ma, a dyna sy'n iach," ychwanegodd Dafydd Iwan.

"Nid rhyw bobl ar y top yn y gymdeithas bêl-droed yn penderfynu, ond yn cael eu harwain gan y cefnogwyr.

"Os ga' i dd'eud wrth ambell i gymdeithas arall yng Nghymru, dyna'r ffordd i'w wneud o - gadewch i'r cefnogwyr benderfynu y cyfeiriad."

Ychwanegodd fod y ffaith bod y gân wedi cyrraedd cynulleidfaoedd newydd wedi dangos iddo fod angen gwneud mwy i bontio rhwng Cymry Cymraeg a di-Gymraeg.

"Mae modd i ni fyw ein bywyd yn y diwylliant Cymraeg yng Nghymru heb gyffwrdd bron â llawer o'n cyd-Gymry di-Gymraeg," meddai.

"Mae hwn wedi bod yn gyfle i ddod â phawb at ei gilydd, ond mae'n pwysleisio efallai yr angen i ni estyn mwy allan tuag at y di-Gymraeg a pherswadio'r di-Gymraeg hefyd i ymestyn mwy aton ni."

Cafodd y fideo swyddogol ei ryddhau ddydd Llun ac mae'r trac bellach ar gael i'w ffrydio a'i lawrlwytho ar y prif blatfformau digidol gan gwmni recordiau Sain.