Car yn taro tŷ cwpl yng Ngheredigion am y pedwerydd tro

  • Cyhoeddwyd
Daeth y car i stop yn agos iawn i'r tŷ
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y car i stop yn agos iawn i'r tŷ

Dywed dyn o Geredigion y gallai fod wedi cael ei anafu'n ddifrifol pan darodd car yn erbyn ei dŷ ddydd Mawrth.

Roedd Graham Hunter, 72, o bentref Bryngwyn ger Castellnewydd Emlyn, allan gyda'i wraig yn dathlu ei phen-blwydd pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Dywedodd Mr Hunter, pe bai'n eistedd ar ei gadair arferol ar y pryd, y gallai fod wedi cael ei anafu'n ddifrifol.

Dywed Heddlu Dyfed Powys eu bod wedi arestio dyn 34 oed ar amheuaeth o yfed a gyrru.

Y difrod a wnaed i'r tŷ
Disgrifiad o’r llun,

Y difrod a wnaed i'r tŷ gan bridd a cherrig wrth i'r car daro clawdd pridd

Mae'r tŷ wedi'i leoli ger cornel ar ffordd y B4333, a dyma'r pedwerydd tro i gar daro yn ei erbyn ers iddyn nhw symud yno yn 2008.

"Roedden ni allan, a ges i alwad ffôn gan ffermwr sy'n un o fy nghymdogion, ac fe ruthron ni 'nôl a gweld y llanast," meddai.

"Roedd y gyrrwr wedi taro clawdd pridd, a cafodd yr holl bridd a rwbel ei daflu trwy'r ffenest i mewn i'r tŷ.

"Chwalodd ein ffens yn llwyr a hagru ffrynt y tŷ," meddai.

Ol y car yn y pridd tu allan i'r ty sydd ar ffordd y B4333
Disgrifiad o’r llun,

Ôl y car yn y clawdd pridd tu allan i'r tŷ, sydd ar ffordd y B4333

Mae Mr Hunter yn ceisio codi ymwybyddiaeth ynglŷn â diogelwch ar y lôn, ac yn gobeithio cael cyfarfod gyda swyddogion o Gyngor Ceredigion.

"Mae'n ardal 40mya, ond mae pobl sy'n dod i lawr y rhiw tuag at y gornel yn gallu gweld y lôn tu hwnt i'r tro, ac felly maen nhw'n rhoi troed i lawr," meddai.

Dywedodd Mr Hunter fod lori'n cario sgaffaldau wedi taro'r tŷ mewn digwyddiad blaenorol, a bod digwyddiadau eraill yn cynnwys gyrrwr amhrofiadol oedd newydd basio'i brawf gyrru, a char arall a lithrodd pan oedd eira ar y ffordd.

"Mae gennyf yswiriant, ond mae angen gwneud rhywbeth am hyn. Mae'r cyngor yn dweud eu bod wedi cyfeirio'r mater i swyddog diogelwch ffyrdd," meddai.