Beirniadu diffyg mesurau i atal ffliw adar yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Ieir
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig fod sefyllfa ffliw adar yn cael ei hadolygu'n ddyddiol

Mae ffermwr ieir ger Corwen wedi beirniadu Llywodraeth Cymru'n hallt am beidio â chyflwyno mesurau digonol i fynd i'r afael â ffliw adar yng Nghymru.

Yn ôl perchennog Wyau Derwydd, sy'n magu 32,000 o ieir yn Llanfihangel Glyn Myfyr, mae'r clefyd yn ei boeni'n "ofnadwy" ac yn ei gadw'n effro gyda'r nos.

Gyda ffliw adar wedi'i gadarnhau mewn ardaloedd cyfagos i'w fferm ef, mae Llŷr Jones yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i "newid eu meddyliau'n sydyn" ynghylch y ffordd maen nhw'n mynd i'r afael â'r clefyd.

Dywedodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig fod Llywodraeth Cymru'n gweithredu ar sail cyngor gwyddonol, ac yn adolygu'r sefyllfa'n ddyddiol.

'Pam ddim eleni?'

"Dwi'n cofio llynedd roedd 'na achos yn Chirk sydd tua 40 munud i ffwrdd a ddaru ni gau lawr Cymru bryd hynny," meddai Mr Jones.

"Rŵan mae 'na tua 10 lle yng Nghymru wedi ei gael o'n barod felly dwi just ddim yn deall, pam bod o'n ddigon da llynedd a dydy o ddim yn ddigon da eleni?"

Disgrifiad o’r llun,

Mae Llŷr Jones yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i "newid eu meddyliau'n sydyn" am sut i ddelio â ffliw adar

Mae ffliw adar yn glefyd feirysol hynod heintus. Mae'n effeithio ar systemau anadlu, treulio a nerfol llawer o rywogaethau o adar.

Mae rhai mathau o'r ffliw yn lledaenu'n rhwydd a chyflym rhwng adar ac yn achosi cyfraddau marwolaethau uchel.

Mae 10 achos o ffliw adar pathogenig iawn wedi'i gadarnhau ar safleoedd yng Nghymru ers Hydref 2021. Bwcle, Sir y Fflint yw'r safle diweddaraf i gadarnhau'r clefyd yng Nghymru, a hynny ddydd Llun.

Mae tri safle heintiedig wedi'u cadarnhau yng Nghymru ers dechrau Hydref eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Mae 10 achos o ffliw adar pathogenig iawn wedi'i gadarnhau ar safleoedd yng Nghymru ers Hydref 2021

Ddydd Mawrth fe gyhoeddodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths ddatganiad ar ddifrifoldeb a lledaeniad ffliw adar yng Nghymru, gan bwysleisio fod y sefyllfa'n cael ei "adolygu'n ddyddiol".

Cadarnhaodd hefyd fod penderfyniad Prif Swyddog Milfeddygol Cymru ar 17 Hydref i gyflwyno Parth Atal Ffliw Adar, yn parhau.

Mae'r Parth Atal yn golygu bod yn rhaid i holl geidwaid adar gadw at fesurau bioddiogelwch.

'Cymru'n dilyn cyngor'

Yn ei datganiad yn y Senedd ddydd Mawrth dywedodd Ms Griffiths: "Dros y 12 mis diwethaf rydym wedi gweld yr achosion mwyaf difrifol o ffliw adar yng Nghymru ac ar draws Prydain.

"Dyma'r achos mwyaf o glefyd hysbysadwy egsotig mewn anifeiliaid ers yr achos trychinebus o glwy'r traed a'r genau yn 2001."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lesley Griffiths yn y Senedd fod y mesurau yng Nghymru "yn briodol ac yn ddigonol ar hyn o bryd"

Er hyn, fe sicrhaodd Ms Griffiths wrth weinidogion eraill bod Cymru'n gweithredu ar sail cyngor gwyddonol, yn hytrach na dilyn ôl troed Lloegr, a gyhoeddodd ddechrau'r wythnos bod yn rhaid i ddofednod ac adar caeth gael eu cadw dan do.

"Nid yw Cymru, ynghyd â'r Alban a Gogledd Iwerddon, wedi cyflwyno gofyniad tebyg," meddai.

"Mae hyn yn adlewyrchu gwahanol raddfa a natur ffliw adar ar draws gwahanol rannau o'r DU.

"Yn ffodus, yng Nghymru, nid ydym wedi gweld dim byd tebyg i nifer yr achosion yn Lloegr, a fyddai'n ofynnol i gyfiawnhau unrhyw orchymyn tai o'r fath.

"Ar ben hynny, cyngor gwyddonol fy mhrif swyddog milfeddygol dros dro yw bod gofynion bioddiogelwch ein Parth Atal Ffliw Adar ar gyfer Cymru yn briodol ac yn ddigonol ar hyn o bryd i gyfyngu ar fygythiad y clefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae tri safle heintiedig wedi'u cadarnhau yng Nghymru ers dechrau mis Hydref eleni

Yn ôl Llŷr Jones mae'r sefyllfa mor ddrwg yng Nghymru ar hyn o bryd fod hyd yn oed cael yswiriant yn broblem.

"Does 'na'r un cwmni yn fodlon rhoi insurance i chi - mae'r risg yn rhy uchel i'w wneud o," meddai.

"Mae hyd yn oed y banc wedi ffonio. Maen nhw'n poeni oherwydd os 'sŵn i'n ei gael o, 'dach chi'n sôn am roi pobl i ffwrdd o'r gwaith, bron £1m i gael eich hunan yn ôl i'r un lle, felly mae'r boen meddwl yn go ddrwg really.

"Mae o'n rhywbeth 'dach chi'n cael job cysgu yn y nos yn meddwl amdano fo."

Wedi bod yn magu ieir ers 2015, mae Mr Jones yn dweud nad "os" daw'r clefyd yw'r pryder, ond yn hytrach, "pryd" daw'r clefyd i'w taro.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ioan Humphreys yn disgwyl i Gymru gyflwyno mesurau tebyg i Loegr yn yr wythnosau nesaf

Hefyd yn magu 32,000 o ieir mae Ioan Humphreys o Garno, sy'n derbyn bod y sefyllfa dipyn gwaeth yn Lloegr.

"Ni mewn sefyllfa wahanol," meddai. "Mae wedi bod dros 100 o cases yn Lloegr, so does dim gymaint o boen i ni yng Nghymru eto."

Wrth feddwl am orfod rhoi'r ieir dan do yng Nghymru, fel y rheol bresennol yn Lloegr, mae'n poeni am yr effaith ar yr anifeiliaid ond hefyd yr effaith ariannol.

"Bydde hwnna yn rhoi stress mawr ar yr ieir achos maen nhw'n hoffi bod allan so bydde angen gwario mwy o arian ar bethau iddyn nhw chwarae efo tu fewn i'r sied," meddai Mr Humphries.

"Byddan nhw'n bwyta mwy o fwyd hefyd, felly cost extra fan 'na."

Er hyn, mae'n rhagweld y bydd Cymru'n newid y ffordd maen nhw'n mynd i'r afael â'r clefyd yn yr wythnos neu ddwy nesaf, gan gyflwyno mesurau tebyg i Loegr.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dafydd Jarrett o NFU Cymru y byddai cadw adar dan do "werth ei wneud" er mwyn lleihau'r risg

Mae Llywodraeth Cymru ac undebau ffermwyr yn dweud bod angen cadw golwg ar y sefyllfa.

Dywedodd Dafydd Jarrett, swyddog polisi NFU Cymru: "'Dan ni gyd yn derbyn mai bioddiogelwch yw'r peth pwysicaf un, ond os ydych chi'n gwneud rhywbeth bach fel dod â'r adar i mewn sy'n lleihau'r risg, 'dan ni yn teimlo bod werth ei wneud o."