Cadarnhau achos o ffliw adar yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
DofednodFfynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n cadw adar gydymffurfio â'r parthau newydd

Mae achos o ffliw adar wedi ei ganfod ar safle yng Ngwynedd.

Mae Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Gavin Watkins, wedi cadarnhau'r achos o'r straen H5N1 ar safle ger Arthog ym Meirionnydd.

O ganlyniad mae parth gwarchod o 3km a pharth goruchwylio 10km wedi eu datgan o amgylch y safle heintiedig er mwyn atal yr haint rhag lledaenu.

O fewn y parthau mae symudiadau adar yn cael eu cyfyngu.

'Angen bod yn wyliadwrus'

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Gavin Watkins: "Mae'r chweched achos hwn o ffliw adar yng Nghymru yn ystod y 12 mis diwethaf yn destun pryder ac mae'n dystiolaeth o'r risg parhaus sydd allan yna i'n hadar.

"Bu ymlediad digynsail o ffliw adar i Brydain Fawr ac Ewrop yn 2022 ac mae'n rhaid i geidwaid adar fod yn wyliadwrus a sicrhau bod ganddynt y lefelau uchaf un o fioddiogelwch. Mae mwy y gellir ei wneud bob amser i ddiogelu eich adar.

"Wrth i ni symud i'r hydref a'r gaeaf, rwy'n eich annog i gyd i adolygu'r mesurau sydd gennych ar waith a nodi meysydd i wella.

"Meddyliwch am risgiau o gysylltu'n uniongyrchol ag adar gwyllt, yn enwedig adar y dŵr, a hefyd y pethau y gellid eu halogi gan faw adar - dillad ac esgidiau, offer, cerbydau, bwyd anifeiliaid a dillad gwely.

"Gwnewch welliannau lle gallwch chi atal lledaeniad pellach o'r clefyd dinistriol hwn.

"Mae bioddiogelwch da bob amser yn allweddol wrth ddiogelu anifeiliaid rhag clefydau."

Yn ôl asiantaethau iechyd y Deyrnas Unedig mae'r risg i'r cyhoedd o ddal y feirws yn isel iawn.