Tynnu arwydd maes awyr ffug i lawr wedi 20 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a wariodd £25,000 ar arwydd maes awyr ffug ym Mhowys yn dod â'r pranc i ben wedi 20 mlynedd.
Mae'r arwydd maes awyr rhyngwladol wedi bod yn atyniad poblogaidd ym mhentref Llandeglau, ger Llandrindod, er nad yw'r fath le yn bodoli.
Ond mae'r perchennog nawr wedi penderfynu bod hi'n bryd i'w dynnu i lawr.
Dywed Nicholas Whitehead bod neb wedi cwyno yn ei gylch ers iddo gael ei osod yn 2002.
Mae'r arwydd ar yr A44 ac mae gwefan y maes awyr ffug, sydd â chryn ddilyniant, yn cyfeirio gyrwyr at gau ar gyrion y pentref
'Jôc y mae pobl yn dwli arno'
Newyddiadurwr a chyn olygydd rhifyn Maesyfed o bapur y Brecon and Radnor Express yw Mr Whitehead, ac fe ysgrifennodd unwaith ar y cyd â'r aelod o Monty Python, Terry Jones.
"Sgwrs wallgo' gyda ffrindiau un noson yn Llandeglau," oedd man cychwyn y pranc, meddai.
"Nathon ni feddwl am logi arwydd am rywbeth nad oedd yna - poject, falle, nad oedd yn bodoli a nathon ni benderfynu ar faes awyr.
"Fe ddechreuodd fel jôc, cyn i ni sylweddoli bod e'n bosib gwneud hynny. Gafodd ei greu gan Wrexham Signs, cael sêl bendith a dyna fe."
Er iddo ragweld y byddai'r pranc yn gofidio rhai, mae'r arwydd wedi difyrru pobl leol ac ymwelwyr.
"Mewn 20 mlynedd, dwi erioed wedi cael yr un cwyn am Faes Awyr Rhyngwladol Llandeglau," meddai.
"Mae llwyth o bobol yn dwli arno - falle bod rhai ddim yn deall y jôc, ond cyn belled ag y gwn does neb yn gofidio nag yn flin yn ei gylch."
'Trysor cenedlaethol'
Mae'n costio tua £1,500 y flwyddyn i gynnal a chadw'r arwydd, ac ar ôl gwario dros £25,000, mae Mr Whitehead wedi penderfynu taw dyma'r amser i roi'r gorau arni.
"Rwy'n meddwl bod y maes awyr wedi hen sefydlu nawr ac y dylai'r sefydliad gymryd y cyfrifoldeb amdano," meddai.
"Falle nad yw'n gofeb genedlaethol, ond mae'n drysor cenedlaethol."
Fe fuasai'n hoffi gweld y corff cadwraethol Cadw yn dod y gyfrifol amdano.
"Mae wedi dod yn rhan o dreftadaeth Cymru. Ni fyddai'n costio dim byd tebyg iddyn nhw ag y mae wedi ei gostio i mi. Yn nhermau gwerth am arian, does dim i'w guro."
Roedd yna dristwch yn yr orsaf betrol gyfagos yn Crossgates ynghylch y posibilrwydd o ddiflaniad yr arwydd.
"Rwy'n byw yn Llandeglau erioed - mae'r arwydd yn rhan o'n cymuned," meddai Holly Richards.
"Mae'n jôc gyson - mae pobol yn tynnu coes eu bod newydd hedfan i Landeglau ac maen nhw'n hedfan o 'ma 'fory. Mae'n nodwedd ardderchog."
Dywedodd William Jones, 20: "Bob tro 'dan ni'n ei weld, dwi a fy ffrindiau'n chwerthin.
"Holais i mam amdano pan oeddwn i'n ifanc a hoffwn allu dweud wrth fy mhlant fy hun amdano un diwrnod."
Mae'r arwydd wedi rhoi'r pentref ar y map, medd y ffermwr Neil Richards.
"Does dim diwedd ar y bobl sydd wedi gweld neu glywed am yr arwydd sy'n stopio wrth ein fferm ar gyrion Coedwig Maesyfed, yn holi sut i ffeindio'r maes awyr," dywedodd.
"Mae'n debyg bod dwy awyren Awyrlu America wedi lanio gerllaw fel rhan o gyrch milwrol yn yr Ail Ryfel Byd."
Pan fu farw Jill Dibling, un o ddilynwyr selog y maes awyr, o ganser yr afu yn 2019, fe gafodd yr arwydd ei addasu er cof amdani - er mawr werthfawrogiad gan ei theulu yn Llandrindod.
Mae Mr Whitehead nawr yn bwriadu dechrau ymgyrch i gael cydnabyddiaeth i Faes Awyr Rhyngwladol Llandeglau.
Mae tudalennau Facebook a Twitter y maes awyr ffug wedi denu miloedd o ddilynwyr, gan rannu, ac mae Nicholas Whitehead yn rhagweld y bydd y diddordeb yn parhau, boed yna arwydd neu beidio.
"Fe allai'r arwydd ddod i lawr ond mae'r maes awyr yn dal yna," meddai.
"Mae'r maes awyr yn bodoli yn yr un ffordd ag y mae caneuon yn bodoli. Taswch chi'n rhoi'r darn papur y sgrifennodd Paul McCartney y gân Yesterday ar dân, fyddai hynny ddim yn dinistrio'r gân.
"Mae'r gân yn bodoli fel profiad cyffredin... mae'r un peth yn wir am y maes awyr."