Ymchwiliad i 'ddiwylliant gwenwynig' o fewn heddlu

  • Cyhoeddwyd
Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heddlu Wiltshire yn cynnal ymchwiliad annibynnol i negeseuon rhwng cyn swyddog Heddlu Gwent a nifer o gydweithwyr

Mae Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly, wedi cadarnhau bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r llu wedi i negeseuon "atgas" gael eu darganfod ar ffôn cyn swyddog.

Mae'n dilyn adroddiad yn y Sunday Times sy'n honni bod yna ddiwylliant o gasáu menywod, llygredd a hiliaeth o fewn y llu.

Dywedodd Ms Kelly bod cynnwys y negeseuon yn "creu darlun o ddiwylliant gwenwynig" ond mae'n mynnu nad ydyn nhw'n "cynrychioli mwyafrif ein llu".

Bydd Ms Kelly a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, yn cwrdd â holl Aelodau Seneddol y rhanbarth ddydd Llun.

Cadarnhaodd Ms Kelly y bydd Heddlu Wiltshire yn cynnal ymchwiliad annibynnol.

Bydd yn edrych ar negeseuon ar ffôn symudol a thablet a gafodd eu rhoi i Heddlu Gwent fis diwethaf.

Dywedodd Ms Kelly: "Mae'r cynnwys yr ydym wedi dod yn ymwybodol ohono yn atgas, a bydd unrhyw swyddogion y mae'r ymchwiliad yn eu nodi fel rhywrai sydd wedi torri safonau proffesiynol neu groesi'r trothwy troseddol yn atebol."

Disgrifiad o’r llun,

Ni allai'r llu "fforddio i dorri ymddiriedaeth y cyhoedd yn y ffordd yma, medd AS Gorllewin Casnewydd, Ruth Jones

Mae'r honiadau'n "ddychrynllyd" medd un o'r ASau sy'n cwrdd â'r heddlu ddydd Llun.

"Casineb, hiliaeth, camdriniaeth, llygredd," dywedodd Ruth Jones, AS Gorllewin Casnewydd. "Mae'r rhain oll yn bethau y mae'n rhaid ymchwilio iddyn nhw yn fanwl ac yn gyflym."

"Mae gyda ni oll etholwyr sy'n ofidus ynghylch y mater yma. Rydym eisiau ymchwiliad llawn."

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Pencadlys Heddlu Gwent

Dywedodd bod yr hyn sydd wedi dod i'r fei yn awgrymu bod yna broblemau ehangach o ran plismona ar draws y DU, ac fe alwodd am ymchwiliad cyhoeddus "os oes angen".

"Os mae'n digwydd yng Ngwent ac o fewn y Met [Heddlu Llundain], lle arall mae e'n digwydd?" gofynnodd. "Ry'n ni angen gwybod beth sy'n mynd ymlaen.

"Ry'n ni hefyd eisiau i hyn ddigwydd yn gyflym. Rhaid i ni adfer ffydd y cyhoedd yn yr heddlu, oherwydd fel ry'n ni wedi gweld gyda'r Met yn Llundain, roedd yr hyn a ddigwyddodd yn achos Sarah Everard yn niweidiol iawn."

'Cynnwys ffiaidd'

Yn ôl adroddiad y Sunday Times, roedd y ffôn yn perthyn i swyddog a wasanaethodd gyda'r llu am 26 o flynyddoedd.

Wedi ei farwolaeth, daeth negeseuon WhatsApp a Facebook rhyngddo a swyddogion eraill i'r amlwg.

Maen nhw'n trafod yn agored:

  • aflonyddu cydweithwyr benywaidd iau;

  • sylwadau hiliol, homoffobig a gwreig-gasaol;

  • rhyddhau deunydd heddlu sensitif; a

  • ymarferion o lygredd.

Disgrifiad o’r llun,

Dyw'r negeseuon sydd wedi dod i'r fei ddim yn cynrychioli'r llu medd y Prif Gwnstabl Pam Kelly

Ym mis Medi, fe gafodd dau o uwch swyddogion Heddlu Gwent eu diswyddo am gamymddygiad dybryd yn dilyn honiad o gyffwrdd swyddog iau yn amhriodol mewn parti yn 2019.

Dywedodd Pam Kelly bod y diswyddiadau hynny'n adlewyrchu ymroddiad y llu i gymryd camau yn erbyn y rhai "sy'n ein siomi ni oll".

"Rydym yn derbyn nad yw Heddlu Gwent bob tro yn y gorffennol wedi cynnal y safonau y dylai'r rheiny sy'n codi materion gyda ni eu disgwyl," meddai.

"Mae'r cynnwys sydd wedi cael ei rannu gyda ni yn ffiaidd a does dim lle o gwbl i'r fath sylwadau o fewn Heddlu Gwent."

Pynciau cysylltiedig