Pam bod pobl yn gwisgo pabi gwyn?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Rhun DafyddFfynhonnell y llun, Rhun Dafydd

Mae'n draddodiad i ffigyrau cyhoeddus a thrigolion ar hyd a lled y wlad i wisgo'r pabi coch fel arwydd o barch er mwyn coffáu y rhai fu farw oherwydd rhyfel - ond mae rhai yn dewis gwisgo'r pabi gwyn, gan gynnwys y canwr Dafydd Iwan eleni.

Un o'r rhai sy'n gwisgo'r pabi gwyn yw Cadeirydd Cymdeithas y Cymod, Rhun Dafydd. Yma mae'n rhoi ychydig o gefndir ar pam mae'n gwisgo pabi gwyn yn ystod digwyddiadau coffáu Sul y Cofio.

Mae'r pythefnos gyntaf ym mis Tachwedd bellach wedi cysylltu'n agos gyda digwyddiadau coffa. Un symbol mae pobl yn ei ddefnyddio i goffáu yn ystod y cyfnod hwn yw'r pabi gwyn.

Ond beth yn union mae'r pabi gwyn yn ei gynrychioli? Yn syml mae'n amlygu'r neges 'Byth eto' ac ein bod yn dysgu o erchyllterau rhyfel. Mae'r pabi hefyd yn cynrychioli'r tair agwedd ganlynol:

  • I gofio holl ddioddefwyr rhyfel, gan gynnwys y rhai sy'n sifiliaid ac aelodau o'r lluoedd arfog. Mae hwn yn cynnwys rhyfeloedd sydd yn digwydd ar hyn o bryd fel y rhyfel sydd yn digwydd yn Wcráin ac Yemen a rhyfeloedd y gorffennol. Yn ôl y Cenhedloedd Unedig mae 90% o bobl sy'n cael eu lladd mewn rhyfeloedd yn ddinasyddion ac felly fel dinasyddion y byd a ddylem goffáu pawb sy'n colli eu bywyd yn sgil gwrthdaro, beth bynnag eu cenedligrwydd? Fe nododd ymchwil gan Populus bod 83% o boblogaeth Prydain yn credu y dylai'r pabi gwyn gofio dioddefwyr rhyfel o bob cenedl.

  • I herio militariaeth ac unrhyw gais i fawrygu a dathlu rhyfel a thrais. Mae gwisgo pabi gwyn yn ein hatgoffa bod angen gwrthsefyll rhyfel gan sicrhau nad yw'n cael ei normaleiddio a chyfiawnhau'r trais a'r dioddefaint. Roedd y rhyfel byd cyntaf yn cael ei weld fel y rhyfel i orffen pob rhyfel ond mae dros 167 miliwn o bobl wedi marw mewn rhyfeloedd ers hynny. Mae'n rhaid sylwi nad yw trais yn medru creu heddwch. Ystyriwch hwn - mae'r rhan fwyaf o wrthdaro mewn rhyfeloedd yn gorffen gyda rhyw fath o drafodaeth diplomataidd o amgylch bwrdd felly mae'n rhaid ein bod ni'n edrych i addysgu y genhedlaeth nesaf am gymodi a pheidio defnyddio arfau wrth ymateb i wrthdaro.

  • I adeiladu diwylliant heddychlon a gweithio dros ddulliau di-drais fel ateb i wrthdaro. Mae'r pabi gwyn yn amlygu cost ddinistriol dynol ac amgylcheddol rhyfel. Bellach mae dros 100,000 o babis gwyn yn cael eu cynhyrchu pob blwyddyn yn y DU ac mae'r elw bach sy'n cael ei greu yn mynd tuag at waith ynglŷn ag addysg heddwch ac ymgyrchu yn erbyn militariaeth. Nid arf i fawrygu rhyfel ddylai Sul y Cofio fod ond cyfle i bawb ystyried yr aberth mae'n cyfoedion a chyndeidiau wedi gorfod ei brofi wrth ddysgu taw trwy gyfathrebu adeiladol allwn ni greu heddwch hirdymor.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn dweud fod y pabi coch hefyd yn arwydd o heddwch ac yn symbol i goffáu y rhai sy' wedi marw mewn rhyfel

Yn wahanol i'r gred gyffredinol cafodd y pabi gwyn ei gynhyrchu yn 1933 fel dilyniant i'r rhyfel byd cyntaf gan Urdd y Merched Cydweithredol, sefydliad yn bennaf o fenywod oedd wedi colli gwŷr, tadau, meibion, brodyr a ffrindiau yn ystod y rhyfel. Roedd y menywod yn poeni am gynnydd mewn militariaeth o ddigwyddiadau coffa a'r datgysylltiad rhwng y pabi coch a'r angen i weithio dros heddwch.

Ffynhonnell y llun, Rhun Dafydd

Yng Nghymdeithas y Cymod rydym yn cyd-sefyll gyda'r egwyddorion gwreiddiol hyn ac eleni rydym wedi gweld cynnydd ym mhroffil y pabi gwyn gydag unigolion fel Dafydd Iwan a'r bardd Benjamin Zephaniah yn ei wisgo'n gyhoeddus dros yr wythnos diwethaf.

Nid yw'r pabi gwyn yno i ddiystyru'r aberth mae milwyr wedi gwneud drosom ond i'w ddefnyddio ar y cyd i edrych ar ffyrdd heddychlon i ymateb i drais.

Pynciau cysylltiedig