Athrawes yn gwadu iddi gosbi plentyn 10 oed ag awtistiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae athrawes mewn achos o greulondeb honedig - gan gynnwys rhwygo amddiffynwyr clust oddi ar ddisgybl mewn ysgol anghenion arbennig - wedi dweud wrth lys nad oedd hi'n gwybod fawr ddim am effaith sŵn ar blant nad sydd â'r gallu i'w brosesu yn iawn.
Dywedodd Laura Murphy, 33, oedd wedi gweithio yn ysgol Park Lane yn Aberdâr am saith mlynedd, nad oedd hi "erioed wedi darllen" unrhyw beth i ddweud y gallai sŵn achosi poen i blant ag awtistiaeth.
"Doeddwn i ddim yn gwybod llawer i fod yn onest," meddai wrth Lys y Goron Abertawe.
"Roeddwn yn gwybod eu bod yn cael eu defnyddio er mwyn bod yn gyfforddus ac i wneud synau yn llai swnllyd."
Mae Ms Murphy a'r cynorthwyydd dysgu Mandy Hodges yn gwadu saith cyhuddiad o ymosod drwy guro a chreulondeb i dri o fechgyn 8, 9 a 10 oed.
Dywedodd Ms Murphy: "Mi welais o heb ei amddiffynwyr clust yn neuadd yr ysgol, y ystod gwasanaeth, drwy drampolinio, ac yn y pwll nofio lle dydi amddiffynwyr clust ddim yn cael eu gwisgo."
Does dim modd enwi'r bechgyn oherwydd rhesymau cyfreithiol.
Mae'r llys wedi clywed fod ymddygiad y bachgen 10 oed wedi newid ar ôl y digwyddiad.
Gwadu creulondeb
Yn ôl yr erlyniad roedd staff eraill wedi gweld Ms Murphy yn "rhwygo" yr amddiffynwyr oddi ar glustiau'r bachgen a'u bod wedi adrodd y stori i'r pennaeth.
Honnir hefyd bod Ms Murphy wedi llusgo bachgen ar draws fuarth yr ysgol
Dywedodd Ms Murphy iddi gymryd yr amddiffynwyr oddi ar ei glustiau oherwydd iddi weld athrawon eraill hefyd yn gwneud hynny.
Gwadodd ei bod wedi eu cymryd oddi ar y bachgen fel cosb.
Dywedodd ei bod ond wedi cael hyfforddiant elfennol o ran awtistiaeth cyn dod yn athrawes dosbarth.
Ychwanegodd nad oedd wedi cael hyfforddiant i weithio gyda phlant sydd â sensitifrwydd uchel i sŵn.
Fe wnaeth hi hefyd wadu gwthio plentyn arall, gan honni ei bod yn credu fod y plentyn ar fin ei brathu.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2022