Oriel: Murluniau o bêl-droedwyr Cwpan y Byd
- Cyhoeddwyd
Mae eu henwau eisoes wedi eu hanfarwoli yn y llyfrau hanes a bellach mae eu hwynebau hefyd wedi eu paentio ar adeiladau ar hyd a lled y wlad.
Wrth i garfan Cymru baratoi i gynrychioli eu gwlad yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 64 mlynedd mae Mentrau Iaith Cymru yn dathlu'r ffaith gyda murluniau trawiadol o rai o chwaraewyr Cymru sydd wedi ymddangos mewn gwahanol lefydd.
Tegerin Roberts a Lloyd Roberts yw'r artistiaid graffiti sydd wedi dylunio'r murluniau.
Y murlun cyntaf i ymddangos oedd Joe Allen ar wal y Farmers Inn yn Arberth. Daeth rhieni y chwaraewr canol cae a fagwyd yn Arberth i roi sêl bendith ar y murlun.
"Daeth ei fam a'i dad i lawr i gael sgwrs 'da fi pan oeddwn i'n paentio," meddai Lloyd. "Doeddwn i ddim yn sylweddoli eu bod nhw'n byw jesd rownd y gornel. Gwnaeth hynna roi tipyn o extra pressure. Roedden nhw wrth eu boddau, yn blês iawn, dyna oedd y peth pwysicaf i mi. Roeddwn i'n gallu ymlacio wedyn."
Llun Gareth Bale oedd y nesaf i ymddangos a hynny yn yr Hen Lyfrgell yn yr Ais yng Nghaerdydd. Magwyd y seren ryngwladol yn y brifddinas ac aeth i Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd.
O hynny ymlaen mae'r artistiaid graffiti wedi bod i bob cornel o Gymru i greu lluniau o'r chwaraewyr mewn gwahanol gymunedau - nifer ohonyn nhw, ond nid pob un, â chysylltiadau yn lleol.
Dyma fam Joe Rodon yn sefyll o flaen y llun o'i mab ar wal Tŷ Tawe, Abertawe.
Daw Rodon o Langyfelach ger Abertawe ac ymunodd â chlwb yr Elyrch pan oedd yn wyth oed gan arwyddo ei gytundeb proffesiynol cyntaf yno yn 2015.
Rhys Norrington-Davies yw testun y murlun yng Nghlwb Pêl-droed Bow Street ger Aberystwyth lle chwaraeodd Rhys pan oedd yn ifanc.
Er bod anaf yn golygu na fydd Rhys yn chwarae yng Nghwpan y Byd roedd y trefnwyr a'r teulu yn awyddus i barhau gyda'r murlun i nodi'r rhan a chwaraeodd yn yr ymgyrch i gyrraedd Qatar.
Harry Wilson sydd ar y murlun yng Nghorwen, Sir Ddinbych. Cafodd ei fagu yng Nghorwen a chael ei addysg yn Ysgol Dinas Brân, Llangollen.
Mae'r llun ohono ar wal pafiliwn chwaraeon y dref.
Datgelwyd y murlun o Rob Page a Jimmy Murphy yng Nghanolfan Les Pendyrys, neu Tylorstown, yn y Rhondda - cartref Page, rheolwr Cymru - i gyd-fynd gyda chyhoeddiad y garfan.
Un o Don Pentre oedd Jimmy Murphy, cyn chwaraewr chwedlonol gyda West Bromich Albion a Chymru a oedd wrth y llyw yr unig dro arall i Gymru chwarae yng Nghwpan y Byd 'nôl yn 1958. Fe gafon nhw eu curo yn rownd yr wyth olaf gan Frasil; Pele a sgoriodd yr unig gôl.
Y gôl-geidwad Wayne Hennessey yw'r arwr lleol ar furlun Canolfan Ucheldre, Caergybi. Fel Bale, Allen a Ramsey, mae'n un arall o hoelion wyth Cymru a serenodd yn Euro 2016.
Cafodd Hennessey ei fagu ym Miwmares ac aeth i Ysgol Uwchradd David Hughes ym Mhorthaethwy cyn symud i Ysgol Uwchradd Cei Conna i fod yn nes at Fanceinion lle roedd yn hyfforddi gyda Manchester City.
Yn Nyffryn Nantlle mae Ethan Ampadu wedi ymddangos ar wal ym Mhenygroes.
Yn ogystal â lluniau chwaraewyr mae geiriau neu ymadroddion amlwg ym mhob murlun: y geiriau ym Mhenygroes yw "Mae'r wlad ei hun yn fach, ond ma'r ddraig yn pwyso tunnall", sef llinell o'r gân Yma gan y cerddor lleol Sage Todz - fersiwn newydd o Yma o Hyd.
Connor Roberts sy'n ysbrydoliaeth i blant y Drenewydd yn y murlun yma ar ochr siop Charlies yn y dref.
Aaron Ramsey, un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Cwm Rhymni yw'r arwr yng Nghaerffili. Cafodd flas ar chwarae pêl-droed gyntaf yn un o sesiynau hyfforddi yr Urdd yng Nghaerffili.
Mae'r gyfres o furluniau yn un o brosiectau Mentrau Iaith Cymru i ddathlu Cwpan y Byd ac mae un murlun ar ôl i'w gwblhau yn Llanrwst.
Llun o Dan James fydd yr olaf, a bydd y geiriau'n cael eu datgelu'n fuan.
Esboniodd Daniela Schlick, cydlynydd prosiectau gyda'r Mentrau Iaith: "Daeth pwyllgor bach at ei gilydd i drafod syniadau sut i ddathlu llwyddiant tîm pêl-droed Cymru a'r gyfres o furluniau oedd yn un amlwg iawn i ni - yn llythrennol. Ein nod ni ydy cyfleu ysbryd y tîm a'r Cymry ar y murluniau.
"Yn bwysicach na dim rydym yn awyddus i gyrraedd cymunedau Cymru iddyn nhw allu fod yn rhan o'r dathliadau a gallu cadw rhywbeth yn ein cymunedau sy'n parhau. Mae'r murluniau'n fwriadol mewn lleoliadau sydd yn agos at y cymunedau. Rydym yn dathlu tîm Cymru, ein hiaith a'n diwylliant trwy groesawu pawb o bob man i ddathlu gyda ni."