Robert Page: Y diweddara' o ffatri reolwyr y Rhondda
- Cyhoeddwyd
Mae Robert Page ar drothwy creu hanes, wrth iddo baratoi i arwain Cymru yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 64 mlynedd.
Cyn hedfan i Qatar wythnos nesaf, nos Fercher mae'n dychwelyd i'w wreiddiau i enwi'r 26 chwaraewr yng ngharfan Cymru, ac fe allwch chi ddilyn y cyfan ar wefan BBC Cymru Fyw.
Bydd hynny yn ei dref enedigol yng Nghwm Rhondda, ble gymerodd ei gamau cyntaf tuag at yrfa ym myd pêl-droed.
"Mae pobl yn meddwl fy mod yn dod o Lwynypia ond dim ond yr ysbyty oedd hwnnw - doedd dim ysbyty yn ein cwm ni. Cefais fy magu ym Mhendyrus," meddai Page.
"Mae yn fy DNA i. Rwy'n meddwl ei fod gydag unrhyw un sydd wedi tyfu i fyny yn y cymoedd."
"Doedd bywyd ddim yn hawdd gyda chau'r pyllau. Roedd llawer o'r diwydiant bryd hynny y tu allan i'r cymoedd felly roeddech chi'n mynd ymhellach i ffwrdd i roi bwyd ar y bwrdd i'ch teulu.
"Dyna pryd mae pobl yn hel o gwmpas ei gilydd ac yn helpu ei gilydd. Felly o'r agwedd honno, rwy'n meddwl fy mod wedi cael fy magu yn y ffordd iawn a bod gen i foesau da, ac rwyf wedi mynd â hynny trwy gydol fy oes.
"Mae gen i atgofion gwych. Fe wnaethon ni greu Clwb Pêl-droed Bechgyn Pendyrus, roedd fy nhad yn rhan ohono ac roedd mam yn arfer golchi'r cit ar y lein bob dydd Sul."
Roedd potensial Page yn amlwg yn ystod ei blentyndod ac yma ym mhentref cyfagos Pentre y bu'n chwarae i Ysgolion Rhondda Cynon Taf (RCT).
Cyn bo hir roedd yn cynrychioli tîm ysgolion Cymru, ac yna gyda Watford daeth ei yrfa broffesiynol i'r amlwg.
"Roedd yn gymeriad eithriadol," meddai Lynn James, a oedd yn hyfforddi Ysgolion RCT ar y pryd ac sy'n parhau i wirfoddoli i gynorthwyo gyda'u sesiynau ymarfer.
"Yn gorfforol, roedd yn sicr yn bwerus ac yn dechnegol eithaf da hefyd ond yr hyn a'i wnaeth yn rhagorol oedd ei allu i gymryd gwybodaeth a chymryd technegau a'u troi'n sgiliau.
"Cafodd ei wneud yn gapten ac roedd yn ddylanwad da ar eraill. Roedd yn aeddfed ac yn arweinydd, yn unigolyn tawel ond digri' - yr union fath o berson rydych chi ei eisiau fel capten."
Cwm Rhondda: Ffatri reolwyr
Mae gan Gwm Rhondda record anhygoel o ddatblygu hyfforddwyr pêl-droed.
Yn ogystal â Page, mae prif hyfforddwr Nottingham Forest, Steve Cooper, rheolwr Luton Town, Nathan Jones a chyn-reolwraig Cymru, Jayne Ludlow, i gyd yn dod o'r ardal yma.
A dim ond rhyw 100 llath o le roedd Page yn arfer chwarae gyda thîm Ysgolion RCT ym Mhentre, mae'r tŷ lle ganwyd y dyn diwethaf i arwain Cymru at Gwpan y Byd, sef Jimmy Murphy.
Yr unig dro arall i Gymru chwarae yng Nghwpan y Byd 'nôl yn 1958, Murphy oedd wrth y llyw wrth iddyn nhw gyrraedd rownd yr wyth olaf - a chael eu curo gan Frasil; Pele yn sgorio'r unig gôl.
"Fi'n credu mae Jimmy Murphy wedi dod yn fwy pwysig i Gymru na beth oedd e 'nôl yn y 50au," meddai'r Athro Martin Johnes o Brifysgol Abertawe.
"Yn y 50au, roedd Cwpan y Byd yn rhywbeth weddol newydd i dimau o Brydain. Roedden nhw'n gweld y gêm clwb yn fwy pwysig na'r gêm ryngwladol.
"Felly yn 1958, doedd dim lot o ffws am Gwpan y Byd - dim lot yn y papurau newydd, dim ond un neu ddwy gêm oedd ar y teledu.
"Ond nawr mae Cwpan y Byd wedi troi mewn i rywbeth gwahanol, rhywbeth reallypwysig ac wrth gwrs 1958 oedd y tro diwethaf roedden ni yna.
"Nawr mae 1958 wedi troi yn symbol o beth sydd wedi digwydd i hanes y gêm yng Nghymru."
Erbyn hyn, 64 mlynedd yn ddiweddarach, bydd dyn a aned ychydig filltiroedd i ffwrdd o blac glas Murphy yn ei efelychu.
Bydd balchder ar draws y wlad pan fydd Page yn arwain Cymru wrth iddyn nhw ddechrau eu hymgyrch Cwpan y Byd yn erbyn yr Unol Daleithiau ar 21 Tachwedd.
Achlysur hanesyddol i genedl gyfan ac, i un cwm yn arbennig, moment i'w drysori.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd13 Medi 2022
- Cyhoeddwyd18 Mai 2022
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2018