Chwilio am waith wrth i gostau byw gynyddu
- Cyhoeddwyd
"Yn anffodus, mi fydd rhaid i mi gychwyn eto," meddai Karl Edwards, sy'n 60 oed ac yn chwilio am waith yn ystod yr argyfwng costau byw.
Mae Mr Edwards, o Gaerau ger Maesteg, wedi colli ei swydd fel gofalwr ysgol. Fel yr un olaf i ymuno â'i dîm, fe oedd y cyntaf i orfod gadael pan ddaeth toriadau.
Bellach mae Mr Edwards wedi gwneud ceisiadau am waith gyda chefnogaeth ymgynghorydd o Ganolfan Cymunedol Caerau.
"Yn anffodus, fel 'na mae. Dwi nawr yn croesi fy mysedd," meddai.
"Mae'r ceisiadau yma wedi mynd drwyddo, ac fe ga'i ateb yn yr wythnosau nesaf."
Mae ffigyrau a gyhoeddwyd fore Mawrth yn dangos fod cyfradd diweithdra wedi gostwng ychydig yng Nghymru yn y tri mis hyd at fis Medi.
3.7% ydy'r gyfradd ddiweddaraf, sy'n golygu fod tua 55,000 o bobl yn ddi-waith ac yn chwilio am waith yng Nghymru.
Ond mae nifer y bobl sydd mewn gwaith hefyd wedi gostwng, gan olygu mai 72.3% ydy cyfradd y rheiny mewn gwaith yng Nghymru.
Gall nifer y bobl mewn gwaith a nifer y di-waith ostwng ar yr un pryd pan mae cynnydd yn nifer y bobl sydd ddim ar gael i weithio - fel pobl sy'n wael, rheiny sydd wedi ymddeol neu fyfyrwyr llawn amser.
'Mae'n costio mwy'
Mae Karl Edwards wedi colli ei waith ar gyfnod pan mae prisiau ar gyfartaledd 10.1% yn uwch nag oedden nhw flwyddyn yn ôl.
"Dwi'n talu mwy [o arian] nawr nag oeddwn i cyn i hyn daro'r gymuned," meddai.
"Felly mae'n costio mwy i gadw fy hunan yn gynnes, am drydan, am fwyd, yr hyn a'r llall, nag oedd hi y llynedd."
Yn ei amser sbâr mae Mr Edwards yn gwirfoddoli yn y ganolfan, ac mae'r ymddiriedolaeth sy'n gyfrifol am reoli'r ganolfan wedi sefydlu caffi sy'n gwerthu prydiau rhad, a siop bwyd ble mae pobl yn talu beth fedran nhw.
Jo Jackson sy'n gyfrifol am redeg y siop, a dywedodd bod cyfran uwch o'i chwsmeriaid yn bobl mewn gwaith.
"Fyddech chi'n debygol o feddwl eu bod nhw yn weddol gyfforddus, rhai ohonyn nhw, ond mae pawb yn ei chael yn anodd," meddai.
"Rydyn ni'n gweld bod nifer o bobl mewn gwaith yn dod yma nawr."
Mae'r siop yn derbyn rhoddion gan archfarchnadoedd lleol. I rai mae'n gyfle i brynu bwyd rhad ar gyfnodau pan mae arian yn dynn, ond mae rhai eraill wedi dod i ddibynnu ar y siop bob wythnos.
Yr angen i ehangu
Ymddiriedolaeth Datblygu Caerau sydd yn rheoli'r ganolfan. Dywedodd y dirprwy gadeirydd Paul Davies bod y ganolfan wastad wedi croesawu pobl ddi-waith, ond bod "y sefyllfa yn newid".
"Ble roedd pobl ddi-waith a difreintiedig yn dod, mae 'na bellach bobl sydd mewn gwaith, mewn swyddi â chyflogau isel.
"Cytundebau zero-hours. Pob math o bobl. Pawb, yn y bôn."
Ar hyn o bryd mae'r ganolfan yn brysur bob dydd, ac mae cynlluniau i ehangu'r gofod sydd ar gael i ymwelwyr sydd angen cymorth, a rhywle cynnes i fynd yn ystod y dydd.
"Os oes angen, mae modd i ni agor ystafell arall a rhoi byrddau a chadeiriau yma," meddai Mr Davies.
"Os yw'r sefyllfa yn mynd yn desperate, ac mae'r gaeaf yn un oer."
Mae'n siwrnai fer i lawr y cwm o Gaerau tua chyfeiriad Nantyffyllon, ble mae yna ganolfan hyfforddi sydd yn rhoi sgiliau newydd i bobl leol.
'Gwacter yn y diwydiant'
Canolfan Adeiladu Maesteg sy'n rhoi hyfforddiant i blant sy'n gadael ysgol, ac i oedolion sydd am ennill gwaith, ym maes adeiladu.
"Mae 'na wacter mawr o fewn y diwydiant adeiladu. Maen nhw'n ysu cael staff a gweithwyr," meddai rheolwr y ganolfan, Jamie Piper.
"Dwi'n siarad gyda nifer o gwmnïau ac maen nhw'n awyddus i gael ein myfyrwyr. 'Nôl ym mis Ionawr pan agoron ni roedden nhw'n dweud 'brysiwch, hyfforddwch y bechgyn yma'."
Ymhlith y myfyrwyr mae Morgan Davies sy'n 16 oed ac yn dod o Gaerau. Mae wedi dechrau cwrs adeiladu ar ôl gadael Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd.
"Fi'n joio fe. Fi'n pigo lan ar sgiliau newydd," meddai.
Mae Morgan wedi dysgu sut i adeiladu waliau, ac mae am barhau gyda'i yrfa ar ôl cwblhau'r cwrs presennol.
"Rwy'n gobeithio 'neud prentisiaeth ar ddiwedd y cwrs," meddai.
"Fi wedi cal blas o waith bric yn yr ysgol, a dwi wedi gwneud penderfyniad i ddod i fan hyn oherwydd wy'n byw lan yr hewl, a fi'n joio bod fan hyn bob dydd. Mae'n dda."
'Problem enfawr'
Mae galw mawr am sgiliau fel gwaith adeiladu, ac er gwaethaf y sefyllfa economaidd dymhestlog mae lefelau diweithdra o hyd yn gymharol isel.
Yn ôl TUC Cymru, sy'n cynrychioli amrywiaeth o undebau, mae nifer o bobl mewn gwaith yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r cynnydd mewn costau byw.
"Mae'n broblem enfawr ar hyn o bryd," meddai Ffion Dean, swyddog cyfathrebu TUC Cymru.
"'Dan ni'n gwybod bod 28% o bobl yng Nghymru yn barod wedi cymryd ail swydd, a 'dan ni hefyd yn gwybod bod un o bob pedwar o bobl sy'n gweithio yng Nghymru wedi dweud ei bod nhw - yn yr ychydig o fisoedd diwethaf - wedi gorfod methu un pryd o fwyd y diwrnod jyst er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd.
"Felly mae'r broblem yn un fawr."
Mae Ms Dean yn rhybuddio bod y dyfodol yn ansicr.
"Rydyn ni'n meddwl bydd hyn yn mynd yn waeth yn ystod y misoedd sydd i ddod, yn anffodus," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd16 Awst 2022