Josh Macleod yn dechrau wrth i Gymru herio Georgia
- Cyhoeddwyd
Fe fydd rheng-ôl y Scarlets Josh Macleod yn dechrau i'r tîm cenedlaethol am y tro cyntaf wrth i Gymru wynebu Georgia yn eu gornest olaf-ond-un yng Nghyfres yr Hydref.
Mae'r hyfforddwr Wayne Pivac wedi gwneud chwech o newidiadau i'r 15 gurodd Ariannin - ond does dim lle o hyd i Alun Wyn Jones.
Bydd Macleod, Ben Carter a Jac Morgan yn dechrau ymysg y blaenwyr, gyda Josh Adams, Owen Watkin a Rhys Priestland ymysg yr olwyr.
Mae Dafydd Jenkins a Dane Blacker - dau arall sydd heb ennill cap hyd yma - ymhlith yr eilyddion.
Dim ond yr wythnos yma y cafodd clo 19 oed Caerwysg, Jenkins, ei alw i'r garfan ar y cyd â Rhys Davies o'r Gweilch, oherwydd anafiadau Will Rowlands a Dan Lydiate.
Mae Macleod, 26, wedi aros yn hir i gael ei gap gyntaf. Fe gafodd ei ddewis ar gyfer carfan Cyfres yr Hydref yn 2020, ond cafodd ei rwystro rhag chwarae gan anaf i linyn y gar.
Yna, ar ôl cael ei enwi yn y tîm oedd i chwarae yn erbyn Yr Alban yn y Chwe Gwlad yn Chwefror 2021, cafodd anaf i'w achilles.
Bydd yn dechrau gêm Georgia yn safle'r wythwr - safle anghyfarwydd iddo.
Bydd yn cymryd lle Taulupe Faletau, sy' wedi ei enwi fel eilydd, tra bod Morgan yn cymryd lle Lydiate fel blaenasgellwr.
Gyda Louis Rees-Zammit yn aros fel cefnwr, bydd Adams, sy'n cymryd lle Rio Dyer, yn dechrau ei gêm gyntaf ers bron i fis ar ôl iddo anafu ei law wrth chwarae i Gaerdydd.
Bydd Priestland yn cymryd lle Gareth Anscombe fel maswr, gyda'r canolwr Watkin yn dechrau wrth ochr George North, a Nick Tompkins yn cael ei adael allan.
Bydd Leigh Halfpenny yn eilydd ar ôl gwella o anaf llinyn y gar.
Tîm 'cryf iawn'
Mae Cymru yn wynebu Georgia yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, ar ôl colli yn erbyn , dolen allanol a churo'r Pumas.
"Mae Georgia yn dîm fydd ddim yn rhy annhebyg i'r Ariannin yn nhermau chwarae ymysg y blaenwyr, maen nhw'n gryf iawn yn y blaen", meddai'r hyfforddwr Wayne Pivac.
"Mae'n rhaid i ni atgyfnerthu'r perfformiad yn erbyn yr Ariannin, a bod yn llawer mwy clinigol gyda'r bêl."
Bydd Cymru'n croesawu Awstralia ar 26 Tachwedd - gêm sydd tu allan i gyfnod swyddogol y gyfres, gan olygu na fydd chwaraewyr sy'n chwarae yn Lloegr ar gael.
Tîm Cymru i wynebu Georgia:
Rees-Zammit; Cuthbert, North, Watkin, Adams; Priestland, T Williams; G Thomas, Owens, D Lewis, Carter, Beard, J Morgan, Tipuric (capt), J Macleod.
Eilyddion: B Roberts, R Jones, S Wainwright, D Jenkins, Faletau, Blacker, Costelow, Halfpenny.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2022